260 likes | 456 Views
Addysg yn yr Almaen Natsïaidd. Pan fydd gwrthwynebydd yn dweud, “Ni fyddai i’n dod trosodd at eich ochr chi”, byddaf yn ateb yn dawel, “Mae eich plentyn yn perthyn i ni eisoes”. Adolf Hitler. Amcanion y Gwersi. Dod i wybod :
E N D
Addysg yn yr Almaen Natsïaidd Pan fydd gwrthwynebydd yn dweud, “Ni fyddai i’n dod trosodd at eich ochr chi”, byddaf yn ateb yn dawel, “Mae eich plentyn yn perthyn i ni eisoes”. Adolf Hitler
Amcanion y Gwersi Dod i wybod: Sut a pham y ceisiodd y Natsïaid reoli addysg y wlad Pa mor llwyddiannus oedd ymgais y Natsïaid i reoli addysg yn yr Almaen Termau Allweddol
Dod i wybod Sut a pham y ceisodd y Natsïaid reoli pobl ifanc Pa mor llwyddiannus oedd ymgais y Natsïaid i reoli ieuenctid yr Almaen Credorfodi/credorfodaeth– Ailadrodd set o syniadau drosodd a throsodd i’w gosod yn y meddwl Ideoleg– Set o syniadau
Pa effaith a gafodd syniadau a phropaganda’r Natsïaid ar addysg yn ysgolion yr Almaen? ‘Yn fy ngwaith addysgol hollbwysig, byddaf yn dechrau gyda’r ieuenctid. Fy ieuenctid godidog! Gyda hwy gallaf wneud byd newydd!’ Adolf Hitler
Pa effaith a gafwyd ar addysg genethod? Beth mae’r ffynhonnell hon yn ei ddweud am y math o wersi a ddarparwyd ar gyfer genethod wedi i’r Natsïaid ddod i rym? Ymweliad ag ysgol Natsïaidd i enethod, a gofnodwyd ynEducation for Death gan Gregor Ziemer (1942). ‘Roedd cloch yr ysgol yn galw’r genethod … cyn i mi fynd i unrhyw ddosbarth, cefais air â’r brifathrawes. Dywedodd hi fod gwaith pob dosbarth yn yr ysgol wedi’i seilio ar gwrs o’r enw ‘Gweithgareddau Menywod’. Roedd y cwrs hwnnw’n cynnwys gwaith llaw, gwyddor tŷ, coginio, gwaith tŷ a garddio – a’r adran bwysicaf – bridio a hylendid. Roedd yr adran hon yn delio ag addysg rhyw, rhoi genedigaeth, a gofal plant …’
Pa effaith a gafwyd ar addysg genethod? Roedd disgwyl i’r genethod gymryd rhan yn y rhan fwyaf o gystadlaethau mabolgampau a chawsant anogaeth i astudio Almaeneg, Hanes, Daearyddiaeth ac Astudiaethau Hil. Roedd y bechgyn yn astudio mwy ar bynciau gwyddonol, megis Mathemateg a Chemeg. Dyfyniad oGermany 1918-1945gan Greg Lacey a Keith Shepherd ‘Roedd cwricwlwm y genethod fel rheol yn wahanol i un y bechgyn. Roeddynt hwy hefyd yn astudio gwyddor tŷ ac ewgeneg (sut i gynhyrchu plant perffaith trwy sicrhau bod y nodweddion detholus delfrydol gan y rhieni). Sut mae’r ffynhonnell hon a’r tabl ar y sleid nesaf yn cadarnhau beth rydych wedi’i ddysgu am addysg genethod?
Pa effaith a gafwyd ar addysg genethod? Amserlen nodweddiadol a ddilynwyd mewn ysgol ferched Seiliedig ar wybodaeth o Nazi Power in Germany, gan Greg Thie a Jean Thie, (Hutchinson 1989)
Pa effaith a gafwyd ar addysg bechgyn? Beth mae’r ffynhonnell hon yn ei ddweud am y gwersi Hanes a fwriadwyd ar gyfer bechgyn wedi i’r Natsïaid ddod i rym? Dyfyniadau o A Boy in Your Situation, (1988) Yn y gwersi Hanes, Ffrainc oedd y gelyn traddodiadol ac roedd pob un o’r gwersi’n sôn am y rhyfeloedd a ymladdwyd yn erbyn gelynion y Almaen. Doedd dim gwerslyfrau Hanes ar gael. Roeddynt wedi’u casglu i mewn; nes y byddai’r fersiynau Natsïaidd yn barod, doedd dim ond yr athro a’r nodiadau y byddai’n eu harddweud a’r anerchiadau ysbrydoledig a roddai. Roedd yn swyddog wrth gefn yn y fyddin. Byddai’n dweud popeth am hynny wrth y bechgyn. ‘Mae gennym danciau ardderchog erbyn hyn, rhai anhygoel; a gynnau rhagorol i’w defnyddio’n erbyn tanciau Ffrainc.’
Pa effaith a gafwyd ar addysg bechgyn? Pam yn eich barn chi roedd y Natsïaid eisiau dylanwadu ar gwricwlwm y bechgyn fel hyn? Datganiad swyddogol ar bwrpas addysg i fechgyn ‘Mae’n rhaid i’r gwersi Almaeneg, Hanes, Daearyddiaeth, Cemeg a Mathemateg ganolbwyntio ar bynciau milwrol, gan glodfori gwasanaeth milwrol ac arwyr yr Almaen.’
BECHGYN GENETHOD Copïwch a chwblhewch y tabl hwn i amlygu’r gwahaniaeth rhwng addysg bechgyn ac addysg genethod. Defnyddiwch y ffynonellau a’r daflen waith i’ch helpu.
Athrawon yn yr Almaen Natsïaidd O 1933 ymlaen, daeth yn orfodol iddynt berthyn i’r Gymdeithas Athrawon Natsïaidd. MeinKampf Roedd hynny’n gwneud y broses o gredorfodi’n yn haws o lawer i’r Blaid Natsïaidd, gyda’r athro’n fwy na bodlon trosglwyddo syniadau Natsïaidd yn yr ystafell ddosbarth. Erbyn 1936 roedd 32% o’r athrawon hefyd wedi ymuno â’r Blaid Natsïaiddei hun. Cafodd yr athrawon hynny oedd yn ymddangos yn annheyrngar neu’n amharod i ‘amddiffyn yn ddiamody wladwriaeth Natsïaidd’ eu diswyddo.
Cafodd pob athro Iddewig ei ddiswyddo fwy neu lai yn 1933, gan fod gadael i athrawon Iddewig addysgu disgyblion ‘Ariaidd’ yn ymddangos i’r Natsïaid yn ‘annerbyniol’. Daeth hynny’n bosib trwy gyfrwng y Ddeddf er Adfer y Gwasanaeth Sifil Proffesiynol. Parhaodd rhai athrawon i weithio mewn ysgolion Iddewig nes i’r ysgolion hynny gael eu gwahardd yn gyfan gwbl yn 1942. Roedd yr athrawon hynny oedd yn dal i weithio mewn ysgolion ‘Ariaidd’ yn gorfod dioddef mwy a mwy o erledigaeth, ac erbyn 1935 doedd yr un athro Iddewig ar ôl yn yr ysgolion hynny.
Pa effaith a gafodd syniadau a phropaganda’r Natsïaid ar addysg plant Iddewig? MeinKampf
Yn ôl y ffynhonnell hon, pam roedd yn well gan lawer o blant Iddewig beidio â mynd i’r ysgol? Dyfyniadau o A Boy in Your Situation’ (1988) ‘Roedd problem newydd gan Karl yn yr ysgol – yr athro Almaeneg, Mr Bartholomeus. Daeth Karl i gasáu’r bathodyn swastika bychan a wisgai ar labed ei gôt. Byddai’r athrawon a wisgai’r bathodyn hwnnw i’w gweld yn mynd allan o’u ffordd i ddweud rhywbeth cas wrth Karl, a hynny o flaen y dosbarth cyfan. Yna rhyw ddydd, gwelodd bapur newydd yn dweud: ‘Ni ddylai plentyn Almaenig Ariaidd eistedd wrth ochr Iddew yn yr ysgol.’ Dyna fo. Cafodd Karl deimlad mawr o ryddhad. Ni fyddai’n rhaid iddo fynd i’r ysgol eto.’
Gan ddefnyddio’r ffynhonnell hon a’r un flaenorol, disgrifiwch sut roedd plant Iddewig yn cael eu trin yn ysgolion yr Almaen yn y cyfnod hwn. Michael Burleigh a Wolfgang Wippermann, The Racial State(1991) ‘Byddai plant Iddewig yn cael eu sarhau yn aml gan yr athrawon a’r disgyblion, a’u gorfodi i ddioddef anghyfiawnderau maleisus. Roedd yn rhaid iddynt eistedd ar ddesgiau ar wahân, ac yn aml cawsant eu gwahardd rhag chwarae â phlant ‘Ariaidd’ yn ystod yr egwyl … Os oedd plant Iddewig am ddianc rhag cael eu herlid, eu hunig gyfle oedd mynychu ysgol Iddewig. Ceisiodd y cymunedau Iddewig, a Chorff Cynrychiadol Iddewon yReich, wneud hynny a allent i ehangu’r ysgolion Iddewig oedd yn bod eisoes ac agor rhai newydd. Yn 1942, cafodd hynny ei wahardd hefyd.’
Ni ddylid ystyried yr hyn oedd yn digwydd i blant Iddewig yn yr ysgol ar wahân i ddatblygiadau eraill. Aeth erlid yr Iddewon yn yr Almaen o ddrwg i waeth yn ystod y cyfnod 1933-45. Dim Hawliau Sifil Kristallnacht Trais Bathodynnau Adnabod Boicotio Deddfau Nuremberg Diswyddiadau Atafaelu Eiddo
1933Boicotio siopau Iddewig, diswyddo Gweision Sifil Iddewig, gweithredu gwaharddiad ar Iddewon rhag etifeddu tir. Newid llawer o werslyfrau ysgol i gynnwys negeseuon gwrth-semitig. 1935 Deddfau Nuremberg yn ei gwneud yn anghyfreithlon i Ariaid gael cyfathrach rywiol, na phriodi, Iddewon. Dim caniatâd bellach i Iddewon fynychu pyllau nofio a pharciau cyhoeddus, na thai bwyta. Dim caniatâd bellach i Iddewon fynd i mewn i adeilad cyhoeddus nac ymuno â’r fyddin. Iddewon i’w galw’n ‘ddeiliaid’, yn hytrach na dinasyddion yr Almaen. 1938Kristallnacht – ymosodiadau ar siopau, cartrefi a synagogau Iddewig gan ddinistrio rhai. Lladd neu anafu llawer o Iddewon. Dim caniatâd bellach i Iddewon ddewis enwau eu plant(roedd yn rhaid dewis o restr swyddogol) na chymryd rhan mewn masnach. 1941Iddewon yn gorfod gwisgoarwyddSeren Dafydd (seren fawr felen â chwe phig) ar eu cotiau. Gorfodi teuluoedd Iddewig i fyw mewn getoau, cyn cael eu symud ymlaen rhwng 1941 a 1945 i’r Gwersylloedd Crynhoi.
Pa effaith a gafodd syniadau a phropaganda’r Natsïaid ar addysg prifysgol a choleg?
Pa effaith a gafodd agweddau fel y rhai a welir yma ar safonau ym mhrifysgolion yr Almaen wedi 1933? Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant i brifysgolion yr Almaen, 1933 ‘O hyn allan, ni fydd yn rhan o’ch gwaith i benderfynu a yw rhywbeth yn wir ai peidio, ond a yw hynny’n cyd-fynd ag ysbryd y Chwyldro Natsïaidd.’ Robert Ley, Arweinydd Mudiad y Reich ‘Mae glanhawr ffordd yn ysgubo miloedd o feicrobau i’r gwter ag un trawiad o’i frws; mae’r gwyddonydd yn meddwl ei hun os yw’n darganfod un meicrob bach mewn oes gyfan o waith.’ Cliw: Pa mor anwybodus yw Robert Ley ynglŷn â phwysigrwydd ymchwil wyddonol?
Roedd y Natsïaid yn ei gwneud yn anodd iawn i fenywod ifanc fynd yn eu blaen i addysg bellach. Michael Burleigh a Wolfgang Wippermann, The Racial State, (1991) ‘Yn yr ysgol uwchradd roedd y genethod yn gorfod dewis rhwng dau o’r pynciau a ddarparwyd ar eu cyfer: gwyddor tŷ a ieithoedd modern. Doedd y cwrs mewn gwyddor tŷ hyd yn oed wedi’i gwblhau’n llwyddiannus … ddim yn cyfrif fel cymhwyster ar gyfer mynediad i brifysgol. Roedd disgyblion ysgol â chymwysterau mewn ieithoedd modern hefyd yn ei chael yn anodd i gael mynediad, gan nad oedd ganddynt dystysgrif mewn Lladin, oedd yn gymhwyster ieithyddol angenrheidiol ar gyfer llawer o bynciau prifysgol.’ Yn 1932 roedd tua 20,000 o fenywod yn derbyn addysg prifysgol. Erbyn dechrau’r Ail Ryfel Byd, roedd y nifer hwnnw wedi gostwng i tua 5,500.
Sut a pham y ceisiodd y Natsïaid reoli addysg?
Pa mor llwyddiannus oedd ymgais y Natsïaid i reoli addysg yn yr Almaen?
Gellir cael rhagor o wybodaeth a ffynonellau’n ymwneud ag addysg yn yr Almaen Natsïaidd trwy ymweld â’r gwefannau canlynol: http://www.historylearningsite.co.uk/Nazis_Education.htm http://www.spartacus.schoolnet.co.uk/GEReducation.htm
http://www.learnhistory.org.uk/germany/index.htm Darllenwch yr adran ar ‘Education in Nazi Germany’ yna cliciwch ar ‘Revise this topic’ i roi prawf ar eich gwybodaeth. DIWEDD