240 likes | 413 Views
Y BRENIN CANUTE. Amser maith yn ol roedd Lloegr yn cael ei rheoli gan frenin o’r enw Canute. Fel llawer o arweinwyr y cyfnod, roedd Canute wedi’i amgylchynu gan bobl a oedd yn ei ganmol drwy’r amser. Pan fyddai’n mynd i mewn i ystafell byddai’r canmol yn dechrau.
E N D
Amser maith yn ol roedd Lloegr yn cael ei rheoli gan frenin o’r enw Canute. Fel llawer o arweinwyr y cyfnod, roedd Canute wedi’i amgylchynu gan bobl a oedd yn ei ganmol drwy’r amser. Pan fyddai’n mynd i mewn i ystafell byddai’r canmol yn dechrau.
‘Ti ydy’r dyn gorau sydd wedi byw erioed’, byddai un yn dweud. ‘Fydd neb cystal a thi’, byddai un arall yn mynnu.
‘Does dim byd na elli di ei wneud’ byddai rhywun yn dweud.‘Ti yw brenin y byd i gyd’, byddai un arall yn honni.
Ond roedd Canute yn ddyn deallus, ac roedd yn blino ar y moli hwn. Un diwrnod roedd yn cerdded ar lan y mor gyda dynion y llys pan benderfynodd rhoi gwers iddyn nhw.
‘Felly, rydych chi’n meddwl mai fi yw’r brenin gorau erioed ydych chi?’ meddai Canute.‘O Frenin’ atebodd y milwyr, ‘ni fydd unrhyw un erioed cystal a chi.’
‘Ac rydych chi’n dweud bod popeth yn ufuddhau i fi ydych chi?’, meddai Cantue.‘Wrth gwrs,’ atebodd y dynion, ‘Mae popeth yn ymgrymu ger eich bron chi.’
‘Rwy’n gweld,’ meddai Canute. ‘Dewch a’m cadair fan hyn ar lan y mor, a dodwch chi ar y traeth.’‘ Ar unwaith, Frenin,’ atebodd yn dynion, ac i ffwrdd a nhw i nol ei orsedd.’
‘Dewch ag ef yn agosach at y dwr,’ ebe Canute. ‘Gosodwch e wrth ymyl y dwr,’ Eisteddodd Canute ac edrychodd allan ar y mor. ‘Rwy’n sylwi bod y llanw yn dod i mewn,’ meddai, ‘Ydych chi’n meddwl y bydd yn stopio dod i mewn pe bawn i yn rhoi’r gorchymyn.’
Doedd ei swyddogion ddim yn siwr beth i’w ddweud. Roedden nhw’n ofni dweud na. ‘Rho’r gorchymyn, O Frenin. Bydd y llanw yn uffuddhau i ti’, meddai un o’i swyddogion.
‘Mor,’ ebe Canute, ‘paid a dod dim pellach. Aros lle ‘rwyt ti, paid a dechrau symud rownd fy nhraed, rwy’n dy orchymyn di i aros lle ‘rwyt ti.’
Arhosodd yn dawel am funud, yna daeth ton fach i symud o amgylch ei draed. ‘Rwyt ti’n meiddio dod yn agos ataf i, wyt ti?’ meddai Canute, ‘er mod i wedi dweud wrthot ti am beidio, mor, dos yn ol ar unwaith.’
Fel petai mewn ateb, daeth ton arall, ac yna un arall ac un arall, yn union fel roedden nhw wedi dod erioed. Cyn hir, roedd ei orsedd bron wedi’i chuddio dan y dwr, a Canute ei hun y dal i eistedd arni. Roedd ei swyddogion yn dechrau meddwl bod rhywbeth yn bod arno.
‘Wel fy ffrindiau,’ meddai Canute ‘ mae’n ymddangos nad oes gen i’r awdurdod wedi’r cwbwl. Rwy’n gobeithio eich bod chi wedi dysgu rhywbeth heddiw. Efallai y gwnewch chi gofio mai dim ond Un sy’n gallu rheoli byd natur, a dylech gadw eich clodydd iddo Ef.’