110 likes | 321 Views
Yn Esgidiau Rhywun Arall. Dychmygwch…. Sut deimlad fyddai i wisgo’r esgidiau hyn? Pwy ydych chi’n credu allai fod yn berchen arnynt? Ydych chi’n meddwl y byddech yn anhapus yn gwisgo’r esgidiau hyn?. Dychmygwch…. Sut deimlad fyddai i wisgo’r esgidiau hyn?
E N D
Dychmygwch….. • Sut deimlad fyddai i wisgo’r esgidiau hyn? • Pwy ydych chi’n credu allai fod yn berchen arnynt? • Ydych chi’n meddwl y byddech yn anhapus yn gwisgo’r esgidiau hyn?
Dychmygwch… • Sut deimlad fyddai i wisgo’r esgidiau hyn? • Pwy ydych chi’n credu allai fod yn berchen arnynt? • Ydych chi’n meddwl y byddech yn hapus yn gwisgo’r esgidiau hyn? • Pe bai’r esgidiau hyn yn gallu siarad, beth fyddent yn ei ddweud?
Eich tasg!! • Mewn grwpiau o 4 neu 5 lluniwch gyflwyniad chwarae rôl yn seiliedig ar un o’r senarios canlynol. Rhaid i chi ddychmygu eich bod yn rhan o’r senario – yn gwisgo esgidiau’r person hwnnw. • Meddylwiwch yn ofalus ynglyn â sut y byddech yn actio a sut y byddech yn teimlo. • Cofiwch gynnwys gwybodaeth am beth sy’n digwydd nesaf yn eich chwarae rôl – ceisiwch ganfod ateb i’r broblem.
Senario 1 • Ar ôl ysgol rydych chi a’ch ffrinidau yn aros wrth yr arosfan bws i ddal y bws adref. O’ch blaen yn y rhes mae merch sy’n cael trafferth gyda’i harian ac yn cael trafferth i ddeall gwrrwr y bws. Mae rhywun yn gwthio i mewn o’i blaen ac yn gweddi “Tramorwyr twp!” • Beth ydych chi’n ei wneud?
Senario 2 • Mae hi’n nos Wener, rydych chi a’ch ffirndiau yn sefyll tu allan i’r siopau. Mae hen fenyw yn styffaglu gyda’i siopa ac mae un o’i bagiau’n torri. Mae rhywun yn dechrau chwerthin ac yn codi bresych a dechrau ei daflu. • Beth ydych chi’n ei wneud?
Senario 3 • Rydych yn geisiwr lloches sydd newydd gyrraedd y DU. Heddiw yw eich diwrnod cyntaf yn yr ysgol. Yn ystod y sesiwn gofrestru mae’r athrawes yn cam-ynganu eich enw. Mae’r dosbarth i gyd yn gweld hyn yn ddoniol ac yn chwerthin. Nawr maent yn eich galw wrth yr enw anghywir ac yn dal i’w weld yn ddoniol iawn. • Beth ydych chi’n ei wneud?
Senario 4 • Rydych yn iard yr ysgol amser cinio. Rydych yn gweld grwp o fechgyn yn rhedeg at ferch fwslemaidd ac yn tynnu ei hijab. Mae’r bechgyn yn chwerthin ac yn rhedeg i ffwrdd gyda’r sgarff. • Beth ydych chi’n ei wneud?
Senario 5 • Mae’r clwb ieuenctid lleol yn cynnal disgo ac mae plant sy’n mynychu clwb ieuenctid arall wedi cael gwahoddiad. Mae un o’r bechgyn mewn cadair olwyn. Mae grwp o fechgyn yn dechrau chwerthin am ei ben ac yn dweud pethau anghwrtais. • Beth ydych chi’n ei wneud?
Senario 6 • Mae un ohonoch yn geisiwr lloches sydd wedi gorfod gadael ei wlad oherwydd ei bod yn anniogel i chi aros yno. Ar eich diwrnod cyntaf yn yr ysgol mae’r disgyblion yn dechrau dweud pethau am bobl eich gwlad. Dydych chi ddim am achosi trwbl, ond mae’r hyn maent yn ei ddweud yn eich gwylltio a gwneud i chi deimlo’n drist. • Beth ydych chi’n ei wneud?
Yn ôl yn Eich Esgidiau eich Hun… • Wedi i chi ddangos eich chwarae rôl i weddill y dosbarth, trafodwch sut y cafodd y problemau eu trin a rhowch awgrymiadau i’ch gilydd ynglyn â ffyrdd eraill i’w datrys.