370 likes | 600 Views
Modiwl 2: Addysgu arian. Amcanion y modiwl. Darparu strategaethau ac adnoddau effeithiol i ategu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o arian, ei swyddogaethau a’i ddefnyddiau.
E N D
Amcanion y modiwl • Darparu strategaethau ac adnoddau effeithiol i ategu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o arian, ei swyddogaethau a’i ddefnyddiau. • Adnabod gweithgareddau y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu sgiliau dysgwyr fel yr amlinellir yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh).
Cyfleoedd yn y cwricwlwm i gyflwyno addysg ariannol • Mae elfennau penodol o addysg ariannol wedi cael eu cynnwys yn nogfennau canlynol Llywodraeth Cymru. • Y Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru • Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) • Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru • Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru • Gyrfaoedd a'r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) • Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd: • Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol • Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif • Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur • Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.
Cydran rhifedd y FfLlRh • Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif • Elfennau: • Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau • Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb • Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig • Amcangyfrif a gwirio • Rheoli arian
Deilliannau dysgu’r FfLlRh Mae’r tablau canlynol yn dangos deilliannau dysgwyr fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Canolbwyntir yma ar yr elfen ‘Rheoli arian’. Y datganiadau mewn teip trwm yw’r deilliannau dysgwyr a gwmpasir yn y modiwl hwn.
Deilliannau dysgu’r FfLlRh learning.wales.gov.uk/resources/nlnf/?skip=1&lang=cy
Ar drywydd dysgu yn y FfLlRh Os yw’n berthnasol i’ch dysgwyr chi, oes cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau uchod? Ychwanegwch eich syniadau at y ‘Cynllunydd rheoli arian’ sydd ar gael i'w lawrlwytho yn y modiwl hwn.
Cynllunydd rheoli arian Tasg barhaus: Meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’ (gweler Adnodd 1).
Addysgu arian Gweithgaredd cychwynnol: Rhad neu ddrud? Gofynnwch i’r person cyntaf yn y grŵp i nodi rhywbeth sy’n rhad, a’r person nesaf i nodi rhywbeth sy’n ddrud ac ati. Gofynnwch: • Beth yw’r eitem fwyaf rhad y mae rhywun wedi’i nodi? • Allwch chi feddwl am unrhyw beth rhatach? • Beth yw’r eitem fwyaf drud? • Allwch chi feddwl am unrhyw beth drutach?
Chwarae rôl • Mae ardal chwarae rôl sy’n cynnwys arian yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu ymwybyddiaeth o ddefnyddio arian a’i werth. Defnyddiwch arian go iawn os yw’n bosib. • Syniadau • Beth am gael dwy ardal chwarae rôl: un ardal gysylltiedig â’r cartref ac un ardal gysylltiedig ag arian. • Gall y plant yn yr ardal ‘cartref’ drafod eu hanghenion, cynllunio beth i’w brynu, ysgrifennu rhestr, penderfynu sut i chwarae, cyfrif arian, gwirio gweddillion banc, ac ati cyn siopa. • Yn y lleoliad masnachol gall plant gyfrif, archebu, categoreiddio, trefnu arddangosiadau, penderfynu ac ysgrifennu prisiau, cyflawni trafodion, ysgrifennu derbynebau, ac ati.
Syniadau chwarae rôl sy’n cynnwys arian • Ynys môr-ladron. • Swyddfa’r Post. • Caffi/bwyty. • Canolfan arddio. • Milfeddyg. • Groto Siôn Corn. • Theatr. • Banc. • Siop – mae sawl math o siop i’w ddewis!
Dewis o siopau chwarae rôl a argymhellir gan athrawon yng Nghymru DIY/iard adeiladwyr Siop anifeiliaid anwes Siop leol Siop deganau Siop esgidiau Siop ffrwythau a llysiau Siop bunt • Siop gastell • Siop tywysog a thywysoges • Siop amgueddfa • Siop hetiau • Siop gwisg ffansi • Siop lyfrau
Sgyrsiau chwarae rôl • Sut ydych chi’n gwybod beth yw pris pethau? • Sut mae’r siopwr yn gwybod pa brisiau i’w rhoi ar bethau? • Beth sydd angen i chi fynd gyda chi pan fyddwch chi’n mynd siopa? • Sut ydych chi’n gwybod faint fydd rhaid i chi ei dalu i gyd? • Pa arian fyddwch chi’n ei roi i’r siopwr? • Fyddwch chi’n cael unrhyw newid? Faint? • O ble fyddwch chi’n cael yr arian? • Beth fyddwch chi’n ei wneud os nad oes digon o arian gennych chi? • Beth mae cerdyn credyd yn ei wneud? • Ydy unrhyw un yn eich teulu yn ysgrifennu rhestr siopa cyn mynd allan? • Ydyn nhw’n prynu unrhyw beth sydd heb ei gynnwys ar y rhestr? • Oes ots os oes gwallau sillafu ar y rhestr? • Pam nad ydych chi’n rhoi pethau yn syth i mewn i’ch bag pan fyddwch chi’n siopa? • (Addaswyd o Money Counts, Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol)
Sgiliau chwarae rôl • Hyfforddwch grŵp o blant i ddefnyddio’r offer chwarae rôl yn briodol. Gall y ‘rheolwyr’ hyn hyfforddi’r plant eraill wedyn. Efallai y bydd angen iddyn nhw: • ddefnyddio’r til yn gywir • penderfynu ar brisiau • ysgrifennu labeli’n glir • cofnodi archebion • ysgrifennu derbynneb • cadw cofnod o’r eitemau a werthwyd • rhoi newid. • Syniad: Cael ‘arianwyr/cyfrifwyr’ i gyfrif yr arian ar ddiwedd bob dydd. Cael rhestr wirio wedi’i lamineiddio yn barod – Faint o bob darn arian? Faint o arian ar gyfer pob math o ddarn arian? Faint o arian i gyd?
Prisiau • Trafodwch brisiau gyda’r dysgwyr. • Fel arfer byddan nhw’n dewis o’r amrywiaeth y maen nhw’n gyffyrddus ag ef. Gallwch chi newid hyn wrth iddyn nhw wneud cynnydd, gan edrych ar y deilliannau dysgwyr priodol yng nghydran rhifedd y FfLlRh. • Gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio i brisiau (gwaith cartref/rhyngrwyd). • Dylai’r gwahaniaeth mewn prisiau ar draws amrywiaeth o siopau godi’n naturiol.
Pwyntiau i’w hystyried Mae rhai dysgwyr yn syndod o dda gydag arian, ond mae rhai yn syndod o wael. • Mae profiadau bywyd y dysgwr yn gwneud gwahaniaeth i’w allu i ddefnyddio arian. • Mae rhai o’r rhesymau pam y gallai dysgwyr fod yn fwy neu’n llai abl i ddefnyddio arian yn hyderus yn cynnwys a ydyn nhw’n cael arian poced neu beidio, pa mor bell y maen nhw’n byw o’r siopau a chymdeithas fwyfwy anariannol.
Asesu i gael man cychwyn • Syniadau asesu: • Dechreuwch gyda map o’r hyn y mae dosbarth/dysgwyr unigol yn ei wybod eisoes am arian. • Pan fyddwch chi wedi cael man cychwyn i’r dysgwyr, defnyddiwch elfen ‘Rheoli arian’ cydran rhifedd y FfLlRh i gynllunio gwersi dilyniadol.
Gweithgareddau ac adnoddau i gefnogi deilliannau dysgwyr yn yr elfen ‘Rheoli arian’ o gydran rhifedd y FfLlRh
Defnyddio darnau arian 1c, 2c, 5c a 10c i dalu am eitemau(Elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh: Dosbarth derbyn) • Adnoddau defnyddiol: darnau arian go iawn, darnau arian mwy nag arfer, tiliau. • Syniadau am weithgareddau: • Trefnu darnau arian yn ôl siâp/lliw/swm. • Trefnu arian go iawn ar ddarnau mwy nag arfer/i’r til. • Canfod darnau arian mewn tywod/dŵr/pridd. Mae un plentyn yn casglu 5c, mae un arall yn casglu 2c, ac ati. Gofynnwch 'Faint o ddarnau arian? Faint o arian?' • Rhowch set o ddarnau arian i bob plentyn. Gofynnwch iddyn nhw 'Dewch o hyd i ddarn arian fel hyn/darn arian 5c/y darn arian sy'n werth y swm lleiaf o arian/darnau arian i roi cyfanswm o 8c/eich hoff ddarn arian‘, ac ati. • Gemau snap/bingo/paru gan ddefnyddio darnau arian a phrisiau. • Labelwch ddis mawr gyda darnau arian/prisiau. Mae'r plant yn rholio'r dis; gallan nhw gael hyd i'r darn arian cyfatebol o set o arian go iawn. • Sylwch: Mae adnabod darnau arian yn fwy anodd i rai dysgwyr nawr oherwydd nid yw darnau arian o'r un gwerth yn dangos yr un lluniau bob tro ac nid yw'r gwerth wedi'i ysgrifennu ar y darn arian bob tro.
Defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at 20c/£1/£2/£10(Elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh: Blynyddoedd 1, 2, 3 a 4) • Adnoddau defnyddiol: darnau arian go iawn, adnoddau amlsynhwyraidd (e.e. Numicon), ardal chwarae rôl gyda thema arian, ffon cyfrif wedi'i labelu yn ymwneud ag arian (e.e. 5c, 10c, 15c, ac ati), cardiau gwerth lle arian (gwelerAdnodd 2), darn arian go iawn wedi'i roi ar y rhif cyfatebol ar linellau rhif yn yr ystafell ddosbarth, Fflic Fflacs https://hwb.wales.gov.uk/searchsite/Results.aspx?k=flik%20flaksllinynnau gleiniau, bar gleiniau. • Syniadau am weithgareddau: • Parwch bob darn arian â'i werth mewn ceiniogau gan ddefnyddio adnoddau amlsynhwyraidd, e.e. Numicon. • Rhowch set o ddarnau arian i'r plant. Allan nhw drefnu’r darnau arian o'r swm lleiaf o arian i'r swm mwyaf o arian? A'r swm mwyaf i'r swm lleiaf? • Sawl ffordd allwch chi wneud --c? • Mae gen i 4 darn arian yn fy mhwrs, faint o arian allai fod gen i? • Mae gen i --c yn fy mhwrs, pa ddarnau arian allai fod gen i? • Prynwch eitemau yn yr ardal chwarae rôl, faint sydd i gyd? • Defnyddiwch 'reolau' ar adegau gyda gweithgareddau yn yr ardal chwarae rôl, e.e. gall siopwyr ddefnyddio darnau 1c a 2c yn unig, defnyddio'r union arian, defnyddio darnau lliw arian, ac ati. • Gemau Her Darnau Arian.
Cipolwg o gêm Her Darnau Arian A A A A A https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/coin-challenge.html
Adio a thynnu cyfansymiau llai na £10/£100 drwy ddefnyddio’r nodiant cywir(Elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh: Blynyddoedd 4 a 5) • Adnoddau defnyddiol: adnoddau amlsynhwyraidd (e.e. Numicon), arian go iawn, llinynnau gleiniau, bar gleiniau, llinellau rhif, cardiau gwerth lle arian (gwelerAdnodd 2), dis wedi'i labelu â darnau arian/papurau/symiau o arian/cyfarwyddiadau. • Syniadau am weithgareddau: • Storïau siopa (gweler Gweithgaredd 1). • Darnau arian yn y tun (gweler Gweithgaredd 2). • Gemau dis gwag (gweler Gweithgaredd 3). • Bingo (gweler Gweithgaredd 4). • Gweithgareddau chwarae rôl: • Prynwch ddwy eitem neu ragor: faint i gyd? • Dechreuwch gyda swm penodol o arian: faint sydd ar ôl wedi i chi brynu'r eitemau? • Mae £5 gennych chi i'w wario: beth fyddwch chi'n ei brynu? • Mae pob eitem yn 20c neu ragor neu'n 5c yn llai heddiw: allwch chi ysgrifennu'r labeli prisiau newydd?
Gweithgaredd 1: Storïau siopa • Meddyliwch am rai storïau am siopa. Ym mhob cam o’r stori mae’r dysgwyr yn dangos yr arian ar eu cardiau gwerth lle arian. • Er enghraifft: • Es i i siopa gyda £4.50. Ar y ffordd i’r siopau fe es i i weld fy modryb, roedd hi wedi rhoi 50c i mi. Faint sydd gen i nawr? • Prynais i lyfr yn y siop 99c, faint sydd gen i ar ôl? Prynais i botel o ddŵr am 75c, faint sydd gen i ar ôl? • Pan gyrhaeddes i adref fe wnes i roi hanner fy arian yn fy mlwch cynilo. Faint sydd gen i ar ôl yn fy mhwrs? • (Adnodd 2 – Cardiau gwerth lle arian)
Gweithgaredd 2: Darnau arian yn y tun Rhowch ddarnau arian mewn tun. Mae’r dysgwyr yn gwylio, yn gwrando ac yna’n dangos y cyfanswm ar eu cardiau gwerth lle arian (neu’n ysgrifennu’r cyfansymiau ar fyrddau gwyn). Syniad: Defnyddiwch 3 thun wedi’u labelu ‘£1’, ‘10c’ a ‘1c’ a rhoi darnau arian perthnasol mewn y tuniau i atgyfnerthu’r gwerth lle. Syniad: Defnyddiwch ddarnau arian 2c, 5c neu 10c wrth addysgu cyfrif mewn camau o 2, 5 neu 10. Syniad: Rhannwch y dosbarth yn grwpiau ac mae pob grŵp yn cyfrif mewn camau o ddarn arian gwahanol. Cyfrifwch ymlaen ac yn ôl. (Adnodd 2 – Cardiau gwerth lle arian)
Gweithgaredd 3: Syniadau dis gwag • Syniad: • Labelwch y dis gyda darnau arian/prisiau. • Rholiwch y dis 3 gwaith yr un – pwy sydd â’r arian mwyaf? • Adiwch y darnau arian nes i chi gyrraedd cyfanswm penodol. • Tynnwch ddarnau arian o gyfanswm dechreuol. Faint sydd ar ôl wedi pob tafliad? Pwy sydd â’r mwyaf/lleiaf o arian ar y diwedd? • Syniad: • Labelwch ddis gyda chyfarwyddiadau. • Er enghraifft, dyblwch, hanerwch, ychwanegwch 10c, tynnwch 25c, ac ati, o swm cychwynnol. Pwy sydd â’r arian mwyaf ar ôl 6 tafliad yr un?
Gweithgaredd 4: Bingo ‘arwerthiant 5c oddi ar brisiau’ • Prisiau siop gwreiddiol: • 10c 20c 30c 40c 50c 60c 70c 80c 90c £1 • Cynnig arbennig – 5c oddi ar bris popeth heddiw! • Dewiswch unrhyw 5 o brisiau newydd heddiw i ysgrifennu ar eich bwrdd bingo. • Pan fydd y galwr yn galw’r pris gwreiddiol, gallwch groesi’r pris newydd allan (e.e. os yw’r galwr yn dweud 70c gallwch groesi allan 65c).
Rhoi newid o 10c/lluosrifau o 10c/£2/£10(Elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh: Blynyddoedd 1, 2, 3 a 4) • Adnoddau defnyddiol: arian go iawn, adnoddau amlsynhwyraidd (e.e. Numicon), llinynnau gleiniau (10, 20 neu 100 fel y bo’n briodol), bar gleiniau, llinellau rhif, ffon cyfrif. • Syniadau am weithgareddau: • Bydd rhaid i’r plant ymarfer cyfrif ymlaen/yn ôl mewn camau o ddarnau arian a chanfod y gwahaniaeth. • Darnau arian yn y tun (gweler Gweithgaredd 2) • ‘Mynd siopa’ (gwelerTaflen weithgaredd rheoli arian: Mynd siopa) • Fflic Fflacs (https://hwb.wales.gov.uk/SearchSite/Results.aspx?k=flik%20flaks)
Rhoi newid o 10c/lluosrifau o 10c/£2/£10(Elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh: Blynyddoedd 1, 2, 3 a 4) • Adnoddau defnyddiol: arian go iawn, adnoddau amlsynhwyraidd (e.e. Numicon), llinynnau gleiniau (10, 20 neu 100 fel y bo’n briodol), bar gleiniau, llinellau rhif, ffon cyfrif. • Syniadau am chwarae rôl: • Gall y ‘siopwr’ ddefnyddio darnau 10c/£1 ac ati yn unig gydag eitemau wedi’u prisio’n is fel bod angen rhoi newid. • Gallwch wahaniaethu drwy roi darnau arian priodol i ‘siopwyr’ gwahanol. • Paratowch dasg i’r dysgwyr, yna gwyliwch. • Fflic Fflacs (https://hwb.wales.gov.uk/searchsite/Results.aspx?k=flik%20flaks). • Syniad: • Beth am roi basged o adnoddau wrth ymyl y til i helpu’r ‘siopwr’ pan fydd yn rhoi newid (e.e. bwrdd gwyn/pen i wneud nodiadau, llinynnau gleiniau, llinell rif, cardiau gwerth lle arian, Numicon).
Trefnu a chymharu eitemau hyd at £10/£100/£1000(Elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh: Blynyddoedd 3, 4 a 5) • Adnoddau defnyddiol:arian go iawn, adnoddau amlsynhwyraidd (e.e. Numicon), llinynnau gleiniau, bar gleiniau, llinellau rhif, ffon cyfrif wedi’i labelu mewn gwerthoedd arian (e.e. £10, £20, £30 hyd at £100), eitemau wedi’u prisio, tagiau prisiau. • Syniadau am weithgareddau: • Cymharwch ddau bris (neu ragor). Beth yw’r lleiaf/mwyaf drud? (Defnyddiwch Numicon/arian go iawn/bar gleiniau/llinell rif os nad yw’r plant yn gallu gwneud hyn yn eu pennau). • Rhowch eitemau wedi’u prisio yn eu trefn o’r lleiaf i’r mwyaf drud (neu’r mwyaf i’r lleiaf drud). • Rhowch dagiau prisiau yn gywir ar ffon gyfrif wedi’i labelu/llinell rif/bar gleiniau. • Cymharwch wahanol frandiau o’r un cynnyrch i helpu dysgwyr i fod yn ‘ddefnyddwyr doeth’.
Dolenni/llawrlwythiadau adnoddau • Adnodd 1 – Cynllunydd rheoli arian • Adnodd 2 – Cardiau gwerth lle arian • https://hwb.wales.gov.uk/searchsite/Results.aspx?k=money%20place%20value%20cards • Adnodd ychwanegol – Fflic Fflacs • https://hwb.wales.gov.uk/searchsite/Results.aspx?k=flik%20flaks
Gwefannau defnyddiol • Hwb – www.hwb.cymru.gov.uk • www.pfeg.org • Mae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. Saesneg yn unig. • – Ar gyfer syniadau asesu gweler ‘Learning About Money – Primary Assesment Ideas’ pfeg. • – Gweler ‘Primary Toolkit’ pfeg am amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau addysgu. • www.nationwideeducation.co.uk • Sgiliau cyllid: gemau, llyfrau stori, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith* i ddysgwyr 4 i 18 oed ac yn fwy (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein).* Fersiynau Cymraeg ar gael. • www.teachers.rbs-pocketmoney.co.uk/index.html • Dewis o gemau rhyngweithiol, cynlluniau gwersi a thaflenni gweithgareddau i atgyfnerthu addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Saesneg yn unig.
Gwefannau defnyddiol • www.bankofengland.co.uk/education/Pages/poundsandpence/welsh.aspx Mae ‘Pounds and Pence’ ar gyfer athrawon dysgwyr 9–11 oed. Mae’n darparu gwybodaeth amrywiol a chardiau gweithgareddau a fydd yn annog dysgwyr i feddwl am arian a phrisiau. • www.barclaysmoneyskills.com/en/Information/Resource-Centre/School-children.aspx • Gweler ‘Pecynnau Adnoddau Sgiliau Arian Barclays Cyfnodau Allweddol 1 a 2’ – nod yr adnoddau yw helpu i ddarparu sesiynau llawn hwyl, rhyngweithiol ar bynciau rheoli arian sylfaenol. Saesneg yn unig. • www.moneyville.co.uk • Mae Moneyville yn wefan addysgol sy’n ceisio galluogi plant ysgol 5–9 oed i ddysgu mwy am arian mewn amgylchedd llawn hwyl a rhyngweithiol. Saesneg yn unig. • www.valuesmoneyandme.com • Mae’r adnoddau rhyngweithiol yn helpu plant i archwilio byd arian o fewn cyd-destun gwerthoedd personol a moesegol. Bydd plant yn dechrau gwerthfawrogi’r cyfyng-gyngor cymhleth, emosiynol a moesol y byddwn ni i gyd yn ei wynebu weithiau wrth drafod arian. Saesneg yn unig.