100 likes | 390 Views
Brenin Midas a’i gyffyrddiad Aur. Roedd Brenin Midas yn ddyn ffol a gwancus. Roedd am fod y dyn mwyaf cyfoethog yn y byd. Un diwrnod daeth cythraul bychan i balas Brenin Midas. Adnabyddodd Midas ef fel Silenus, ffrind y duw Dionysus.
E N D
Roedd Brenin Midas yn ddyn ffol a gwancus. Roedd am fod y dyn mwyaf cyfoethog yn y byd.
Un diwrnod daeth cythraul bychan i balas Brenin Midas. Adnabyddodd Midas ef fel Silenus, ffrind y duw Dionysus.
Yn lle anfon Silenus i ffwrdd fe wnaeth y brenin ei wahodd i aros gydag ef.
Roedd y duw Dionysus yn hapus fod Midas wedi helpu ei ffrind ac fe gynigiodd i Midas gael dewis un dymuniad.
Dymuniad y brenin Midas oedd y byddai popeth yr oedd yn ei gyffwrdd yn troi yn aur. Wedyn fe fyddai y person mwyaf cyfoethog yn y byd.
Cadwodd y duw ei addewid, ac yn wir roedd popeth roedd Midas yn ei gyffwrdd yn troi yn aur. Fe aeth o gwmpas y palas yn defnyddio ei bwerau.
Ond fe wnaeth dymuniad Midas droi yn ei erbyn. Fe ffeindiodd ei fod yn methu yfed na bwyta oherwydd roedd y bwyd a’r gwin yr oedd yn ei gyffwrdd yn troi yn aur!
Fe erfynniodd Midas i Dionysus i stopio yr hyn oedd yn digwydd. Dywedodd Dionysus wrth Midas sut y gallai gael gwared a’i bwerau newydd.
Fe olchodd Midas ei “gyffyrddiad aur” i ffwrdd yn afon Pactolus. Hyd yn oed yn awr mae pridd ar ochrau’r afon yma yn lliw aur.