30 likes | 209 Views
Nodiadau athro – Gwerthuso. Cefndir – Mae sgiliau gwerthuso’n allweddol i unrhyw ddylunydd effeithiol.
E N D
Nodiadau athro – Gwerthuso. Cefndir – Mae sgiliau gwerthuso’n allweddol i unrhyw ddylunydd effeithiol. . Pwynt dysgu/trafode.e. Gall y disgyblion weithio mewn parau neu’n unigol a defnyddir y geiriau allweddol i’w hannog i feddwl. Rydyn ni wedi ceisio gwneud y gwerthuso’n berthynol i’r dasg trwy ofyn am addasrwydd y cynnyrch i gael ei werthu mewn siop ar y stryd fawr. Yn berthynol i’r tasg a osodwyd hefyd mae cwestiwn sy’n cyfeirio at eu llwyddiant wrth gyflawni un o’r pwyntiau manyleb, sef datblygu nodwedd addurnol neu logo newydd. Pwynt dysgu/trafod e.e.Gofynnir y cwestiynau hyn ihybu sgiliau myfyriol a gwerthuso prosiect y disgyblion h.y. “Beth wnaethoch chi ddysgu a beth fydd eich targedau dysgu at y dyfodol?” Bydd adnabod gwendidau yn y cynnyrch a sut i wella arno yn datblygu’r sgiliau gwerthuso ymhellach.
Y Cefndir – Bydd disgyblion yn mwynhau’r dasg hon a chaiff ei gwblhau i safon dderbyniol. Mae’r eglurhad digidol a’r banc geiriau ar ochr y dudalen yn gymorth. Trwy adael y dasg ar y sgrîn neu ar ddilyniant dolennol gall fod yn dasg addas ar gyfer disgyblion sydd wedi cwblhau eu gwaith ymarferol. Y Cefndir – Ers i ni ddysgu’r agwedd hon yn ddigidol rydym wedi sylwi ar welliant yng ngwaith y disgyblion. Mae’n ymddangos eu bod yn deall y cysyniad yn gyflym iawn, efallai am fod yr eglurhad o’r dasg yn weledol. Pwynt dysgu/trafod e.e. Gofynnir i’r disgylbion luniadu’r cynnyrch terfynol yn defnyddio meddalwedd CAD neu luniad llinell sydd wedi’i rendro. Gofynnir iddynt edrych yn ôl ar y sylwadau yn eu gwerthusiad ysgrifenedig a chyfleu unrhyw newidiadau’n weledol a thrwy gymorth anodi.
Y cefndir – Ers i ni ddysgu’r agwedd hon yn ddigidol rydym wedi sylwi ar welliant yng ngwaith y disgyblion. Mae’n ymddangos eu bod yn deall y cysyniad yn gyflym iawn, efallai am fod yr eglurhad o’r dasg yn weledol. . Pwynt dysgu/trafod e.e. Gofynnir i’r disgylbion luniadu’r cynnyrch terfynol yn defnyddio meddalwedd CAD neu luniad llinell sydd wedi’i rendro. Gofynnir iddynt edrych yn ôl ar y sylwadau yn eu gwerthusiad ysgrifenedig a chyfleu unrhyw newidiadau’n weledol a thrwy gymorth anodi.