1 / 42

Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio

Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio. Etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr. Cyflwyniad . Swyddog Canlyniadau Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol. Amcanion y sesiwn hyfforddi. Mae eich rôl yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn ymddiried ym mhroses yr etholiad

gretel
Download Presentation

Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio Etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr

  2. Cyflwyniad Swyddog Canlyniadau Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol

  3. Amcanion y sesiwn hyfforddi • Mae eich rôl yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn ymddiried ym mhroses yr etholiad • Byddwn yn sôn am y pethau hyn yn y sesiwn hon: • esbonio'n fras beth y byddwn yn disgwyl ichi ei wneud ar y diwrnod pleidleisio • trafod y gweithdrefnau pleidleisio • meddwl am faterion iechyd a diogelwch • tynnu sylw at nifer o drefniadau gweinyddol

  4. Prif nodau ar gyfer yr etholiad • bod pawb sy'n pleidleisio'n cael profiad da, a bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio'n gallu gwneud hynny • bod yr etholiad yn cael ei gynnal mewn ffordd broffesiynol • bod y canlyniadau'n gywir a phawb yn teimlo y gallan nhw ymddiried yn y canlyniadau hynny • bod y broses yn dryloyw • bod yr etholiad yn cael ei weinyddu mewn ffordd gyson

  5. Pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol • Defnyddir system 'y cyntaf i'r felin' mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr. • Bydd pleidleiswyr yn cael bwrw un bleidlais, neu fwy nag un, a dibynnu ar faint o ymgeiswyr sydd i'w hethol i gynrychioli adran etholiadol/ward. • Dylai pleidleiswyr roi croes ('X') yn y blwch ar y dde i enw'r ymgeisydd/ymgeiswyr y maen nhw am bleidleisio drostynt

  6. Mae'n hollbwysig ichi... fod yn ddiduedd bob amser cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau sicrhau bod y bleidlais yn gyfrinachol ac yn ddiogel

  7. Y Swyddog Llywyddu - rheoli'r orsaf bleidleisio • Cysylltu â'r sawl sy'n cadw allwedd yr adeilad • Trefnu gosod yr orsaf bleidleisio • Rhoi cyfarwyddyd i Glercod yr Etholiad a goruchwylio'u gwaith • Cadw cyfrif o'r holl bapurau pleidleisio, y blychau pleidleisio a'r gwaith papur

  8. Clerc yr Etholiad -dyletswyddau cyffredinol • Cynorthwyo i osod pethau yn yr orsaf bleidleisio a pharatoi ar gyfer agor y cyfnod pleidleisio • Bod yn gwrtais ac yn broffesiynol wrth ymdrin â'r pleidleiswyr • Sicrhau bod etholwyr yn gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio honno • Deall y broses ar gyfer rhoi papurau pleidleisio i bobl

  9. Wrth i'r diwrnod pleidleisioagosáu • Tasgau hanfodol • Ymweld â'r man pleidleisio a sicrhau bod y trefniadau'n iawn ar gyfer cysylltu a sicrhau mynediad • Sicrhau bod y trefniadau'n iawn ar gyfer casglu'r blwch pleidleisio a gwirio'r cynnwys cyn gynted ag sy'n bosibl • Cysylltu ag aelodau eraill y tîm • Cod gwisg - sicrhau bod dillad yn cyfleu agwedd broffesiynol a diduedd ond eu bod hefyd yn gyfforddus ac yn gynnes

  10. Arolygwyr gorsafoedd pleidleisio • Pwynt cyswllt • Cyflenwi papurau ac offer • Yn gyfrifol am • Sicrhau bod y gorsafoedd wedi'u gosod yn iawn • Sicrhau bod pethau'n mynd yn hwylus • Bod yn ymwybodol o giwiau a helpu yn y cyswllt hwnnw • Casglu unrhyw bleidleisiau post a ddychwelwyd • Rhannu taliadau (os yw hynny'n briodol) • Rhifau cyswllt [ ........................ ]

  11. Risgiau • Methu cysylltu â cheidwad yr allwedd • Methu mynd i mewn i'r orsaf bleidleisio • Staff heb gyrraedd neu'n hwyr • Problemau o ran arddangos hysbysiadau • Cofrestri anghywir wedi'u rhoi i'r orsaf • Rhifau'r papurau pleidleisio ddim yn cyfateb â'r rheini sydd wedi'u rhagargraffu ar y Rhestr Rhifau Cyfatebol • Dilyn y drefn anghywir wrth gyflwyno papurau pleidleisio dan amgylchiadau arbennig • Ciwiau'n hel wrth i'r etholiad ddirwyn i ben

  12. Yr Orsaf Bleidleisio Gosod pethau a'u lleoli a phwy gaiff fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio

  13. Gosod pethau ynyr orsaf bleidleisio • Lleoli pethau /hysbysiadau (gweler y rhestr ar gyfer gosod pethau yn Atodiad 11 o'r Llawlyfr ar gyfer gorsafoedd pleidleisio) • rhaid i'r peth weithio i'r pleidleisiwr • dilynwch y llwybr y disgwylir i'r pleidleisiwr ei ddilyn • gwnewch yn siŵr bod pob hysbysiad yn ei le a bod pensiliau'n barod ac wedi'u minio • trefniadau priodol i sicrhau bod y lle'n hygyrch i bleidleiswyr • ystyried anghenion defnyddwyr cadair olwyn (e.e. drysau, lle i droi, pleidleisio'n gyfrinachol) • darparu seddi i etholwyr y gall fod angen iddynt orffwys • Paratoi'r papurau • trefnu'r papurau pleidleisio yn nhrefn eu rhifau • paratoi'r gofrestr a'r rhestr rhifau cyfatebol • cadw papurau pleidleisio sydd i'w cyflwyno mewn paced.

  14. Gosod pethau yn yr orsaf bleidleisio (parhad) • Asiantiaid pleidleisio, rhifwyr ac eraill • ystyriwch ymhle y caiff asiantiaid pleidleisio, rhifwyr, cefnogwyr/ymgyrchwyr eraill fod/ lle na chân nhw fod • Lleoliad y blwch/blychau pleidleisio • hwylus a diogel • Selio'r blwch/blychau • dangos bod y blwch yn wag • selio yn unol â'r cyfarwyddiadau ychydig cyn 7 • peidiwch â gadael i ymgeiswyr /asiantiaid ychwanegu sêl ar yr adeg hon

  15. Lleoli pethau yn yr orsaf bleidleisio

  16. Lleoli pethau yn yr orsaf bleidleisio

  17. Pwy gaiff fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio? • Pleidleiswyr • Y Swyddog Canlyniadau a'i staff • Ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad • Asiantiaid pleidleisio • Swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr heddlu sydd ar ddyletswydd • Cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol • Arsyllwyr achrededig • Pobl dan 18 oed sydd gyda phleidleiswyr • Cymdeithion pleidleiswyr anabledd

  18. Arsyllwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol

  19. Gofalu am gwsmeriaid • Dangoswch ddiddordeb personol • Byddwch yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar • Gwrandewch arnyn nhw a chydymdeimlo • Gadewch iddyn nhw wneud eu pwynt cyn ymateb • Peidiwch â dweud 'Na', dywedwch wrthyn nhw beth y gallwch ei wneud drostyn nhw a beth y gallan nhw ei wneud • Ond rhaid dilyn rheolau'r etholiad yn ddieithriad, ni waeth faint maen nhw'n mynnu, na pha mor anhapus neu ddig y byddan nhw • Os nad ydych chi'n siŵr, cysylltwch â'r swyddfa etholiadau

  20. Gofalu am gwsmeriaid (parhad) • Gwnewch yn siŵr bod y broses bleidleisio'n hygyrch i bawb: • rhaid i'r ffordd mae pethau wedi'u gosod fod yn hwylus i bob pleidleisiwr, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadair olwyn • dylai papurau a ddarperir mewn ieithoedd a fformatau eraill fod yn gwbl amlwg • rhaid ichi allu darparu gwybodaeth ar gyfer etholwyr anabl ynglŷn â'r opsiynau ar gyfer pleidleisio

  21. Templed cyffwrdd ar gyfer pleidleisio • Mae angen i'r templed cyffwrdd fod yn amlwg a dylech deimlo'n hyderus i'w ddefnyddio • Sut mae ei ddefnyddio - gwnewch yn siŵr bod y templed yn sownd yn y papur pleidleisio a bod y pleidleisiwr yn teimlo'n hyderus i'w ddefnyddio. Dylai'r pleidleisiwr: - godi'r ffenestr maen nhw'n ei dewis - marcio'u dewis - cau'r ffenestr - gwahanu'r templed oddi wrth y papur pleidleisio - plygu'r papur pleidleisio a'i roi yn y blwch pleidleisio - dychwelyd y templed i'r Swyddog Llywyddu

  22. Pwy gaiff a phwy na chaiff bleidleisio? Defnyddio'r gofrestr etholiadol a'r rhestr/rhestri rhifau cyfatebol

  23. Pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol? Etholwyr heb lythrennau na dyddiadau o flaen eu henw Etholwyr sy'n 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad - sef bod y dyddiad o flaen eu henw ar neu cyn y diwrnod pleidleisio Etholwyr â 'G' o flaen eu henw Etholwyr â 'K' o flaen eu henw Etholwyr ag 'L' o flaen eu henw Bydd gan etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw - 'N' yn lle enw

  24. Rhoi'r papurau pleidleisio i bobl • Marcio'r gofrestr a'r Rhestr Rhifau Cyfatebol • Gofynnwch i'r etholwr gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad • Marciwch rif etholwr yr etholwr yn y gofrestr • Galwch rif a rhif etholwr yr etholwr • Rhowch rif yr etholwr ar y Rhestr Rhifau Cyfatebol • PEIDIWCH ag ysgrifennu rhif yr etholwr ar y papur pleidleisio!

  25. Rhoi'r papurau pleidleisio i bobl (parhad) • Papurau pleidleisio • Agorwch y papur yn llawn fel bod y papur i gyd i'w weld • Marc swyddogol, rhif papur pleidleisio a Marc Dynodi Unigryw (UIM)

  26. Marcio'r gofrestr Queen’s Walk BC JP32 4LT 411 G Vella, Eva 1 412 F Jolly, Simon 1 413 K Vella, Christina 1 414 Brown, Robert 3 415 Evans, Gareth 5 416 Singh, Parvinder 7 417 Myers, Martin 7 418 A Bishop, Stephanie 15 418/1 02 Chwef Watts, Judith 15

  27. Enghraifft o'r Rhestr Rhifau Cyfatebol BC 27/1

  28. Eithriadau i'r rheol • Etholwyr dienw • Rhaid iddyn nhw ddangos cerdyn pleidleisio • Wedi'u marcio ag 'N' ar y gofrestr • Rhaid peidio â galw'u henw a'u cyfeiriad • Gwallau clercio ac etholwyr eraill • Ar daflen gofrestr ar wahân neu ar ddiwedd y gofrestr • Gwiriwch y rhain bob tro os na allwch chi ddod i hyd iddyn nhw ar y gofrestr. Fyddan nhw ddim yn nhrefn y strydoedd

  29. Enghraifft o gefn y papur pleidleisio Rhif Nod AdnabodUnigryw

  30. Marcio'r papur pleidleisio ar gyfer etholiad llywodraeth leol • Os byddan nhw'n gofyn ichi sut mae pleidleisio, dywedwch 'defnyddiwch groes' neu 'defnyddiwch 'X'.' • Os byddan nhw'n gwneud camgymeriad, dilynwch y weithdrefn ar gyfer difetha papur pleidleisio • Peidiwch â dechrau trafod y cyngor, yr etholiad na dim byd ac eithrio sut mae pleidleisio

  31. Beth os...? • bydd rhywun yn rhoi tystysgrif cyflogaeth ichi • bydd pleidleisiwr yn difetha papur pleidleisio • bydd pleidleisiwr wedi enwebu dirprwy ond bod y pleidleisiwr yn cyrraedd cyn y dirprwy • bydd rhywun yn cyrraedd i bleidleisio ond bod y gofrestr yn dangos bod y person hwnnw eisoes wedi pleidleisio • bydd rhywun yn cyrraedd i bleidleisio ond bod y gofrestr yn dangos bod y person hwnnw'n pleidleisio drwy'r post • bydd rhywun yn cyrraedd sy'n dymuno pleidleisio fel dirprwy brys • bydd rhywun yn credu y dylen nhw fod ar y gofrestr ond nad ydyn nhw wedi'u rhestru • bydd helynt yn codi yn yr orsaf bleidleisio

  32. Y cwestiynau penodedig • Rhaid gofyn y cwestiynau penodedig: • os bydd ymgeisydd, asiant etholiad neu asiant pleidleisio'n gofyn amdanyn nhw • cyn cyflwyno papur pleidleisio dan amgylchiadau arbennig • Dylid gofyn y cwestiynau penodedig: • os byddwch chi'n amau bod rhywun yn esgus bod yn rhywun arall • os bydd etholwr cofrestredig yn amlwg o dan oed • pan fydd etholwr yn dweud bod eu henw'n wahanol i'r hyn sydd ar y gofrestr etholwyr • Ni chaniateir holi na chwestiynu etholwyr mewn unrhyw fodd arall

  33. Pleidleisiau Post • caiff pleidleiswyr gyflwyno'u pleidleisiau post mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn y ward • rhaid storio, selio a labelu pecynnau pleidleisiau post yn unol â'r cyfarwyddiadau • cesglir pleidleisiau post yn ystod y dydd, a dychwelyd y gweddill gyda'r blwch pleidleisio pan ddaw'r cyfnod pleidleisio i ben

  34. Pleidleisiau Post • Ni ellir rhoi papur pleidleisio cyffredin yn yr orsaf bleidleisio i bobl sydd wedi'u marcio ag 'A': • cyfeiriwch nhw at y Swyddog Canlyniadau i gael papur arall (cyn 5pm) • y weithdrefn ar gyfer cyflwyno papurau pleidleisio dan amgylchiadau arbennig ar ôl 5pm • eithriad: lle bydd etholwr yn honni nad yw erioed wedi gwneud cais am bleidlais bost. Os felly, bydd yn gymwys i gael papur pleidleisio wedi'i gyflwyno unrhyw bryd. Serch hynny, dylid annog yr etholwyr hyn i wneud cais am bapur arall yn y swyddfa etholiadau os nad yw'n 5pm eto

  35. Cau'r Bleidlais Y gweithdrefnau i’w dilyn

  36. Rheoli ciw Ar unrhyw adeg yn ystod y dydd – ffoniwch y swyddfa etholiadol Ychydig cyn 10pm gwnewch yn siŵr bod y rheiny sy’n aros yn gallu bwrw’u pleidlaius gwiriwch bod unrhyw un sy’n aros i bleidleisio yn yr orsaf gywir ar gyfer eu cyfeiriad

  37. Rheoli ciw (2) Am 10pm dewch â’r holl etholwyr sy’n aros i mewn i’r ystafell/adeilad a chaewch y drws, NEU os nad yw’r ystafell/adeilad yn ddigon mawr, gofynnwch i aelod o’r tîm aros ar ddiwedd y ciw i’w nodi parhewch i roi papurau pleidleisio hyd nes bod pawb oedd yn y ciw erbyn 10pm wedi pleidleisio NI DDYLID rhoi papur pleidleisio i unrhyw un nad oedd yn y ciw am 10pm.

  38. Cau’r bleidlais Unwaith i’r pleidleisiwr olaf bleidleisio, seliwch y blwch pleidleisio Mae gan ymgeiswyr asiantiaid hefyd hawl i roi sêl ar y blwch pleidleisio ar yr adeg hon.

  39. Ar ôl i'r bleidlais gau Hollol hanfodol bod y cyfrif papurau pleidleisio yn cael ei gwblhau'n gywir Rhaid gosod y cyfrif papurau pleidleisio yn yr amlen a ddarperir - cadwch y rhain gyda'r blwch/blychau pleidleisio Gwnewch yn siŵr fod y dogfennau i gyd yn cael eu rhoi yn y pecynnau iawn ac yn cael eu llofnodi fel sy'n briodol Clercod pleidleisio i helpu i bacio pethau yn yr orsaf er mwyn i'r swyddog llywyddu allu gwneud y tasgau pwysig hyn

  40. Iechyd a diogelwch • peidiwch byth a pheryglu diogelwch rhywun yn yr orsaf bleidleisio • byddwch yn ymwybodol o unrhyw risgiau posibl o ran diogelwch • archwiliwch y lle'n rheolaidd • os gwelwch chi fod peryglon yno - ceisiwch ddatrys y broblem • os bydd damwain - dilynwch y weithdrefn • byddwch yn ofalus wrth godi pethau trwm

  41. Unrhyw gwestiynau

  42. Gwybodaeth ychwanegol • Manylion cysylltu’r tîm etholiadol • Gwefan y Comisiwn Etholiadol • www.comisiwnetholiadol.org.uk • www.fymhleidlaisi.co.uk • Taflenni Adborth

More Related