200 likes | 443 Views
Cyflwyniad i gyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr ar ddeall a defnyddio termau technegol. Delyth Prys Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Help! Beth yw ’ r gair Cymraeg am. Prif neges heddiw: PEIDIWCH meddwl term Saesneg = term Cymraeg OND YN HYTRACH meddyliwch
E N D
Cyflwyniad i gyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr ar ddeall a defnyddio termau technegol Delyth Prys Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr
Help! Beth yw’r gair Cymraeg am ... • Prif neges heddiw: PEIDIWCH meddwl term Saesneg = term Cymraeg OND YN HYTRACH meddyliwch term Saesneg = cysyniad= term Cymraeg • Ac mae help ar gael ☺
Rhybudd: gall term gynnwys mwy nag un gair • Mae’n bwysig edrych ar y term yn ei gyfanrwydd a pheidio cyfieithu un gair ar y tro • Gall y term yn ei gyfanrwydd fod yn hollol wahanol mewn dwy iaith e.e. terms of reference cylch gorchwyl mole wrench tyndro hunanafael chest register llais y frest
Cofiwch fod angen edrych ar derm aml-air yn ei gyfanrwydd yn hytrach na chyfieithu un gair ar y tro
I helpu deall y cysyniad Defnyddiwch eiriaduron neu wyddoniaduron (uniaith os oes raid!) sy’n esbonio’r term Edrychwch ar y dadamwysydd (disambiguator) Chwiliwch am ddiffiniad o’r term Holwch eich cwsmer beth yn union yw’r ystyr
Rhagnodi v. Disgrifio Iaith • Mae geiriaduron cyffredinol yn disgrifio iaith fel y mae yn ei holl gyfoeth • Felly mae’n bosib cael nifer o gyfystyron yn cael eu rhestru (yn cynnwys amrywiadau o ran cywair, tafodiaith etc) • Enghreifftiau: Geiriadur yr Academi, Geiriadur Prifysgol Cymru, Geiriadur Cyffredinol Cysgair • Defnyddiwch y rhain i chwilio am gyfystyron, ac i gael cymorth cyffredinol
Geiriaduron terminoleg safonol • Mae geiriaduron termau safonol yn rhagnodi pa dermau ddylid eu defnyddio • Felly ni cheir dewis o dermau fel arfer (mae’r dewis wedi’i wneud drosoch yn y broses safoni) • Enghreifftiau: Y Termiadur Addysg, Termau Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, Yr holl eiriaduron a gynhwysir yn y Porth Termau Cenedlaethol • TermCymru
Y cwsmer biau pennu’r geiriaduron rhagnodol Mae rhai cyrff yn nodi pa eiraduron termau y mae’n rhaid i’w cyfieithwyr eu dilyn e.e.rhaid i sefydliadau addysgol, arholwyr a darparwyr adnoddau addysgol ddilyn Y Termiadur Addysg, rhaid i gyfieithwyr y Llywodraeth ddilyn TermCymru Gall hyn olygu weithiau fod angen defnyddio termau gwahanol yn ôl y cwsmer
Pryd i ddefnyddio termau technegol • Mewn cyweiriau technegol • Dogfennau swyddogol a chyhoeddus • Cyhoeddiadau academaidd • Pan gewch gyfarwyddyd gan y cwsmer i wneud hynny • Nid (o raid) mewn cyweiriau annhechnegol • Deunydd deongliadol i’r cyhoedd • Hysbysebion a deunydd sgwrsiol Cf. Arddulliadur Cyfieithwyr Llywodraeth Cymru – ceir yno ganllawiau manylach ar hyn
Pa adnoddau sydd ar gael? • Geiriaduron cyffredinol (disgrifiadol) • uniaith e.e. The Oxford Dicitonary of English • dwyieithog e.e. Geiriadur yr Academi • Geiriaduron arbenigol (rhagnodol) • fel arfer ar gyfer meysydd penodol e.e. coedwigaeth, gwaith cymdeithasol, ac ar gyfer defnyddwyr penodol e.e. Addysg Uwch
Adnoddau sydd ar gael • Y Termiadur Addysg (termau swyddogol Adran Addysg Llywodraeth Cymru) http://www.termiaduraddysg.org/ • Termau Addysg Uwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (yn cynnwys diffiniadau): http://www.colegcymraeg.ac.uk/termau/ • Porth Termau Cenedlaethol Cymru (yn cynnwys y ddau uchod a llawer mwy) http://termau.org/porth/
Adnoddau gwerthfawr eraill • Casgliad termau cyfieithwyr Llywodraeth Cymru: http://www.termcymru.cymru.gov.uk/ • Cysgeir o fewn y pecyn Cysgliad (os nad oes cyswllt gwe gennych) • Geiriaduron papur nad ydynt ar gael yn electronig: • Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen (Curiad) • Geiriadur Baillière i Fydwragedd (Bangor) • Geiriadur y Gyfraith (Gwasg Gomer)
Hefyd, beth am... greu eich rhestr eich hun o dermau Er mwyn: • dysgu termau newydd • cael rhestr hwylus ar gyfer pwnc neu broject penodol • casglu rhestr i’w rhoi mewn cof cyfieithu