150 likes | 448 Views
Diwrnod Ysgol. Roedd y diwrnod yn dechrau trwy weddi ac addysg grefyddol. ‘Roedd gwersi’r bore yn rhedeg o 9.00 a.m. hyd at 12.00 p.m. ‘Roedd amser cinio yn parhau am ddwy awr. ‘Roedd cyfnod y p’nawn yn cychwyn am 2.00 p.m. ac yn gorffen am 5.00 p.m.
E N D
Diwrnod Ysgol Roedd y diwrnod yn dechrau trwy weddi ac addysg grefyddol. ‘Roedd gwersi’r bore yn rhedeg o 9.00 a.m. hyd at 12.00 p.m. ‘Roedd amser cinio yn parhau am ddwy awr. ‘Roedd cyfnod y p’nawn yn cychwyn am 2.00 p.m. ac yn gorffen am 5.00 p.m.
Arferai’r plant ddysgu ysgrifennu gan ddefnyddio llechi. ‘Roeddent yn naddu llythrennau ar y llechi gan ddefnyddio pensal lech neu garreg nadd. Roedd plant i fod i ddod a chadach eu hunain i lanhau’r llechi. ‘Roedd y rhan fwyaf o’r plant yn glanhau’r llechen trwy boeri arnynt a’u sychu gyda’i llawes.
‘Roedd y plant hyn yn defnyddio pen ac inc i ysgrifennu mewn llyfrau. Pob bore, byddai’r ‘monitor’ yn dosbarthu’r inc yn y potiau. Roedd y plant yn cael eu cosbi os oeddent yn gwneud sbloets ar eu llyfrau gyda’r inc.
Roedd gwersi arferol yn cynnwys elfennau o’r tri ‘R’s’ sef ‘Reading, wRiting ac aRithmetig’ gan gynnwys elfennau o arddweud. ‘Roedd y plant yn dysgu’r rhan fwyaf o’u gwersi drwy gopio ac ysgrifennu pethau i lawr neu trwy lafarganu pethau nes eu bod yn gwybod y geiriau yn berffaith ar eu cof.
Yn ystod y cyfnod cynnar, roedd y plant yn dysgu darllen o’r Beibl. ‘Roedd pawb yn gorfod aros eu tro i ddarllen pytiau o’r Beibl. ‘Roedd iaith y Beibl yn wahanol i iaith pob dydd a buan iawn y sylweddolwyd fod rhaid cael defnyddiau darllen oedd yn fwy addas ar gyfer y plant. Cyflwynwyd llyfrau a storiau moesol i’r plant eu darllen. Gan fod rhaid i’r defnydd darllen barhau am flwyddyn ‘roedd y plant yn ail ddarllen y llyfr os oeddent wedi’i orffen.
Yn ogystal a’r gwersi darllen, ysgrifennu a mathemateg dyddiol,‘roedd y plant yn cael gwersi daearyddiaeth, hanes a chanu unwaith yr wythnos. ‘Roedd y merched yn cael eu dysgu i wnio. Roedd gwyddoniaeth yn cael eu ddysgu trwy ‘edrych ar wrthrych’. Gosodwyd malwod, blodau, gwenith, lluniau o bob math ar fyrddau o flaen y plant. Gwaith y plant oedd disgrifio’r gwrthrych. Byddai’r athrawon rhan fwyaf yn dewis ysgrifennu disgrifiad o’r gwrthrych eu hunain a gwneud i’r plant gopio’r gwaith oddi ar y bwrdd du.
Y Dril Un o hoff wersi’r rhan fwyaf o blant oedd y ‘Dril’.Roedd yn gyfle iddyn nhw fynd i iard yr ysgol i wneud ymarferion .Dyma lun o blant ym yn ymarfer dril ar iard yr ysgol. Roedd rhaid i’r plant loncian, ymestyn a chodi pwysau i gyfeiliant hen biano. Pan oedd cloch yn canu i ddiweddu gwers, ‘roedd rhaid i’r disgyblion fartsio allan mewn amseriad perffaith.
Rhestrwch yr hyn sydd i’w weld mewn ystafell ddosbarth ar ddechrau Oes Fictoria chi a’r hyn oedd i’w weld yn ystafell ddosbarth ar ddiwedd cyfnod Oes Fictoria.
Absennol o’r ysgol Mewn ysgol ar ddiwedd Oes Fictoria, fel heddiw, ‘roedd llenwi’r gofrestr yn bwysig. Byddai’r plant a fyddai’n methu dod i’r ysgol yn cael ymweliad oddi wrth y swyddog arbennig- y Whipper in. Os nad oedd rheswm da dros fod yn absennol, byddai’r plant yn cael cosb.
Cosbi O edrych ar gofnodion y llyfr cosb ‘roedd sawl rheswm dros gosbi plentyn. Byddai plant yn cael eu chwipio am y rhesymau canlynol- gadael buarth yr ysgol heb ganiatad, ymddygiad digywilydd, ateb yn ôl, taflu ‘pellets’ inc, cyrraedd yn hwyr a.y.y.b.
Cap ‘Dunce’ Byddai rhai plant oedd yn cael trafferthion efo’i dysgu yn gorfod gwisgo’r cap ‘Dunce’. Het siap côn oedd hwn gyda’r llythyren ‘D’ wedi’i ysgrifennu’n fawr ar y tu blaen. Gosodwyd yr het yma ar ben y plentyn a gwnaed iddo sefyll ar stôl yng nghefn y dosbarth.
Gwobrwyo Nid cosbi oedd yr unig ffordd o geisio cael plant i ddod i’r ysgol yn gyson. Bydden nhw’n derbyn gwobrau hefyd. Rhoddai’r ysgolion wobrau i’r plant a oedd yn bresennol yn gyson. Dyma’r gwobrau a gai’r plant am bresenoldeb cyson mewn ysgol yn y Bari. Blwyddyn 1af llyfr Ail flwyddyn llyfr 3edd flwyddyn medal 4edd flwyddyn set geometreg 5ed flwyddyn oriawr arian