80 likes | 318 Views
Dyma ni!. Pwy sy yn yr ystafell wely?. Fy enw i ydy Delyth. Mae Delyth yn ddeg oed. Mae gwallt melyn ‘da hi. Mae hi’n gwisgo crys T gwyn a siorts glas. Mae hi’n hoffi canu’r ffidil. Mae brawd ‘da hi. Dydy hi ddim yn hoffi ei brawd. Mae e’n boen!. Pwy sy yn yr ystafell fwyta?.
E N D
Pwy sy yn yr ystafell wely? Fy enw i ydy Delyth. Mae Delyth yn ddeg oed. Mae gwallt melyn ‘da hi. Mae hi’n gwisgo crys T gwyn a siorts glas. Mae hi’n hoffi canu’r ffidil. Mae brawd ‘da hi. Dydy hi ddim yn hoffi ei brawd. Mae e’n boen!
Pwy sy yn yr ystafell fwyta? Ben ydw i. Mae Ben yn chwech oed. Mae e’n frawd bach i Delyth.. Mae Ben yn gwisgo het fawr. Mae e’n gwisgo gwasgod frown, trowsus brown, menig brown, crys gwyn a thei goch. Mae e hefyd yn gwisgo bwts brown. Mae Ben yn dwlu ar gowbois. Mae e eisiau bod yn gowboi gyda ceffyl mawr.
Pwy sy yn yr ystafell ymolchi? Dad ydw i. Mae gwallt brown ‘da Dad. Dydy e ddim yn gwisgo dillad achos mae e’n ymolchi. Mae Dad yn hoffi darllen. Mae e’n hoffi darllen y papur yn y bore. Mae e eisiau tawelwch i ddarllen ond mae’r plant yn swnllyd.
Rydw i eisiau tawelwch hefyd! Pwy sy yn y lolfa? Mam ydw i. Mae gwallt cyrliog ‘da Mam Mae Mam yn mynd i’r pwll nofio y bore ‘ma. Mae hi’n mynd yna bob bore Sul.
Pwy sy yn y gegin? Mogi ydw i. Mae cath ‘da Delyth a Ben. Mae Mogi yn hoffi cysgu. Mae hi’n cysgu ar y llawr. Mae hi’n cysgu o dan y gadair, o flaen y tân, yn y fasged... mae hi’n hoffi cysgu. Mae hi’n hoffi pysgod. Mae’r pysgod yn ddiddorol. Mae’r pysgod yn flasus. Blasus iawn!
Pwy sy yn yr ardd? Nelson ydw i. Ci mawr blewog ydy Nelson. Mae Nelson yn hoffi Delyth a Ben. Dydy e ddim yn hoffi Mogi Mae e’n casau Mam yn brwsio ei wallt. Mae e’n gallu rhedeg yn gyflym. Mae e’n hoffi amser cinio.
Pwy sy yn y ty chi?