30 likes | 229 Views
LLAWRYFON RHOWCH AR BEN Yr Oen ar orsedd nef. Ni chân angylaidd nefol gôr I neb ond iddo Ef. Fy enaid cân i’r hwn Fu farw yn dy le; Trwy dragwyddoldeb nid oes gwell Ar ddaer nac yn y ne'. Cododd o'r bedd yn fyw, Gorchfygodd angau gawr. Ei rym achubol welir yn
E N D
LLAWRYFON RHOWCH AR BEN Yr Oen ar orsedd nef. Ni chân angylaidd nefol gôr I neb ond iddo Ef. Fy enaid cân i’r hwn Fu farw yn dy le; Trwy dragwyddoldeb nid oes gwell Ar ddaer nac yn y ne'.
Cododd o'r bedd yn fyw, Gorchfygodd angau gawr. Ei rym achubol welir yn Ei fuddugoliaeth fawr Esgynnodd lesu fry A chanwn fyth ei glod; Trwy aberth hwn, tragwyddol oes Ddaw inni uwch y rhod.
Ef, Brenin cariad yw, O gwêl ei glwyfau Ef. Fe'u gwelir mewn gogoniant pur Yn uchder nef y nef. Wel henffych, Brynwr cu, Fu farw dros fy mai; Cân, clod a moliant fydd i ti Yn awr ac yn ddi-drai. Matthew Bridges & Godfrey Thring cyf. Hywel Griffiths