180 likes | 411 Views
Holi ac ateb yn gywir. Nid ‘ie’ yw pob ‘yes’. Oes … gyda ti? Oes / Nac oes Bachgen wyt ti? Ie / Na Buest ti i …? Do / Naddo Wyt ti eisiau …? Ydw / Nac ydw Ydyn nhw’n dod? Ydyn / Nac ydyn Oedd hi’n sych ddoe? Oedd / Nac oedd Fyddi di’n dod? Byddaf / Na fyddaf. Oes brawd gyda ti?.
E N D
Nid ‘ie’ yw pob ‘yes’ • Oes … gyda ti? Oes / Nac oes • Bachgen wyt ti? Ie / Na • Buest ti i …? Do / Naddo • Wyt ti eisiau …? Ydw / Nac ydw • Ydyn nhw’n dod? Ydyn / Nac ydyn • Oedd hi’n sych ddoe? Oedd / Nac oedd • Fyddi di’n dod? Byddaf / Na fyddaf
Oes brawd gyda ti? Oes, mae tri brawd gyda fi.
Oes anifail anwes gyda ti? Oes, mae cath fach wen gyda fi.
Nyrs wyt ti? Ie, nyrs yn ysbyty Glangwili ydw i.
Capten y tîm rygbi wyt ti? Ie, Capten tîm rygbi’r dre.
Llyfr ffuglen wyt ti’n ei ddarllen? Ie, llyfr diweddara J.K Rowling.
Buest ti ar dy wyliau eleni? Do, bues i ym Mhortiwgal.
Buest ti’n ferch dda i Mamgu? Do, bues i’n ferch ardderchog.
Wyt ti eisiau hufen iâ, Gareth ? Ydw, os gwelwch yn dda.
Wyt ti’n hoffi chwarae pêl-droed ? Ydw, ‘dw i wrth fy modd!
Ydyn nhw’n dod i’r cyfarfod hefyd? Ydyn, mae pawb yn dod i’r cyfarfod pwysig
Ydyn nhw’n aelodau o’r côr? Ydyn, nhw yw’r baswyr.
Oedd hi’n braf yn Llangrannog ddoe? Oedd, yn braf ac yn sych drwy’r dydd.
Oedd hi’n gyffyrddus yng ngwely’r arth fach? Oedd, yn gyffyrddus iawn!
Fyddi di’n dod i’r parti? Byddaf, ‘dw i’n hoffi partion pen-blwydd.
Fyddidi’nmynd at y deintyddymaml? Byddaf, bob chwe mis yn rheolaidd.