20 likes | 164 Views
Nodiadau Athro–Cyflwyniad i’r Dasg. Y cefndir – Er mwyn dechrau’r broses o ddylunio ar gyfer eraill a chasglu barn eraill am y cynnrych gorffenedig, y stryd fawr yw cyd-destun y bag.
E N D
Nodiadau Athro–Cyflwyniad i’r Dasg. Y cefndir – Er mwyn dechrau’r broses o ddylunio ar gyfer eraill a chasglu barn eraill am y cynnrych gorffenedig, y stryd fawr yw cyd-destun y bag. Pwynt dysgu/trafod posibl - trafodaeth gyda’r disgyblion am siopau’r stryd fawr, pa rai sy’n boblogaidd a pham? Er mwyn dechrau’r broses o feddwl am bethau newydd anogir y disgyblion i feddwl am ffyrdd i gynhyrchu logo neu nodwedd addurnol gwreiddiol. Y cefndir – Amlinelliad byr o’r hyn y dymunwn i’r disgyblion anelu ato yn y prosiect hwn, annogaeth iddynt ymdrechu at y lefel cyrhaeddiad uchaf sy’n bosibl. Cyflwyniad byr i gyfleoedd asesu, dulliau o drafod eu gwaith, trafod targedau a chyflawni eu potensial yn llawn..
Y cefndir – Fel rydym wedi crybwyll ar y tudalennau rhagarweiniol mae’r ‘cymeriadau athrawon’ yn ddull o gyfleu gwybodaeth, technegau, neu i hybu trafodaeth a meddwl. Y rhain oedd ein hateb ni i osod gormod o flychau amhersonol. Efallai na fyddant yn apelio at bawb – ond fe gawson ni hwyl yn tynnu lluniau ohonom ein hunain. Yn bryderus iawn fod y disgyblion yn ein hadnabod! Wrth ysgrifennu’r cyflwyniadau rydym wedi ceisio animeiddio’r hyn rydym ni’n ei ystyried sy’n addas i ddal sylw’r disgyblion. Fodd bynnag, pan rydym o’r farn bod cyfle i gyflwyno pwynt dysgu neu gyfle i gael trafodaeth bydd angen clic ar y llygoden neu’r sgrin gyffwrdd i symud y cyflwyniad ymlaen. I ailadrodd felly, rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn ddefnyddiol ac y cewch hwyl yn paru a chymysgu peth o’r gwaith wrth gyfarfod â’ch nodau dysgu – “Criw’r lluniau rhyfedd yn Ysgol Dyffryn.”