100 likes | 322 Views
Tro trwy’r tymhorau. Y Gwanwyn. Lluniau: Alun Williams. Y Gwanwyn. Un o’r blodau cyntaf i ymddangos yn y gwanwyn yw’r Eirlysiau. 2. Mae nifer o flodau fel y Briallu a Llygad Ebrill yn ymddangos yn gynnar yn y flwyddyn cyn iddynt gael eu cysgodi gan ddail trwchus yr haf.
E N D
Tro trwy’r tymhorau Y Gwanwyn Lluniau: Alun Williams
Y Gwanwyn Un o’r blodau cyntaf i ymddangos yn y gwanwyn yw’r Eirlysiau. 2
Mae nifer o flodau fel y Briallu a Llygad Ebrill yn ymddangos yn gynnar yn y flwyddyn cyn iddynt gael eu cysgodi gan ddail trwchus yr haf. Briallu Llygad Ebrill 3
Gallwch weld y Creyr Glas trwy gydol y flwyddyn, maent yn nythu yn gynnar ac mae eu pig yn newid i liw oren yr adeg yma o’r flwyddyn. Gwers – Ffeil: Allwedd 4
Boneddiges y Wig Benywaidd Boneddiges y Wig yw un o’r glöynnod byw cyntaf i’w gweld yn y gwanwyn. Daw i’r golwg tua diwedd mis Ebrill. gwrywaidd 5
Cennin Pedr– Mae arwydd cenedlaethol Cymru yn tyfu yn y gwanwyn. 6
Cynffonnau ŵyn bach y gollen, chwiliwch hefyd am wyddau bach yn y gwanwyn. Blodyn benywaidd Blodau gwrywaidd 7
Derwen ifanc Mae mes yn disgyn yn yr hydref ac yn egino os ydynt yn cael eu cadw yn llaith. Byddant yn cynhyrchu dail yn y gwanwyn a gallant dyfu 15cm mewn chwe mis. 8
Clychau’r Gog – am dair neu bedair wythnos o’r flwyddyn gallwch weld carped glas o glychau’r gog yn gorchuddio llawr ambell i goedwig collddail. 9
Cnocell fraith fwyaf. Gallwch glywed y gnocell fraith fwyaf yn taro ei big yn erbyn coeden i ddenu cymar yn y gwanwyn. 10