120 likes | 283 Views
Milwyr Ifanc. y Rhyfel Mawr. Rhan II. gan Des Quinn a Martin Williams. Y Preifat Tom Notley. Roedd Tom yn dod o Gwm Rhondda. Aeth Tom i’r fyddin yn ifanc iawn. Pa waith, yn eich barn chi, roedd Tom yn ei wneud cyn iddo fynd i’r fyddin? Rhowch resymau dros eich ateb.
E N D
Milwyr Ifanc y Rhyfel Mawr Rhan II gan Des Quinn a Martin Williams
Y Preifat Tom Notley Roedd Tom yn dod o Gwm Rhondda.Aeth Tom i’r fyddin yn ifanc iawn. Pa waith, yn eich barn chi, roedd Tom yn ei wneud cyn iddo fynd i’r fyddin?Rhowch resymau dros eich ateb. Cliw: Am beth mae Cwm Rhondda’n enwog? Gwybodaeth am recriwtio’r bataliynau Delwedd trwy garedigrwydd Des Quinn
Y 10fed a’r 13eg Catrawd Gymreig = Bataliwn 1af a’r 2il (Rhondda Pals). Roedd yr Arglwydd Kitchener yn gadfridog enwog ym Mhrydain yn ystod Rhyfel y Boer. Daeth yn Ysgrifennydd Rhyfel ac roedd eisiau codi byddin newydd. Cafodd y fyddin ei galw’n Fyddin Kitchener. Roedd pob milwr ym Myddin Kitchener yn wirfoddolwr. Cafodd pob bataliwn a godwyd ei chysylltu â chatrawd lleol yr ardal honno. Er enghraifft, cafodd y bataliynau a godwyd ym Morgannwg eu cysylltu â’r Gatrawd Gymreig. Roedd y 10fed Bataliwn o’r Gatrawd Gymreig (1af Rhondda) a’r 11eg Bataliwn (y Cardiff Commercials/Cardiff Pals) yn enghreifftiau da o hyn. Yna daeth yr ail fataliwn o’r Rhondda yn sail i’r 13eg Gatrawd Gymreig.
Chwiliwch am y Preifat Tom Notley yn y ffotograff hwn. Pam, yn eich barn chi, y llwyddwyd i godi dwy fataliwn (dros 2,000 o filwyr) yng Nghwm Rhondda? Meddyliwch am: Yr ardal leol, crefydd, amodau o dan ddaear, cyflogau, bywyd cymdeithasol …
Beth yw enw’r milwr ifanc hwn? A welwch unrhyw gliwiau sy’n dweud i ba gatrawd roedd yn perthyn? Cliw: Edrychwch beth sydd ganddo yn ei law a beth sydd ganddo am ei draed. Gall y bathodyn sydd ar ei gap fod o help hefyd. Delwedd trwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen
Amlygwch a thrafodwch beth rydych yn ei weld. Amlygwch a thrafodwch beth rydych yn ei weld. I ba fyddin ac i ba fataliwn roedd y milwr hwn yn perthyn, yn eich barn chi? A yw’r iwnifform a’r offer yn wahanol i’r hyn oedd gan y milwyr eraill a welsoch? Delwedd trwy garedigrwydd Des Quinn
Amlygwch a thrafodwch beth rydych yn ei weld. I ba fyddin ac i ba fataliwn roedd y milwr hwn yn perthyn, yn eich barn chi? Beth mae’r ffotograff hwn yn ei ddweud wrthym am oedran llawer o’r milwyr ym Myddin yr Almaen? A yw’r iwnifform a’r offer yn wahanol i’r hyn oedd gan y milwyr eraill a welsoch? Delwedd trwy garedigrwydd Des Quinn
Delwedd trwy garedigrwydd Keith Strange Yn ôl y cofnodion, pedair ar ddeg oedd oedran y milwr ieuengaf a fu farw ar y Ffrynt Gorllewinol. Roedd llawer o’r milwyr wedi dweud celwydd am eu hoedran wrth ymuno. Yn ystod rhan gyntaf y rhyfel yn enwedig, cafodd llawer o filwyr ifanc eu hanfon i ffosydd y llinell flaen. Beth oedd oedran y milwr hwn o’r 18fed Bataliwn pan y bu farw? Beth, yn fras, oedd ei oedran pan ddechreuodd y rhyfel?
Pam yr aeth cymaint o ddynion ifanc i ryfel rhwng 1914 a 1918? Enghreifftiau
Cyfle i deithio(a gweld lleoedd newydd) Cyfle i fod gyda’u Pals Pam yr aeth cymaint o ddynion ifanc i ryfel rhwng 1914 a 1918? Ychydig o waith ar gael gartref Prinder o filwyr ar y Ffrynt Antur a chyffro
Dyma rai enwau a manylion y gallech eu harchwilio yng ngwefan y Commonwealth War Graves Commission: www.cwgc.org . Mae’n debyg y bydd oedran rhai ohonynt, yr hen a’r ifanc fel ei gilydd, yn eich synnu. E. Jones (2215), Monmouthshire Regiment, 1915, Ypres (Cofeb Porth Menin) B. Jones (11458), Royal Welsh Fusiliers, 1915, (Cofeb le Touret) J.Williamson (198), Royal Garrison Artillery, 1914, Caerdydd (Parc Cathays) F. Evans (15915), Royal Scots Fusiliers, 1915, (Mynwent Ddwyreiniol Boulogne) J. Harris (9785), South Staffordshire Regiment, 1915, (Mynwent Alexandria) DIWEDD