490 likes | 640 Views
Yr Undeb Ewropeaidd. Cyfnodau yn Natblygiad yr Undeb Ewropeaidd. Cymuned Glo a Dur Ewrop Y Gymuned Economaidd Ewropeaidd UERATOM Y Gymuned Ewropeaidd Yr Undeb Ewropeaidd. CGDE.
E N D
Cyfnodau yn Natblygiad yr Undeb Ewropeaidd • Cymuned Glo a Dur Ewrop • Y Gymuned Economaidd Ewropeaidd • UERATOM • Y Gymuned Ewropeaidd • Yr Undeb Ewropeaidd
CGDE • 1951, sefydlwyd Cymuned Glo a Dur Ewrop (CGDE) gyda chwe aelod): Gwlad Belg, Gorllewin yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc, yr Eidal a’r Iseldiroedd. • Gosodwyd y pŵer i gymryd penderfyniadau am y diwydiannau glo a dur yn y gwledydd hyn yn nwylo corff annibynnol o’r enw yr “Awdurdod Uwch".
GEE • Ym 1957 llofnododd Gwlad Belg, Gorllewin yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc, yr Eidal a’r Iseldiroedd Gytundeb Rhufain i ffurfio’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (GEE) • Y nod oedd creu un farchnad gyffredin.
UERATOM Ym 1957 crewyd y Gymuned Ynni Atomig Ewropeaidd (UERATOM) hefyd gan y chwe gwlad gyda’r nod o gydweithredu mewn ynni atomig.
Y Gymuned Ewropeaidd • Ym 1967 unwyd y GEE, CGDE ac UERATOM ynghyd dan y GEE • Ym 1993 daeth y Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn Gymuned Ewropeaidd pan ddaeth y Cytundeb ar Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Maastricht) i rym.
Yr Undeb Ewropeaidd • I gymhlethu pethau fwy fyth, enwodd Cytundeb Maastricht y GEE yn Undeb Ewropeaidd pan fydd yn ymdrin â’r sylfeini hyn am fwy o Undeb wleidyddol. • Felly cafodd y GEE ddau enw newydd: y Gymuned Ewropeaidd (pan fydd yn ymdrin â materion economaidd) a’r Undeb Ewropeaidd (pan fydd yn ymdrin â materion gwleidyddol ehangach).
Ac i gymhlethu pethau hyd yn oed yn fwy….. • Yn dechnegol, pan fydd yr Undeb Ewropeaidd yn ymdrin â rhai materion, dylid ei alw yn Gymunedau Ewropeaidd!
Undeb Ewropeaidd • Yr Undeb Ewropeaidd yw’r enw a ddefnyddir amlaf. • Wrth ymdrin â chyfraith Ewropeaidd, mae’n dechnegol gywir cyfeirio at ‘gyfraith y Gymuned Ewropeaidd’ yn hytrach na ‘chyfraith yr Undeb Ewropeaidd’. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn cyfeirio’n unig at gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.
Aelodaeth • Ymunodd y Deyrnas Unedig ym 1973 • Ar hyn o bryd mae 27 aelod o’r Undeb Ewropeaidd/Gymuned Ewropeaidd/Cymunedau Ewropeaidd
Y Cytundebau • Bu nifer o Gytundebau pwysig a sefydlodd yr • Undeb Ewropeaidd • Cyfeirir weithiau at y Cytundebau wrth enw’r ddinas lle’u llofnodwyd. • Defnyddir y Cytundebau yn aml ynghyd i ffurfio rhyw fath o gyfansoddiad i’r Undeb Ewropeaidd.
Prif Gytundebau Sefydlu • Y ddau brif Gytundebau sefydlu yw: • Cytundeb Rhufain 1957 (ers 1993 tueddir i gyfeirio at hwn fel Cytundeb y Gymuned Ewropeaidd neu Gytundeb y GE) • Y Cytundeb ar yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Maastricht) 1993.
Cytundebau Eraill • Mae Cytundebau eraill hefyd wedi creu diwygiadau pell-gyrhaeddol ac wedi cyflwyno newidiadau sefydliadol mawr • Dyma rai o’r rhai mwyaf pwysig: • Cytundeb Uno 1967 • Deddf Gyfun Ewrop 1987 • Cytundeb Amsterdam 1997 • Cytundeb Nice 2003.
Prif Sefydliadau Dyma brif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd: • Senedd Ewrop • Cyngor yr Undeb Ewropeaidd • Y Comisiwn Ewropeaidd • Y Llys Iawnderau • Llys yr Archwilwyr.
Sefydliadau Pwysig Hefyd, mae nifer o sefydliadau pwysig eraill megis: • Banc Canolog Ewrop • Y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol • Pwyllgor y Rhanbarthau • Banc Buddsoddi Ewrop
Senedd Ewrop • Ers 2007 cafwyd 785 Aelod o Senedd Ewrop (ASE) a etholir gan bleidleiswyr pob Aelod-Wladwriaeth. • Etholir ASE bob pum mlynedd trwy bleidlais gyffredinol uniongyrchol
Senedd Ewrop • Mae nifer yr ASE a etholir gan Aelod-Wladwriaeth yn dibynnu ar faint ei phoblogaeth. • Er enghraifft, mae gan yr Almaen, gyda’r boblogaeth fwyaf, 99 ASE, tra bod gan Malta, gyda phoblogaeth fechan, 5 yn unig.
Senedd Ewrop • Mae Senedd Ewrop yn gweithio yn Ffrainc, Gwlad Belg a Lwcsembwrg. • Cynhelir sesiynau llawn (lle bydd yr holl ASE yn bresennol) yn Strasbourg, canolfan y Senedd. • Cynhelir cyfarfodydd pwyllgorau’r Senedd ac unrhyw sesiynau llawn ychwanegol ym Mrwsel, tra bod yr Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol yn Lwcsembwrg.
Swyddogaethau Senedd Ewrop • Mae’n rhannu gyda’r Cyngor y pŵer i ddeddfu, h.y., i wneud cyfreithiau Ewropeaidd. • Mae’n rhannu awdurdod cyllidebol gyda’r Cyngor, ac felly gall ddylanwadu ar wariant yr UE. Mae ganddo’r pŵer i wrthod neu fabwysiadu’r gyllideb. • Mae’n arfer peth goruchwyliaeth cyfyngedig dros y Comisiwn.
Yhe Cyngor • Y Cyngor yw prif gorff gwneud penderfyniadau’r UE. • Mae un gweinidog o bob aelod-wladwriaeth yn mynychu, yn dibynnu ar yr agenda. Er enghraifft, os trafodir materion cyllidebol, yna bydd gweinidog cyllid pob Aelod-Wladwriaeth yn eistedd.
Swyddogaethau’r Cyngor • Dyma brif gorff deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd; • Mae’n cydgordio polisïau economaidd yr Aelod-Wladwriaethau; • Mae’n gwneud cytundebau rhyngwladol ar ran yr UE;
Swyddogaethau’r Cyngor • Mae’n rhannu awdurdod cyllidebol gyda’r Senedd; • Mae’n cymryd y rhan fwyaf o’r penderfyniadau am y polisi tramor a diogelwch cyffredin a chyd-gordio cydweithrediad heddlu a barnwriaethol yr Aelod-Wladwriaethau mewn materion troseddol.
Y Cyngor • Mae pob gwlad yn cymryd yn ei thro i fod yn Llywydd y Cyngor am 6 mis. • O bryd i’w gilydd mae arlywyddion a/neu brif weinidogion yr Aelod-Wladwriaethau, ynghyd â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn cyfarfod fel “Cyngor Ewrop”.
Y Comisiwn • Y Comisiwn Ewropeaidd sy’n gyfrifol am gynnal buddiannau cyffredinol yr Undeb. • Penodir y Llywydd ac Aelodau’r Comisiwn gan yr Aelod-Wladwriaethau wedi iddynt gael eu cymeradwyo gan Senedd Ewrop.
Y Comisiwn • Comisiynwyr yw’r enw ar aelodau’r Comisiwn. Penodir un Comisiynydd o bob Aelod-Wladwriaeth. • Y Comisiwn sy’n gyfrifol am ofalu y gweithredir polisïau’r Undeb.
Prif Ddyletswyddau’r Comisiwn • Mae ganddo’r hawl i ddrafftio deddfwriaeth a chyflwyno cynigion deddfwriaethol i’r Senedd a'r Cyngor; • Mae’n gyfrifol am weithredu deddfwriaeth Ewropeaidd, y gyllideb a’r polisiau a gymeradwywyd gan y Senedd a'r Cyngor;
Prif Ddyletswyddau’r Comisiwn • Mae’n diogelu’r Cytundebau a, chyda’r Llys Iawnderau, yn sicrhau y cymhwysir cyfraith y Gymuned yn gywir; • Mae’n cynrychioli’r Undeb Ewropeaidd yn rhyngwladol ac yn trafod cytundebau rhyngwladol, yn bennaf ym maes masnach a chydweithredu.
Y Llys Iawnderau • Mae’r Llys Iawnderau yn sicrhau fod Cyfraith Ewropeaidd yn cael ei ddehongli a’i chynnal yn gywir • Mae iddo 27 barnwr. • Caiff y Llys Iawnderau ei gynorthwyo gan y Llys Gwrandawiad Cyntaf; ei brif dasg yw ymdrin â chamau cyfreithiol a ddygir gan unigolion yn erbyn penderfyniadau sefydliadau’r Gymuned.
Llys Iawnderau: Adfocadau Cyffredinol • Cynorthwyir y Llys gan wyth ‘adfocad cyffredinol’. • Eu rôl yw cyflwyno barn resymol ar yr achosion a ddygir gerbron y Llys.
Llys Iawnderau: Dyletswyddau Dyma ddau o ddyletswyddau pwysig y Llys Iawnderau: • Dod i farn mewn camau yn erbyn Aelod-Wladwriaethau am eu methiant o gyflawni ymrwymiadau Cytundebau; a • Rhoi dyfarniadau cychwynnol ar Gyfraith Ewropeaidd mewn achosion a yrrir ato gan lys domestig mewn Aelod-Wladwriaeth
Camau am fethu â chyflawni ymrwymiadau dan Gytundebau. • Dygir y camau hyn gan y Comisiwn yn erbyn Aelod-Wladwriaeth neu gan Aelod-Wladwriaeth yn erbyn Aelod-Wladwriaeth arall. • Seiliau’r camau yw bod un o’r Aelod-Wladwriaethau wedi methu cyflawni ei ymrwymiadau dan y Cytundebau.
Dyfarniadau cychwynnol ar gyfraith y GE • Gall llys cenedlaethol ofyn i’r Llys roi dehongliad o gyfraith y Gymuned. • Bydd y Llys yn rhoi dyfarniad y gall y llys cenedlaethol ddefnyddio i benderfynu ar achos.
Y Llys Archwilwyr • Mae’r Llys Archwilwyr yn bwrw golwg ar reolaeth ariannol yr Undeb Ewropeaidd • Mae’r Llys Archwilwyr yn rheolaidd yn gweld fod rheolaeth ariannol yr Undeb Ewropeaidd yn wael iawn.
Banc Canolog Ewrop Mae hwn yn gyfrifol am lunio a gweithredu polisi arianyddol Ewrop, cynnal trafodion cyfnewid tramor a sicrhau gweithredu systemau talu.
Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop • Mae’n cynrychioli barn gwahanol grwpiau cymdeithasol ac economaidd yn yr Undeb Ewropeaidd. • Rhaid ymgynghori ag ef ar faterion yn ymwneud â pholisi economaidd a chymdeithasol. • Gall roi barn ar ei liwt ei hun ar faterion eraill sydd yn ei farn ef yn bwysig.
Pwyllgor y Rhanbarthau • Mae’n sicrhau y perchir hunaniaeth a hawliau rhanbarthol a lleol. • Rhaid ymgynghori ag ef ar faterion yn ymwneud â pholisi rhanbarthol, yr amgylchedd ac addysg.
Pwyllgor y Rhanbarthau • Mae’n cynnwys cynrychiolwyr awdurdodau rhanbarthol a lleol. • Er enghraifft, mae Cymru a’r Alban yn rhanbarthau’r Undeb Ewropeaidd ac o’r herwydd mae cynrychiolwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban yn eistedd ar Bwyllgor y Rhanbarthau.
Banc Buddsoddi Ewrop Mae hwn yn cyllido prosiectau buddsoddi sydd yn bwysig i ddatblygiad yr Undeb Ewropeaidd.
Gwneud Cyfraith Ewropeaidd Mae tri phrif weithdrefn sy’n llywodraethu gwneud cyfraith Ewropeaidd: • Gweithdrefn Cyd-benderfyniad; • Gweithdrefn Gydsynio; • Gweithdrefn Ymgynghori.
Gwneud Cyfraith Ewropeaidd • Mae’r cam cyntaf yn cychwyn gyda chynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd. • Y cam diwethaf ym mhob gweithdrefn yn y pen draw yw Cyngor y Gweinidogion. • Nid oes modd gwneud unrhyw gyfraith Ewropeaidd heb ganiatâd y Cyngor.
Y Weithdrefn Cyd-benderfyniad • Mae hwn yn darparu am ddau ddarlleniad yn olynol o gynnig gan y Comisiwn, gan y Senedd a'r Cyngor. • Os na all y Cyngor a’r Senedd gytuno, yna sefydlir “pwyllgor cymodi" er mwyn dod i gytundeb.
Y Weithdrefn Cyd-benderfyniad • Cyflwynir y cytundeb wedyn i’r Senedd a'r Cyngor am drydydd darlleniad gyda golwg ar ei fabwysiadu yn derfynol. • Ar y pwyllgor cymodi mae cynrychiolwyr y Cyngor a’r Senedd (a chynrychiolydd o’r Comisiwn).
Rhaid meysydd yr ymdrinnir â hwy gan y Weithdrefn Gyd-benderfynu • Yr hawl i symud a phreswylio • Symudiad rhydd gweithwyr • Nawdd cymdeithasol i weithwyr mudol • Trafnidiaeth • Y farchnad fewnol • Cyflogaeth • Cyfle cyfartal a thriniaeth gydradd • Addysg
Y Weithdrefn Gydsynio • Cyflwynwyd y Weithdrefn Gydsynio gan Ddeddf Gyfun Ewrop (1986). • Mae’n golygu bod yn rhaid i’r Cyngor gael cydsyniad Senedd Ewrop cyn cymryd rhai penderfyniadau pwysig iawn. • Gall y Senedd wrthod neu dderbyn cynnig ond ni all ei newid.
Rhaid meysydd yr ymdrinnir â hwy gan y Weithdrefn Gyd-benderfynu • Tasgau penodol Banc Canolog Ewrop • Y weithdrefn etholiadol am Senedd Ewrop • Rhai cytundebau rhyngwladol • Derbyn aelod-wladwriaethau newydd
Y Weithdrefn Ymgynghori • Ceisir barn Senedd Ewrop gan y Comisiwn. • Pan fo’r Comisiwn wedi derbyn y farn hon, gall newid ei gynnig yn unol â hynny. • Caiff y cynnig wedyn ei archwilio gan y Cyngor, a all ei fabwysiadu fel y mae neu ei newid gyntaf.
Gweithdrefn Ymgynghori • Fodd bynnag, os penderfyna’r Cyngor wrthod cynnig y Comisiwn, rhaid i hyn fod yn benderfyniad unfrydol.
Rhaid meysydd y mae’r Weithdrefn Ymgynghori yn ymdrin â hwy • Adolygu’r Cytundebau • Camwahaniaethu ar sail rhyw, hil neu darddiad ethnig, argyhoeddiad crefyddol neu wleidyddol, anabledd, oedran neu dueddiad rhywiol • Dinasyddiaeth yr UE • Amaethyddiaeth • Fisas, lloches, mewnfudo a pholisïau eraill cysylltiedig â rhyddid pobl i symud.
Cwestiwn Traethawd (a) Amlinellwch waith prif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. [12] (b) Gwerthuswch bwerau deddfwriaethol Senedd Ewrop. [13] Cyfanswm 25 marc.