180 likes | 360 Views
Llys Cyfiawnder y Cymunedau Ewropeaidd. Cyflwyniad. Cyfrifoldeb y Llys Cyfiawnder yw gofalu y dilynnir y Cytundebau. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau y dilynnir y cyfreithiau a’r rheolau a wnaed dan y Cytundebau. Llys Gwrandawiad Cyntaf.
E N D
Cyflwyniad • Cyfrifoldeb y Llys Cyfiawnder yw gofalu y dilynnir y Cytundebau. • Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau y dilynnir y cyfreithiau a’r rheolau a wnaed dan y Cytundebau.
Llys Gwrandawiad Cyntaf • Cynorthwyir y Llys Cyfiawnder gan y Llys Gwrandawiad Cyntaf. • Sefydlwyd y llys hwn ym 1989. • Ei brif dasg yw ymdrin ag achosion a ddygir gan unigolion yn erbyn penderfyniadau sefydliadau’r Gymuned.
Barnwyr y Llys Cyfiawnder • Mae 27 Barnwr, ac un wedi ei ethol gan y lleill yn Llywydd. • Dewisir y barnwyr trwy gytundeb cyffredinol ymysg yr aelod-wladwriaethau am dymor o 6 blynedd y mae modd ei adnewyddu.
Adfocadau Cyffredinol • Mae hefyd 8 Adfocad Cyffredinol. • Cyfreithwyr yw adfocadau cyffredinol sydd wedi eu penodi i helpu’r Llys a’i farnwyr. • Eu diben yw ymchwilio i’r gyfraith a chyflwyno barn annibynnol i’r Llys ar unrhyw achos a ddygir ger ei fron.
Siambrau • Mae’r Llys yn eistedd mewn grwpiau a adwaenir fel Siambrau, gyda 3 i 5 Barnwr ym mhob Siambr. • Weithiau gall y barnwyr oll eistedd mewn achos pwysig. Os yw’r holl farnwyr yn eistedd, cyfeirir at hyn fel ‘sesiwn lawn’.
Chwe math o achos a glywir • Achosion am fethu cyflawni oblygiadau Cytundeb • Achosion am ddirymu • Achosion am fethu â gweithredu • Dyfarniadau rhagarweiniol ar Gyfraith Ewroeaidd • Apeliadau yn erbyn dyfarniadau’r Llys Gwrandawiad Cyntaf.
Achosion am fethu â chyflawni oblygiadau Cytundeb. • Dygir yr achosion hyn gan y Comisiwn yn erbyn Aelod-Wladwriaeth neu gan Aelod-Wladwriaeth yn erbyn Aelod-Wladwriaeth arall. • Seiliau’r achos yw bod un o’r Aelod-Wladwriaethau wedi methu â chyflawni ei hymrwymiadau dan y Cytundebau.
Achosion am ddirymu • Gellir dwyn y math hwn o achos gan unrhyw un o’r sefydliadau, aelod-wladwriaethau neu, weithiau, unigolion. • Mae’r achos yn gofyn i’r barnwyr adolygu cyfreithlondeb rheol neu gyfraith Ewropeaidd a all fod yn groes i un o’r Cytundebau.
Achosion am fethu â gweithredu Gellir dwyn achos o’r math hwn yn erbyn y Senedd, y Cyngor neu’r Comisiwn ar y sail ei fod wedi methu â gwneud rhywbeth y dylasai fod wedi ei wneud dan y Cytundebau.
Dyfarniadau rhagarweiniol ar gyfraith y GE • Gall llys cenedlaethol ofyn i’r Llys roi dehongliad o gyfraith y Gymuned. • Bydd y Llys yn rhoi dyfanriad y gall y llys cenedlaethol ei ddefnyddio i benderfynu ar achos.
Apeliadau Mae’n gwrando ar apeliadau yn erbyn dyfarniadau’r Llys Gwrandawiad Cyntaf
Gweithdrefn: Gwrandawiadau Rhagarweiniol 1. Mae’r llys cenedlaethol yn cyflwyno cwestiynau am ddehongliad neu ddilysrwydd darpariaeth yng nghyfraith Ewrop. 2. Penodir Barnwr-Rapporteur ac Adfocad Cyffredinol. [Mae’r Barnwr- Rapporteur yn un o farnwyr y llys.]
Gweithdrefn: Gwrandawiadau Rhagarweiniol • Mae’r partïon, yr Aelod-Wladwriaethau a sefydliadau’r Gymuned yn cyflwyno eu sylwadau ysgrifenedig i’r Llys. • Mae’r Barnwr-Rapporteur yn gwneud adroddiad i’r llys sydd yn crynhoi ffeithiau’r achos a dadleuon cyfreithiol y gwahanol bartïon.
Gweithdrefn: Gwrandawiadau Rhagarweiniol 5. Yna dadleuir yr achos mewn gwrandawiad cyhoeddus gerbron y barnwyr a’r adfocad cyffredinol a benodwyd. 6. Rai wythnosau wedyn, mae’r adfocad cyffredinol yn cyflwyno ei Farn i’r Llys. Mae’n dadansoddi ffeithiau a materion cyfreithiol yr achos ac yn cynnig ateb i’r broblem.
Gweithdrefn: Gwrandawiadau Rhagarweiniol • Mae’r barnwyr yn ystyried yr achos gan ddefnyddio drafft o ddyfarniad a luniwyd gan y Barnwr-Rapporteur. Gall pob barnwr gynnig gwelliannau. • Pan gytunwyd ar destun teryfnol, rhoddir y dyfarniad mewn llys agored.
Gweithdrefn: Achosion Uniongyrchol • Mae’r weithdrefn am achosion uniongyrchol yn dilyn trefn debyg iawn i’r un am ddyfarniadau rhagarweiniol. • Dygir yr achos gerbron y Llys trwy gais ysgrifenedig a anfonir at Gofrestrfa’r Llys gan gyfreithiwr.
Trafodaeth I ba raddau y mae gwaith y Llys Cyfiawnder yn wahanol i waith Tŷ’r Arglwyddi? [Ystyriwch y ddau fath o achos a wrandewir a’u dulliau gweithredu.]