40 likes | 178 Views
Nodiadau i Gynghorwyr . Nodiadau Athro/Cynghorydd. Cyflwyniad a Faint ydych yn ei wybod? - Sleidiau 1-5 Bydd yr wybodaeth a'r ymarferion yn y canllaw hwn yn cynnig trosolwg i fyfyrwyr o brif feysydd
E N D
NodiadauAthro/Cynghorydd Cyflwyniad a Faint ydych yn ei wybod? - Sleidiau 1-5 Bydd yr wybodaeth a'r ymarferion yn y canllaw hwn yn cynnig trosolwg i fyfyrwyr o brif feysydd cyllid i fyfyrwyr, gan gyffwrdd ar bynciau megis rheoli arian, cyllidebu ac ad-daliadau, y byddant oll yn hanfodol wrth helpu sicrhau pontio esmwyth i addysg uwch. Cyn symud ymlaen i'r prif gynnwys, dylech annog y myfyrwyr i ateb y cwestiynau ar sleidiau 4-5 i brofi Beth maent yn ei wybod yn barod am gyllid i fyfyrwyr ac ar ôl iddynt gwblhau'r canllaw, i fynd yn ôl i weld sut wnaethant. Beth yw Cyllid Myfyrwyr Cymru? – Sleidiau 6-7 Mae'r adran hon yn cynnig cyflwyniad byr i Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC). Y negeseuon allweddol i'w cyfleu yma yw bod CMC yn rhan o'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ehangach, a bod y cyllid a gynigir yn cael ei gefnogi gan y llywodraeth, felly nid yw yr un fath â benthyciad masnachol, ac mae amrediad o gymorth ar gael i fyfyrwyr cymwys wrth iddynt astudio i helpu talu eu ffioedd dysgu a'u costau byw. Pa gyllid sydd ar gael? – Sleidiau 8-17 Trosolwg o'r prif fathau o gyllid i fyfyrwyr sydd ar gael gan gynnwys Benthyciadau Ffioedd Dysgu a Chymorth Cynhaliaeth. Un o'r pethau cyntaf i'w nodi yw bod angen i fyfyrwyr fodloni meini prawf penodol i fod yn gymwys i gael cymorth gan CMC. Bydd hyn yn gysylltiedig gyda'u cwrs, eu prifysgol/coleg, gweithgarwch astudio AB blaenorol, eu hamgylchiadau personol a'u manylion preswylio. O blith y rhain, efallai mai cymhwystra personol yw'r un y bydd angen ei esbonio ymhellach. Mae myfyriwr yn debygol o fod yn gymwys yn bersonol: • os yw’n ddinesydd o'r DU sy'n 'preswylio fel arfer' yn y DU ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf ei gwrs • os yw wedi bod yn byw yn y DU am y dair blynedd yn union cyn y dyddiad hwn, a heb fod yn gwneud hynny er mwyn cael addysg amser llawn yn unig neu'n bennaf • os yw’n meddu ar 'statws preswylydd sefydlog' - sy'n golygu y gall y myfyriwr fyw'n barhaol yn y DU heb i'r Swyddfa Gartref osod unrhyw gyfyngiadau ar hyd y cyfnod y gall aros Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i gael cyllid hefyd os byddant yn meddu ar statws preswylio o blith y canlynol: ffoadur; Diogelwch Dyngarol (DD) (rhaid bod hyn o ganlyniad i gais am loches a fu'n aflwyddiannus); gweithiwr mudol; plentyn dinesydd o'r Swistir, dinesydd UE neu blentyn gweithiwr o Dwrci yn y DU. Mae gweddill yr adran yn esbonio elfennau craidd cyllid i fyfyrwyr mewn ffordd fanylach, gan gyflwyno Bwrsariaethau GIG ac astudio mewn SAUau preifat, y gallent fod yn berthnasol i rai myfyrwyr. ? Atebion i gwestiynau'r cwis – Sleidiau 4-5 C1 - Benthyciadau a grantiau i helpu talu ffioedd dysgu a chostau byw C2 – Cyn gyned ag y bo modd C3 – Eich Incwm yn y Dyfodol C4 - £21,000 i Yn ôl y gofyn, gellir gweld gwybodaeth bellach am gymhwystra i gael cyllid i fyfyrwyr ar-lein trwy droi at www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu ffonio CMC ar 0300 200 4050
NodiadauAthro/Cynghorydd O'r wybodaeth hon a'r ymarfer hwn, dylai myfyrwyr wybod nawr am amrediad y cyllid craidd sydd ar gael, a beth bynnag fo incwm y cartref (ar yr amod eu bod yn gymwys), bod cymorth ar gael i dalu eu costau byw a'u ffioedd dysgu. Pan fo hynny'n berthnasol, dylid annog myfyrwyr i rannu'r wybodaeth hon gyda'u rhieni! Cymorth ychwanegol – Sleidiau 20-22 Mae angen i fyfyrwyr y mae ganddynt anableddau, cyflyrau iechyd hirdymor, cyflyrau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu penodol, plant neu oedolion dibynnol fod yn ymwybodol o'r cymorth ychwanegol sydd ar gael iddynt, a gyflwynir yn yr adran hon, ynghyd â bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Bydd nifer o brifysgolion a cholegau AB yn cynnig amrediad o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau i'w myfyrwyr, y gallent fod yn werth miloedd o bunnoedd. Er mwyn sicrhau na fyddant yn colli'r cyfle, mae angen gwneud ymchwil ynglŷn â’r rhain yn gynnar – beth ydynt, sut i fod yn gymwys a sut a phryd i ymgeisio. Rhan 2 Ceisiadau ac Ar ôl Hynny, Sut a Phryd i ymgeisio – Sleidiau 25-29 Tudalen sy'n cynnig cyngor defnyddiol cyffredinol ynghylch sut a phryd i wneud cais am gyllid i fyfyrwyr. Y negeseuon allweddol i'w cyfleu yw bod angen i fyfyrwyr ymgeisio ar-lein cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau bod eu cyllid yn barod erbyn y byddant yn cychwyn eu cwrs. Nid oes angen eu bod wedi cael cynnig wedi'i gadarnhau cyn ymgeisio, gan sicrhau y darperir yr holl dystiolaeth ofynnol ynghylch incwm a manylion personol. Os ydych yn helpu myfyrwyr i gofrestru ac ymgeisio, dylech sicrhau eu bod yn gwneud nodyn o fanylion diogelwch eu cyfrif a'u Cyfeirnod Cwsmer, a'u bod yn ei gadw mewn man diogel!! Rheoli eich arian – Sleidiau 30-32 Er y bydd cychwyn addysg uwch yn ymddangos yn rhywbeth pell i ffwrdd i nifer o fyfyrwyr, bydd yn digwydd yn gynt na’r disgwyl, felly er mwyn paratoi eu hunain ar gyfer y costau y byddant yn eu hwynebu, mae'n bwysig eu bod yn dechrau ystyried sut fyddant yn rheoli eu harian. Un ffordd o wneud hyn yw cynllunio cyllideb sy'n rhestru eu treuliau a'u hincwm, a nod yr adran hon yw gwneud hyn, yn ogystal â darparu gwybodaeth arall ynghylch cyfrifon banc myfyrwyr, swyddi rhan-amser ac NUS extra. Gweithgarwch cyfrifo – Sleidiau 18-19 Er mwyn gwneud yr wybodaeth yn fwy perthnasol i'r myfyriwr, gall ddefnyddio'r cyfleuster cyfrifo ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk a'r canllaw cychwyn cyflym i gael amcangyfrif cychwynnol o'r cymorth y bydd yn gymwys i'w gael a gwneud nodyn o'r manylion yn y tabl a ddarparwyd. A A A Gall myfyrwyr ddefnyddio gwefannau prifysgolion/colegau a www.scholarship-search.org.uk i fwrw golwg ar beth sydd ar gael gan eu dewisiadau, a nodi'r manylion yn y blychau a ddarparwyd. Gall myfyrwyr ddefnyddio'r dudalen cyllidebu i gael syniad o'u costau tebygol, a thrwy ddefnyddio gwefannau prifysgolion, unistats, push.co.uk a gwefannau eraill, gallant ddechrau nodi rhai o'r costau fel rhent, pris Trwydded Deledu neu gerdyn Rheilffordd 16-24 ac ati. Yna, gallant gymharu'r rhain gyda'r amcangyfrifon incwm o'r cyfleuster cyfrifo a'r ymarferion chwilio am fwrsariaethau/ysgoloriaethau.
NodiadauAthro/Cynghorydd Sut mae ad-dalu benthyciad i fyfyrwyr? – Sleidiau 33-35 Yn ddelfrydol, bydd myfyrwyr yn gwneud dewis prifysgol ar sail cynnwys y cwrs a'u rhagolygon gyrfa yn y dyfodol, er gallai rhai yn seilio'u penderfyniad ar pa rai sy'n codi ffioedd dysgu is, gan eu bod yn tybio y byddant yn rhwym i ddyled na fyddant yn gallu ei rheoli am weddill eu hoes. Nid oes rhaid i hyn ddigwydd os bydd y myfyriwr a'r unigolion allweddol sy'n gwneud penderfyniadau gyda’r myfyriwr yn deall sut y mae'r system ad-dalu yn gweithio, a bydd yr adran hon yn dechrau rhoi sylw i hyn. Mae'r wybodaeth hon yn disgrifio pryd fydd myfyriwr yn 'dechrau ad-dalu', sut y cyfrifir ei ad-daliad misol ar sail 9% o’i incwm yn y dyfodol, ac na wneir unrhyw ad-daliadau nes bydd yn ennill dros £21,000 y flwyddyn gros. Mae'r tabl yn dangos ad-daliadau enghreifftiol ar sail lefelau incwm amrywiol. Ac eithrio rhoi cyd-destun i'r ad-daliadau misol, y negeseuon allweddol fydd angen i fyfyrwyr eu cael o'r adran hon yw y bydd ad-daliadau yn gysylltiedig â'r swm y byddant yn ei ennill bob amser, ac nid y swm y gwnaethant ei fenthyca, ac os bydd eu hincwm yn gostwng dan y trothwy ar unrhyw adeg, y bydd eu had-daliadau yn stopio a bod cyfnod 'dileu' o 30 o flynyddoedd ar eu had-daliadau, sy'n cychwyn pan fyddant yn dechrau ad-dalu. Llog ar eich benthyciad – Sleid 36 Un maes arall sy'n peri pryder i fyfyrwyr a'u rhieni yw'r llog sy'n gysylltiedig â'r benthyciad. Codir llog o'r diwrnod pan fyddwn yn gwneud yr ad-daliad cyntaf nes bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu'n llawn neu'n cael ei ddileu. Mae'r llog a godir yn gysylltiedig â'r Fynegai Prisiau Manwerthu (RPI) a bydd yn amrywio. Yn ystod y cyfnod astudio a nes byddant yn dechrau ad-dalu, ychwanegir llog yn ôl RPI + 3%, gan symud ymlaen, os byddant yn ennill £21,000 neu'n llai, y gyfradd fydd RPI yn unig, os byddant yn ennill rhwng £21,000 a £41,000, bydd yn RPI a hyd at 3% nes byddant yn ennill dros £41,000, pan fydd y gyfradd yn RPI +3%. Mae gwefan www.studentloanrepayment.co.uk yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau, gwybodaeth am gyfraddau llog ac ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cael gwybod sut mae ad-daliadau yn gweithio os byddant yn byw ac yn gweithio mewn gwlad dramor ar ôl gorffen yn y brifysgol. A A Ar sail incwm o £30,000 y flwyddyn, y swm a ddefnyddir i gyfrifo ad-daliad ei fenthyciad fyddai £9,000, gan mai dyma’r swm a enillir dros £21,000. Ffordd sylfaenol o gyfrifo'r ad-daliad misol fyddai rhannu £9,000 gyda 12 sy’n rhoi £750 a chyfrifo 9% o hwnnw (750 x 0.09), sydd yn ad-daliad misol o £67.50, a fyddai'n cael ei dalgrynnu i lawr i £67. Rhestr gyfeirio myfyriwr Gall myfyrwyr ddefnyddio'r rhestr gyfeirio hon i'w hatgoffa o'r camau allweddol wrth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr a helpu sicrhau bod eu cyllid yn barod pan fyddant yn cychwyn eu cwrs.