120 likes | 539 Views
EGWYDDORION YMARFER. TREFNU RHAGLEN YMARFER AR GYFER GWELLA FFITRWYDD. EGWYDDORION. EGWYDDORION (principles) = RHEOLAU Wrth drafod EGWYDDORION yn y gwaith dilynol yr hyn a olygwn yw’r camau yr ydym angen eu dilyn er mwyn cynllunio rhaglen ymarfer a datblygu ffitrwydd. EGWYDDORION YMARFER.
E N D
EGWYDDORION YMARFER TREFNU RHAGLEN YMARFER AR GYFER GWELLA FFITRWYDD
EGWYDDORION • EGWYDDORION (principles) = RHEOLAU • Wrth drafod EGWYDDORION yn y gwaith dilynol yr hyn a olygwn yw’r camau yr ydym angen eu dilyn er mwyn cynllunio rhaglen ymarfer a datblygu ffitrwydd.
EGWYDDORION YMARFER Trafodwch mewn grwpiau beth ydych chi yn feddwl yw ateb y cwestiwn isod? Pa egwyddorion sydd angen meddwl amdanynt wrth drefnu YMARFER ar gyfer dod yn ffit? ATEB
Mae pedair egwyddor wrth drefnu YMARFER ar gyfer dod yn ffit. • EGWYDDOR PENODOLDEB ( SPECIFICITY ) 2. EGWYDDOR DILYNIANT ( PROGRESSION ) 3. EGWYDDOR GORLWYTHO ( OVERLOAD ) 4. EGWYDDOR CILDROADEDD ( REVERSIBILITY )
EGWYDDOR PENODOLDEB ( SPECIFICITY ) • Mae angen i’r ymarfer fod yn benodol i’r gamp sydd o dan sylw - bod yna effaith benodol ar y corff. e.e. • Rhaid i daflwr picell ddatblygu ei gryfder yn rhan uchaf y corff. • Rhaid i redwr can medr ddatblygu cryfder yn ei goesau. • Rhaid gweithio ar gyhyrau penodol a’u symudiadau • o fewn y gamp sydd o dan sylw.
2. EGWYDDOR DILYNIANT ( PROGRESSION ) Cynyddu lefel yr ymarfer yn raddol D W Y S E D D Ymarfer caletach Wythnos 1 Wythnos 10 Ymarfer ysgafn WYTHNOSAU • RHAID GWNEUD MWY YN RADDOL ER MWYN GWELLA LEFEL Y FFITRWYDD • RHAID GWNEUD HYN ER MWYN OSGOI ANAFIADAU
3. EGWYDDOR GORLWYTHO ( OVERLOAD ) Gwneud i’r corff weithio yn galetach na’r arfer. Bydd eich corff yn addasu i’r gorlwytho ac yn dod yn fwy ffit Ym mha ffordd y gallwn ni orlwytho’r corff?
I orlwytho rhaid ystyried : A AMLDER. Pa mor aml yn yr wythnos. Dwy waith i ddechrau efallai ac yna cynyddu i hyd at chwe gwaith yr wythnos. D DWYSEDD h.y. pa mor galed y byddwch yn gweithio e.e. codi pwysau trymach neu rhedeg yn gyflymach A AMSER sy’n cael ei dreulio wrth ymarfer. Gellir cychwyn ar 10 munud a’i godi i 45 munud bob sesiwn G GWEITHGAREDD. Y math o weithgaredd rydych am ei ddefnyddio e.e. rhedeg. Cliciwch ar y llythrennau ar y chwith er mwyn darganfod eu hystyr.
Cildroadedd • Ar ôl cyrraedd lefel arbennig o ffitrwydd rhaid parhau i ymarfer gan fod ffitrwydd yn gildroadwy,h.y. os byddwch yn rhoi’r gorau i ymarfer bydd y corff yn colli’r ffitrwydd. Gwyliau Lefel ffitrwydd yn gostwng Salwch
Diflastod (boredom) • Mi ddylen osgoi diflastod ymhob rhaglen ymarfer. • Wrth ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ymarfer mi allwn gadw ein lefel o frwdfrydedd a chymhelliant yn uchel. • Mi allwn hefyd atal anafiadau gorymarfer wrth amrywio’r ffordd yr ydym yn perfformio rhai gweithgareddau e.e. mi all rhedeg ar wynebau caled achosi ‘shin splints’. Mi fydd rhedeg ar laswellt am gyfnod yn lleihau’r siawns o ddatblygu’r anafiadau hyn.
EGWYDDORION YMARFER Trafodwch mewn grwpiau beth ydych chi yn feddwl yw’r ateb i’r cwestiwn isod? Beth yw canlyniad gorymarfer? ATEB
Gorymarfer • Gall gorymarfer eich gwneud yn sâl. • Mae’n achosi’r canlynol: • Dolur / Briw • Poenau yn y cymalau • Problemau cysgu • Diffyg amynedd • Pryder • Blinder • Dal annwyd neu ffliw yn haws • Dyma’r arwyddion sy’n dangos y dylech leihau’r ymarfer neu gael toriad / egwyl.