120 likes | 296 Views
Mary Seacole 1805 - 1881. Dynes ddu oedd Mary Seacole gafodd ei geni mewn tre o’r enw Kingston yn Jamaica yn 1805. Mary Seacole oedd un o’r nyrsys cynta’ yn y byd.
E N D
Mary Seacole 1805 - 1881
Dynes ddu oedd Mary Seacole gafodd ei geni mewn tre o’r enw Kingston yn Jamaica yn 1805. Mary Seacole oedd un o’r nyrsys cynta’ yn y byd. Roedd hi’n edrych ar ôl milwyr oedd wedi clwyfo yn y rhyfel erchyll oedd yn cael ei galw’r Rhyfel y Crimea, bron 150 mlynedd yn ôl.
Pan oedd Mary’n fach, roedd y rhan fwyaf o bobol dduon oedd ddim yn byw yn Affrica yn gaethweision. Doedd Mary ddim yn gaethferch gan ei bod o waed cymysg ... roedd ei thad yn wyn a’i mam yn ddu.
Gan fod Mary o waed cymysg, roedd gan ei theulu rai hawliau, ond dim llawer. Doedd Mary ddim yn gaethferch, ac felly, roedd ganddi’r hawl i gadw’r arian a enillai ond doedd y gwaith oedd yn cael ei ganiatáu iddi wneud ddim yn talu’n dda: allai hi ddim bod yn athrawes, doctor, ymuno gyda’r heddlu na dod yn nyrs.
Roedd mam Mary bob amser wedi bod yn helpu’r rhai oedd yn sâl ond doedd ganddi ddim hawl i’w galw ei hun yn nyrs. Felly roedd yn cadw ‘gwesty’ lle roedd hi’n edrych ar ôl milwyr oedd wedi brifo... yma y dysgodd Mary edrych ar ôl pobol sâl. Roedd Mary’n hoffi teithio ac ar y teithiau hyn dysgodd am feddygaeth.
Yn 1854 clywodd Mary am Ryfel erchyll y Crimea yn Rwsia. Felly teithiodd i Loegr, a gofyn i’r llywodraeth allai hi gael ei hanfon fel nyrs i’r Crimea ond cafodd ei gwrthod am nad oedd hi’n wyn. Casglodd Mary ei harian ei hun a phrynu ei thocyn ei hun i fynd i’r Crimea.
Gan ei bod yn ddu allai hi ddim gweithio mewn ysbyty, felly, fe sefydlodd ‘westy’ - (Y Gwesty Prydeinig), fel y gwnaeth ei mam yn Jamaica. Roedd Mary Seacole yn ymweld â maes y gad, weithiau ynghanol tân y gynnau, i nyrsio’r rhai oedd wedi eu clwyfo.
Yn fuan, dechreuodd yr holl filwyr ei galw ‘Y Fam Seacole’ ac yn fuan daeth mor enwog â Florence Nightingale, oedd hefyd yn y rhyfel hwn.
Tra roedd Florence Nightingale yn cael ei thalu ac yn ennill gwobrau ac enwogrwydd, doedd Mary ddim wedi cael dim byd. Roedd hi wedi arbed bywyd cannoedd ond pan orffennodd y rhyfel dychwelodd i Loegr heb ddim pres na hyd yn oed lle i fyw.
Ond clywodd y papurau newydd am ei sefyllfa ofnadwy ac fe drefnon nhw i godi arian ac oherwydd hyn cafodd fywyd cyfforddus nes iddi farw yn 1881.
Mary Seacole (1805 – 1881) Nod: Sganiotestuna chofnodi gwybodaeth allweddol. Gweithgaredd: Darllen drwy’r testun ac amlygu’r pwyntiau allweddol. Rhoi’r wybodaeth mewn trefn. Cofnodi’r syniadau ar y ffrâm. Trefniadaeth: Gwaith unigol, pâr neu grŵp.
Mary Seacole (1805 – 1881)