130 likes | 334 Views
Gwyliau Eli. 1. 2. Llwyd: Haia! Sut wyt ti Eli? Eli: Ddim yn ddrwg diolch – beth amdanat ti Llwyd? Llwyd: Dw i’n hapus. Sut oedd dy wyliau? Ble est ti dros wyliau’r haf?. 3. 4.
E N D
Gwyliau Eli
1 2 Llwyd: Haia! Sut wyt ti Eli? Eli: Ddim yn ddrwg diolch – beth amdanat ti Llwyd? Llwyd: Dw i’n hapus. Sut oedd dy wyliau? Ble est ti dros wyliau’r haf?
3 4 Eli: Teithies i o gwmpas y byd. Yn gyntaf, es i i Parc Oakwood Llwyd: O bendigedig! Sut? Eli: Yn y car cyflym coch.
8 9 Eli: Roedd hi’n gymylog. Bwytes i fyrgyr a hufen iâ oer. Yfes i cola ‘fflat’. Gwisges i jîns newydd, treinyrs a chrys-T piws. Roedd gen i boen bol. Ces i amser diflas.
5 7 Eli: Es i i Llwyd: Ble nesa? Eli: Es i i Paris. Llwyd: Pryd? Eli: Dros y penwythnos cyntaf yn mis Awst. Es i mewn trên – heb siw na miw.
6 10 Eli: Roedd hi’n wlyb. Bwytes i goesau llyffant – ych a fi! Yfes i win gwyn. Gwisges i drowsus du, treinyrs a chrys-T newydd sbon. Roedd gen i gur pen. Ces i amser ofnadwy!
11 12 Llwyd: O diar! Ble nesa? Eli: Es i i’r Aifft. Llwyd: Efo pwy? Eli: Ar fy mhen fy hun, ond es i mewn awyren am y tro cyntaf.
14 15 Eli: Roedd hi’n boeth ac yn sych. Bwytes i reis a cyw iâr mewn sôs poeth. Yfes i ddŵr cynnes. Gwisges i siorts bach, sbectol haul – roeddwn i’n cŵl dŵd! Ond roedd gen i boen bol a ches i amser drwg.
13 16 Llwyd: Ble nesa Eli? Eli: Es i i Wlad yr Iâ. Llwyd: O grêt! Est ti mewn awyren? Eli: Naddo, es i ar long. Roeddwn i’n teimlo’n sâl dros ben.
3 11 Eli: Roedd hi’n oer ac yn dywyll. Bwytes i gawl - rhy hallt! Yfes i de efo llaeth gafr. Gwisges i ormod o ddillad. Roedd gen i ddwylo oer, traed oer a thrwyn oer. Ces i amser ofnadwy.
15 7 Llwyd: O bechod! Eli: Ble est ti Llwyd? Llwyd: Ches i ddim gwyliau da fel ti. Es i i’r parc. Eli: Sut? Llwyd: Ar y beic.
13 7 4 Eli Efo pwy? Llwyd: Efo llawer o ffrindiau. Eli: Fwynheuest ti? Llwyd: Do – yn fawr iawn – chwaraes i bêl-droed a nofies i yn yr afon. Bwytes i sglodion blasus ac yfes i lemonêd oer. Ces i hwyl!
2 5 Eli: Ga’ i dy feic di Llwyd? Llwyd: Pam? Eli: Dw i’n mynd i’r parc ar unwaith! Wela i di wrth yr afon drws nesa i’r stondin sglodion! Llwyd: O Eli, ‘ti’n mynd dros ben llestri rwan!