70 likes | 260 Views
Yr Undeb Ewropeaidd. Canllaw i Ddechreuwyr. Addaswyd y testun o Europa – a History of the EU. Crynodeb o hanes yr UE. Yr 1950au
E N D
Yr Undeb Ewropeaidd Canllaw i Ddechreuwyr Addaswyd y testun o Europa – a History of the EU
Crynodeb o hanes yr UE • Yr 1950au Sefydlwyd yr Undeb Ewropeaidd gyda'r nod o roi terfyn ar ryfeloedd mynych a gwaedlyd rhwng cymdogion. O 1950 ymlaen, mae Cymuned Glo a Dur Ewrop yn dechrau uno gwledydd Ewrop yn economaidd ac yn wleidyddol er mwyn sicrhau heddwch parhaol. • Y chwe sylfaenydd yw Gwlad Belg, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Eidal, Luxembourg a'r Iseldiroedd. • Yn 1957, mae Cytundeb Rhufain yn creu'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) neu'r ‘Farchnad Gyffredin’
Yr 1960au • Cyfnod o Dwf Economaidd • Mae'n gyfnod da i'r economi, a gynorthwyir gan y ffaith bod gwledydd yr UE yn rhoi terfyn ar godi tollau pan fyddant yn masnachu â'i gilydd. Maent hefyd yn cytuno i gael rheolaeth ar y cyd ar gynhyrchu bwyd, fel bod pawb nawr yn cael digon i'w fwyta –a chyn hir ceir cynnyrch amaethyddol gormodol hyd yn oed. • Mae Prydain yn ceisio ymuno â'r Farchnad Gyffredin ynrhangyntaf yr 1960au • Ond mae Ffrainc yn dweud 'non' • Y Cadfridog De Gaulle oedd yr un a ddywedodd na i fynediad Prydain i'r Farchnad Gyffredin
Yr 1970au – Cymuned sy’n tyfu – yr Ehangu Cyntaf • Yr Ehangu Cyntaf • Mae Denmarc, Iwerddon a'r Deyrnas Unedig yn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1973, gan gynyddu nifer yr aelod-wladwriaethau i naw. Daeth yr unbenaethau adain-dde olaf yn Ewrop i ben pan ddymchwelwyd cyfundrefn Salazar ym Mhortiwgal yn 1974 a bu farw'r Cadfridog Franco yn Sbaen yn 1975. • Mae polisi rhanbarthol yr UE yn dechrau trosglwyddo symiau anferth er mwyn creu swyddi ac isadeiledd yn yr ardaloeddtlotaf. • Mae Senedd Ewrop yn cynyddu ei dylanwadarfaterion yr UE ac yn 1979 mae’rhollddinasyddionyngallu ethol eu haelodau'n uniongyrchol am y tro cyntaf
Yr 1980au –Wyneb newidiol Ewrop – cwymp Wal Berlin. • Yn 1981, daw Groeg yn 10fed aelod yr UE ac mae Sbaen a Phortiwgal yn dilyn bum mlynedd yn ddiweddarach. Yn 1987 caiff y Ddeddf Ewropeaidd Sengl ei harwyddo. Cytundeb yw hwn sy'n darparu'r sail ar gyfer rhaglen anferth chwe blynedd â’r nod o ddatrys y problemau gyda’r llif rhydd o fasnach ar draws ffiniau'r UE ac felly creu'r ‘Farchnad Sengl’. • Ar 9 Tachwedd 1989, caiff Wal Berlin ei dymchwel a chaiff y ffin rhwng Dwyrain a Gorllewin yr Almaen ei hagor am y tro cyntaf ers 28 mlynedd. Mae hyn yn arwain at ailuno'r Almaen pan gaiff Dwyrain a Gorllewin yr Almaen eu huno ym mis Hydref 1990 • Mae'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) yn newid ei henw i’r Undeb Ewropeaidd – yr UE
Yr 1990au Ewrop heb ffiniau • Yn 1993 caiff y Farchnad Sengl ei chwblhau gyda'r 'pedwar rhyddid', sef: symudiad nwyddau, gwasanaethau, pobl ac arian. • Mae’r 1990au yn ddegawd âdau gytuniad, sef Cytundeb 'Maastricht' ar Undeb Ewropeaidd yn 1993 a Chytundeb Amsterdam yn 1999. • Yn 1995 mae tri aelod newydd arall yn ymuno â'r UE, sef Awstria, Y Ffindir a Sweden. • Mae miliynau o bobl ifanc yn astudio mewn gwledydd eraill gyda chymorth yr UE. • Mae Prydain yn denu buddsoddi enfawr o’r tu allan gan gwmnïau amlwladol sy'n awyddus i werthu i'r UE cyfan.
2000-10 Yr arian sengl ac ehangu • Yr ewro yw'r arian cyfred newydd i lawer o Ewropeaid. • O'r diwedd datgenir bod y rhaniadau gwleidyddol rhwng dwyrain a gorllewin Ewrop wedi'u datrys wrth i 10 gwlad newydd ymuno â'r UE. • Mae llawer o bobl yn meddwl ei bod yn bryd i Ewrop gael cyfansoddiad ond nid yw'n hawdd cytuno ar y math o gyfansoddiad, felly mae'r ddadl am ddyfodol Ewrop yn parhau. • Mae Prydain yn derbyn hyd at 500,000 o weithwyr o aelod-wledydd newydd yr UE.