130 likes | 364 Views
Y BRENIN SOLOMON. Ar ôl marwolaeth y Brenin Dafydd, daeth ei fab, Solomon yn frenin Israel. Ymddangosodd Duw i Solomon mewn breuddwyd un noson a dywedodd, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf?"
E N D
Ar ôl marwolaeth y Brenin Dafydd, daeth ei fab, Solomon yn frenin Israel. Ymddangosodd Duw i Solomon mewn breuddwyd un noson a dywedodd, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf?" Nawr, gallai Solomon fod wedi gofyn am gyfoeth, hir oes, neu fuddugoliaeth dros ei elynion, ond ni ofynnodd am unrhyw un o’r pethau hyn. Meddai, “Rho i mi galon ddeallus i reoli dy bobl, fel fy mod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg. Helpa fi i farnu dy bobl niferus."
Rhoddodd Duw y doethineb a ddymunai iddo, a rhoddodd bethau eraill iddo hefyd: cyfoeth, hir oes, a buddugoliaeth dros ei elynion. Roedd Solomon yn gwybod am lawer o bethau! Gallai siarad am y coed ac anifeiliaid, adar a physgod. Roedd yn gwybod pethau nad oedd pobl eraill yn eu gwybod a daeth pobl o bedwar ban byd i’w glywed. Daeth brenhines o Sheba i’w glywed unwaith. Roedd wedi syfrdanu gan yr hyn a welodd ac a glywodd.
Roedd dwy fenyw yn Jerwsalem a aeth i weld y Brenin â phroblem mawr. Roedd y ddwy fenyw wedi cael baban yn ystod y nos ac roedd un o’r babanod wedi marw. Yn ddistaw iawn, newidiodd mam y baban a fu farw ei baban marw am faban y fenyw arall.
Dywedodd y fenyw yr oedd ei baban wedi cael ei ddwyn wrth y Brenin ei bod wedi mynd i fwydo’i baban a’i fod wedi marw. Yna gwelodd nad y baban marw oedd ei baban hi. Dywedodd y naill fenyw a’r llall fod y baban yn perthyn iddi hi. Roedd yn rhaid i’r Brenin Solomon ddarganfod pwy oedd mam go iawn y baban. Gwnaeth y Brenin Solomon doeth rhywbeth rhyfedd iawn. Dywedodd wrth filwr am dorri’r baban yn ei hanner fel y gallai pob un o’r menywod gael rhan o’r baban. Ymbiliodd y fam oedd piau’r plentyn byw ar y Brenin i beidio â lladd y baban ond rhoi’r baban i’r fenyw arall yn lle hynny.
Ond roedd y fenyw arall yn barod i dorri’r baban yn ei hanner. Nawr, pwy yn eich tyb chi oedd y fam go iawn? Gyda doethineb Duw mae’r ateb yn hawdd. Rhoddodd Solomon y baban i’r fenyw a oedd yn barod i roi’r baban i rywun arall er mwyn achub ei fywyd.