130 likes | 246 Views
Modiwl 5: Sicrhau ansawdd. Beth yw system sicrhau ansawdd?. Edrychwch ar y delweddau hyn er mwyn cael syniadau am y rhesymau dros ddefnyddio systemau sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
E N D
Beth yw system sicrhau ansawdd? Edrychwch ar y delweddau hyn er mwyn cael syniadau am y rhesymau dros ddefnyddio systemau sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae system sicrhau ansawdd yn mesur perfformiad gwasanaeth ar sail nifer o safonau i weld pa mor dda mae'n rhedeg ac i sicrhau bod gofal o ansawdd da yn cael ei ddarparu. Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Pa ffactorau sy'n effeithio ar sicrwydd ansawdd? Mae'r safonau mae'n rhaid i wasanaethau eu cyrraedd yn dibynnu ar amryw o ffactorau fel deddfwriaeth, codau ymddygiad a rheoliadau. Cliciwch ar y dylanwadau isod i'w paru â lliwiau pennawd y tri ffactor. Cliciwch yma i weld yr atebion. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1974) Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth Diogelu data Deddf Safonau Gofal (2000) Atebolrwydd gwasanaethau Codi a chario Dilyn arferion gweithio diogel Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) Rheoliadau Deddfwriaeth Codau ymddygiad Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Dulliau sicrhau ansawdd Arolygu a monitro Gweithdrefnau cwyno Hyfforddi staff Gwobrau am ansawdd gwasanaethau ? ? Sicrhau ansawdd Graddio â sêr ? ? Cofrestriad proffesiynol Rheoli perfformiad Ymgynghori â'r cyhoedd Faint o ddulliau sicrhau ansawdd allwch chi feddwl amdanyn nhw? Trafodwch hyn ac wedyn cliciwch ar bob un o'r delweddau isod i weld ein hawgrymiadau neu cliciwch yma i gael diagram gwag i'w lenwi. Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Monitro Caiff gwasanaethau eu monitro a'u harolygu'n fewnol ac yn allanol, ac mae hyn yn rhoi gwybodaeth am ansawdd gofal. Cliciwch ar y sectorau isod i gael gwybod pwy yw'r cyrff arolygu. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Estyn (Cymru) ac Ofsted (Lloegr) Gofal iechyd Gofalcymdeithasol Gwasanaethau plant Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Gweithdrefnau cwyno Rhaid i bob gwasanaeth weithredu gweithdrefn gwyno, a rhoi canllawiau clir am beth i'w wneud os nad yw rhywun yn fodlon ar y gwasanaeth. Cliciwch ar yr eicon fideo i weld clip am y ffordd i gwyno yn y GIG ac wedyn atebwch y cwestiynau isod. Cofnodwcheichsyniadauyma: Pryd dylech chi gwyno? Pan nad ydych chi’n fodlon ar y gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn. Dylech chi wneud hyn ar unwaith. Beth yw manteision gweithdrefn gwyno? Mae'n rhoi hyder i ddefnyddwyr gwasanaethau yn eu gallu i ddylanwadu ar lefel y gwasanaeth maen nhw’n ei dderbyn Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Ymgynghori â defnyddwyr Gall defnyddwyr gwasanaethau helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau mewn nifer o ffyrdd. Faint o fathau o ymgynghori cyhoeddus allwch chi feddwl amdanyn nhw?Cliciwch ar bob un o'r lluniau isod i weld rhai awgrymiadau. Anfon holiaduron i deuluoedd neu eu dosbarthu Blychau i ddefnyddwyr gwasanaethau adael awgrymiadau'n di-enw Fforymau cleifion lle mae unigolion yn siarad ar ran defnyddwyr ? Ymgynghori â'r cyhoedd ? ? PALS: mae'n rhoi cyngor ac yn datrys problemau i gleifion y GIG Taflenni am y gwasanaethau sydd ar gael Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Rheoli perfformiad Monitro perfformiad gwasanaethau a staff ar sail targedau penodol. Pennu targedau Hyfforddiant Pennu ffyrdd o drechu gwendidau Pennu ffyrdd o geisio cyrraedd y targedau Datblygiad Proffesiynol Parhaus Monitro perfformiad staff a gwasanaethau ar sail y targedau Adnabod gwendidau Arsylwi Asesu Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Hyfforddi staff Mae gwahanol fathau o hyfforddiant yn cael eu darparu i staff mewn gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a phlant i sicrhau eu bod yn gallu darparu gofal effeithiol. Pa fathau o hyfforddiant allwch chi feddwl amdanyn nhw? Codi a chario Mathau o hyfforddiant Cymorth cyntaf Diogelwch tân Iechyd a diogelwch Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Cofrestriadau proffesiynol Mae cofrestriad proffesiynol yn dangos lefel cymhwysedd yr unigolyn. Gyda pha gyrff proffesiynol mae'r unigolion isod yn debygol o gael eu cofrestru? Y Cyngor Addysgu Cyffredinol Meddyg Y Cyngor Meddygol Cyffredinol Athro/ Athrawes Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth Nyrs Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Gwobrau ansawdd a graddio â sêr Beth mae'r delweddau hyn yn ei ddangos? Mae Nod Siarter yn wobr am ansawdd ac yn ffordd o wobrwyo arfer da. Gall pob corff yn y sector cyhoeddus wneud cais am asesiad ffurfiol i gael Nod Siarter. Mae graddau sêr yn ddangosyddion perfformiad a ddefnyddir yn y GIG. Maen nhw’n dangos pa mor dda mae gwasanaeth yn cael ei redeg. Caiff y gwasanaethau sgôr rhwng dim a thri. Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Datblygiad proffesiynol parhaus Dylai gweithwyr ddysgu am yr arferion diweddaraf, adnabod eu gwendidau a chwilio am ffyrdd o ddelio â'r rhain. Mae hyn yn hyrwyddo gofal o ansawdd da. Sut gall gweithwyr gofal barhau i ddatblygu'n broffesiynol? Cofnodwch bedwar syniad ychwanegol isod ac wedyn cliciwch i weld ein hawgrymiadau. Mentora unigolion eraill neu gael eich mentora gan rywun mwy profiadol. Ennill cymwysterau ychwanegol. • Mynd ar gyrsiau allanol i ddiweddaru gwybodaeth. • Dilyn cwrs sefydlu fel y byddwch yn dilyn polisïau a gweithdrefnau. • Hyfforddiant mewnol. • Darllen am newidiadau mewn ymarfer. Modiwl 5: Sicrhau ansawdd
Cwestiynau i'w trafod • Pam mae'n bwysig i ddefnyddwyr gwasanaethau allu rhoi adborth am eu gofal? • Pam mae angen codau ymddygiad hyd yn oed os yw deddfwriaeth wedi'i gwneud? • Pam mae angen i weithwyr gofal barhau i ddatblygu'n broffesiynol, er eu bod wedi ymgymhwyso i weithio yn y sector? Modiwl 5: Sicrhau ansawdd