100 likes | 616 Views
TERMAU BEIRNIADAETH LENYDDOL. Dyma rai technegau y mae beirdd ac awduron yn eu defnyddio i roi ychydig o liw yn eu gwaith. Beth am i chi geisio gwneud yr un peth wrth ysgrifennu’n greadigol…. ANSODDAIR. GAIR SY’N DISGRIFIO. Car gwyrdd. Cath flin. CYMHARIAETH (Cyffelybiaeth).
E N D
TERMAU BEIRNIADAETH LENYDDOL Dyma rai technegau y mae beirdd ac awduron yn eu defnyddio i roi ychydig o liw yn eu gwaith. Beth am i chi geisio gwneud yr un peth wrth ysgrifennu’n greadigol…
ANSODDAIR • GAIR SY’N DISGRIFIO Car gwyrdd Cath flin
CYMHARIAETH (Cyffelybiaeth) • Gosod dau beth ochr yn ochr a dangos y tebygrwydd rhyngddynt, tebygrwydd sy’n arwyddocaol o safbwynt pwrpas y bardd ar y pryd, gan ei ddefnyddio i egluro rhywbeth neu fel addurn. Rhuthrai’r trên fel taran heibio.
CYFLYTHRENNU • Cyfatebiaeth cytseiniaid mewn brawddeg e.e. • “Trawsfynydd! Tros ei feini – trafaeliaist…
GORMODIAITH • Dweud mwy nag a feddylir e.e. “….a’r golgeidwad sy’ ar ei liniau’n ddagreuol…”
ONOMATOPEIA • Sŵn y gair yn cyfleu’r ystyr rhochian clecian gwichian
PERSONOLIAD • Cyflwyno gwrthrychau o’r byd o’n cwmpas , neu ein teimladau ein hunain, fel pe baent yn bersonau, e.e. “Gadair unig ei drig draw – ei dwyfraich Fel pe’n difrif wrandaw…”
TROSIAD • Trosi gair o’i ystyr arferol er mwyn creu delwedd (llun) e.e. Yr oedd o’n gawr o ddyn. Mae dy feddwl yn crwydro!