330 likes | 779 Views
Brecwast Cytbwys Campus. I Mewn. Gweithgor Torfaen. Rydym yn Dysgu:-. Deall bod brecwast yn bryd pwysig . Adnabod y gwahanol grwpiau o fwyd a pha gynhyrchion sy'n perthyn i'r grwpiau hynny. Deall sut mae grwpiau bwyd yn ffurfio deiet cytbwys.
E N D
Brecwast Cytbwys Campus I Mewn Gweithgor Torfaen
Rydym yn Dysgu:- • Deall bod brecwast yn bryd pwysig. • Adnabod y gwahanol grwpiau o fwyd a pha gynhyrchion sy'n perthyn i'r grwpiau hynny. • Deall sut mae grwpiau bwyd yn ffurfio deiet cytbwys. • Deall y dylai bwydydd brecwast ddod o amrywiaeth o grwpiau bwyd er mwyn sicrhau bod y brecwast yn gytbwys. • Deall rheolau diogelwch a hylendid wrth weithio gyda bwyd. • Cynllunio a pharatoi brecwast cytbwys. Diwedd
ALLWEDD Yn ôl i’r dudalen hafan. Mae’n eich tywys i ddiwedd y sioe. Diwedd Symud yn ôl. Symud ymlaen. Nodiadau a gweithgareddau athrawon. Diwedd
Defnyddiwch bin ysgrifennu bwrdd gwyn rhyngweithiol i esbonio beth yw brecwast a pham mae’n bwysig yn eich barn chi. Beth yw brecwast a pham mae ei angen arnom ni? Diwedd
Nodiadau i Athrawon • Y disgyblion i lunio map meddwl ynghylch beth maent yn meddwl yw ystyr y gair brecwast a pham mae brecwast yn bryd pwysig. • Trafodwch y ffaith fod gan rai ysgolion glwb brecwast. Y disgyblion i drafod a ydynt yn meddwl bod hyn yn syniad da neu beidio gan roi rhesymau. Diwedd
BETH YW BRECWAST? Brecwast yw pryd cyntaf y dydd, a fwyteir fel rheol yn y bore. Daw'r enw o'r cysyniad nad ydych wedi bwyta tra roeddech yn cysgu, felly rydych yn ymprydio yn ystod y cyfnod hwnnw, ac rydych yn torri'r ymprydio gyda'r pryd o fwyd (‘break your fast’). Diwedd
PAM MAE ANGEN BRECWAST ARNOM NI? Mae brecwast yn cael effaith hudol ar ein cyrff, mae'n rhoi tanwydd ac egni i'n cyrff er mwyn dechrau'r diwrnod. Diwedd
BETH YDYCH YN EI FWYTA I FRECWAST? Defnyddiwch gyda phin bwrdd gwyn. Diwedd
NODIADAU I ATHRAWON • Dylai'r disgyblion gofnodi beth gawsant i frecwast ac ymchwilio i ba grwpiau bwyd maent yn perthyn ac a yw'n gytbwys. • Trafodwch a yw'r disgyblion yn meddwl bod y cynhyrchion brecwast yn iach neu beidio. Diwedd
Grwpiau Bwyd Pa fwydydd sy’n garbohydradau? Cliciwch arnyn nhw i gael gwybod Carbohydradau Diwedd
Carbohydradau Mae carbohydradau yn rhoi egni i chi. Fe'u cewch mewn bwydydd siwgraidd a startsh megis tatws, reis, pasta,grawnfwydydd, bara a rhai ffrwythau a llysiau. Diwedd
Cywir! Mae’n garbohydrad. Diwedd
Anghywir! Nid yw’n garbohydrad. Diwedd
Grwpiau Bwyd Pa fwydydd sy’n broteinau? Cliciwch arnyn nhw i gael gwybod Proteinau Diwedd
Cywir! Mae’n brotein. Diwedd
Anghywir! Nid yw’n brotein. Diwedd
PROTEINAU Mae proteinau yn helpu eich corff i dyfu a'i adfer ei hunan. Fe'u cewch mewn cigoedd, dofednod, pysgod, wyau, cynhyrchion llaeth a ffa. Diwedd
GRWPIAU BWYD Pa fwydydd sy’n frasterau? Cliciwch arnyn nhw i gael gwybod. Brasterau Diwedd
BRASTERAU Mae brasterau yn rhoi egni ac maent yn helpu i gryfhau eich corff. Fe'u cewch mewn cynhyrchion llaeth, cigoedd coch, rhai dofednod a physgod. Diwedd
Cywir! Mae’n fraster. Diwedd
Anghywir! Nid yw’n fraster. Diwedd
GRWPIAU BWYD ERAILL Mae’n eich helpu i dreulio eich bwyd. Fe gewch ffibr mewn llawer o fwydydd megis grawnfwydydd, bara, ffrwythau a llysiau. Ffibr Mwynau Mae haearn yn dda i’r gwaed. Mae calsiwm yn dda i’ch esgyrn. Ceir mwynau mewn llawer o fwydydd, ond yn enwedig mewn ffrwythau a llysiau ffres. Fitaminau Mae fitaminau'n dda er mwyn cadw eich corff yn iach. Maent yn dda i’ch croen, esgyrn a dannedd. Fe'u ceir yn bennaf mewn cynhyrchion llaeth (llaeth, wyau a menyn), ffrwythau a llysiau ffres. Diwedd
BETH YW DEIET CYTBWYS? Beth yw deiet cytbwys? Diwedd
Deiet Cytbwys Mae'n rhaid i chi gael carbohydrad, protein, braster, fitaminau, mwynau a ffibr yn y meintiau cywir. Os nad oes digon o brotein, ni fyddwch yn gallu tyfu'n iawn ac ni fyddwch yn gallu eich adfer eich hunan h.y. ni fydd clwyfau'n gwella'n iawn. Os nad ydych yn cael digon o fwydydd sy'n cynnwys egni, byddwch yn teimlo'n flinedig iawn oherwydd ni fydd gennych ddigon o egni. Os oes gennych ormod o fwydydd sy'n cynnwys egni, byddwch yn mynd dros bwysau. Diwedd
YDY HWN YN DDEIET CYTBWYS? Diwedd
Llusgwch eitemau o’r cynhyrchion brecwast at y plât i ddangos eich cynllun brecwast dewisol. Diwedd
RHEOLAU HYLENDID COFIWCH!! • Golchwch eich dwylo bob amser cyn gweithio gyda bwyd. • Sychwch arwynebau’n lân bob amser cyn paratoi bwyd. • Cadwch gigoedd amrwd a rhai wedi coginio ar wahân. Allwch chi feddwl am ragor? Diwedd
RHEOLAU DIOGELWCH • Dylai oedolyn eich goruchwylio os byddwch yn ddefnyddio cyllell • Pan fyddwch yn defnyddio offer twym, sicrhewch bod oedolyn yn bresennol. A allwch chi feddwl am ragor? Diwedd
Brecwast Cytbwys Campus Unwaith y byddwch wedi paratoi ac wedi bwyta eich brecwast campus, byddwch yn llawn egni ac yn barod i fynd i'r afael â'r diwrnod!!! Gweithgareddau Athrawon Diwedd
NODIADAU I ATHRAWON Gweithgareddau • Ysgrifennwch lythyr ffurfiol i uwchfarchnadoedd lleol yn gofyn am gael ymweld â nhw er mwyn edrych ar ystod o gynhyrchion brecwast a blasu rhai cynhyrchion. • Y disgyblion yn blasu ystod o gynhyrchion brecwastac yn rhoi eu sylwadau ar eu blas a chofnodi i ba grwpiau bwyd maent yn perthyn. • Cofnodwch wybodaeth maethol ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchion brecwast. • Cynhelwch arolwg ysgol i ddarganfod pa gynhyrchion brecwast sydd fwyaf poblogaidd yn yr ysgol. Dadansoddwch y canlyniadau ac arddangoswch nhw fel graffiau. Diwedd
NODIADAU I ATHRAWON Mwy of Weithgareddau. • Ymarfer defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel ac yn hylan • Ymarfer torri a mesur gan ddefnyddio offer addas. • Mini fenter clwb brecwast – prisio cynhyrchion brecwast a’u gwerthu i wneud elw. • Creu bwydlenni ar gyfer brecwastau. • Ysgrifennu set o gyfarwyddiadau ar gyfer gwneud brecwastau. • Dylunio posteri i hysbysebu clwb brecwast yn yr ysgol. Diwedd