110 likes | 320 Views
Ymarfer gwastraffu ynni. Darganfyddwch faint o ynni sydd ei angen i bweru bwlb. Am wastraff!. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwastraffu ynni. Mae gwastraffu ynni’n llygru ein byd ac yn gwneud iddo gynhesu. Ydych chi’n gwastraffu ynni? Ydych chi’n anghofio diffodd y golau weithiau?
E N D
Ymarfer gwastraffu ynni Darganfyddwch faint o ynni sydd ei angen i bweru bwlb.
Am wastraff! Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwastraffu ynni. Mae gwastraffu ynni’n llygru ein byd ac yn gwneud iddo gynhesu.
Ydych chi’n gwastraffu ynni? Ydych chi’n anghofio diffodd y golau weithiau? Pa ffyrdd eraill ydych chi’n gwastraffu ynni?
Bwlb 100W cyffredin.Bwlb arbed ynni. Mae bylbiau arbed ynni’n defnyddio llai o ynni na bylbiau cyffredin. Dyfalwch sawl bwlb arbed ynni fyddai’n defnyddio’r un faint o ynni ag un bwlb cyffredin.
20W 100W 20W 20W 20W 20W Mae 5 bwlb arbed ynni’n defnyddio’r un faint o ynni ac 1 bwlb cyffredin!
Dewch i ni weld pa mor hir y mae rhaid i chi rhedeg yn yr unfan i oleuo’r gwahanol fathau o fylbiau am awr. Rhannwch yn ddau grŵp, wedyn rhedwch yn yr unfan i oleuo geisio goleuo’r ddau fath o fwlb am awr. Am faint ydych chi’n credu fydd rhaid i chi redeg? Gwnewch ymarfer arall os ydych chi am smalio eich bod chi’n beiriant gwneud ynni.
Mae loncian am 8.36 eiliad yn defnyddio digon o i oleuo bwlb cyffredin am 1 awr. Mae loncian am 1.42 eiliad yn defnyddio digon o ynni i oleuo bwlb arbed ynni am 1 awr. `
Ond beth alla i wneud? Byddwch yn egni-effeithiol! Petai pob cartref yn gosod dau fwlb arbed ynni, bydden ni’n arbed digon o ynni i oleuo holl oleuadau stryd Prydain am flwyddyn.
Cofiwch ddiffodd golau'r ystafell ymolchi ar ôl bod i’r tŷ bach. Peidiwch â rhoi mwy o ddŵr nag sydd ei angen yn y tegell. Cofiwch ddiffodd y cyfrifiadur ar ôl gorffen ag e. Os yw hi’n oer, gwisgwch siwmper cyn troi’r gwres i fyny.
Rwy'n addo: Gwnewch addewid i arbed ynni.