260 likes | 476 Views
Mathau o gig a darnau o gig. Testun y Modiwl. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn prynu cig wedi’i dorri’n barod – yn ddarnau neu’n friwgig (mince). Gallwch brynu cig wedi’i baratoi’n barod hefyd e.e. selsig, ham, byrgers, cebabs.
E N D
Testun y Modiwl Mae’r rhan fwyaf o bobl yn prynu cig wedi’i dorri’n barod – yn ddarnau neu’n friwgig (mince). Gallwch brynu cig wedi’i baratoi’n barod hefyd e.e. selsig, ham, byrgers, cebabs. Mae gwybod o ble mae’r cig yn dod yn eich helpu wrth i chi ei baratoi, ei goginio a’i weini. Mae’r modiwl hwn yn sôn am y gwahanol ffyrdd o fwyta cig eidion, porc a chig oen. Rwmp Llygad yr asen Ffiled
Cyflwyniad Mae cigyddion mewn siopau neu archfarchnadoedd yn paratoi cig i fodloni gwahanol anghenion eu cwsmeriaid. Mae llawer o wahanol ddarnau o gig ar gael, sy’n rhoi dewis da i’r prynwr. Caiff cig carcas ei baratoi trwy ei dorri’n ddarnau neu ei wneud yn friwgig fel y bydd yn: • gyfleus i brynu ychydig ar y tro; • gyfleus i’w brynu wedi’i dorri’n ddarnau e.e. golwython, stêcs; • haws i’w baratoi ac yn coginio’n gyflymach; • haws i’w storio’n ddiogel.
Cig heddiw Mae pobl heddiw’n chwilio am gig: • y gellir ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd; • sy’n hwylus i’w baratoi; • sy’n hawdd ei storio; • sy’n hawdd ei goginio; • nad yw’n cynnwys llawer o fraster. Syrlwyn
Cig heddiw • Darnau heb asgwrn (cig eidion, porc a chig oen) – cynnig gwerth am arian a gellir eu coginio’n hawdd ac yn sydyn e.e. grilio. • Darnau o gig wedi tynnu’r asgwrn a’u rolio – darnau llai fel eu bod yn coginio’n gynt ac yn haws eu torri. • Darnau heb lawer o fraster – mae’r braster wedi cael ei drimio oddi ar y rhain.
Cig heddiw • Ciwbiau o gig – cig wedi’i dorri’n giwbiau, yn barod i wneud cawl/lobsgows, cebabs a chaserols. • Briwgig heb lawer o fraster – y braster wedi’i drimio oddi ar y cig cyn ei finsio. • Stribedi main – mae’r cig yn cael ei dorri’n stribedi main yn addas ar gyfer dulliau coginio sydyn e.e. tro-ffrïo.
Adnabod darnau o gig Mae carcas o gig eidion, porc neu gig oen yn cael ei rannu’n wahanol ddarnau – gall y rhain amrywio yn ôl pwysau ac ansawdd y carcas. Felly, mae gwahanol ddarnau o gig yn amrywio yn ôl yr ynni a roddant, y maetholion sydd ynddynt, eu cyfansoddiad, eu pwysau a’r braster sydd ynddynt. Er bod amrywiadau fel hyn, mae’r darnau o gig sy’n cael ei gwerthu yn amrywio yn ôl adeiledd a chyfansoddiad y carcas e.e. lle mae’r esgyrn a’r cyhyrau.
Adnabod darnau o gig Yn gyffredinol: • yn hanner blaen (chwarthor blaen) y carcas, mae mwy o gyhyrau (am bob darn o gig) sydd wedi gweithio’n galetach ac yn cynnwys mwy o feinwe cysylltiol, ac felly’n rhoi cig llai tyner; Mae darnau o gig o gyhyrau’r gwddf a’r ysgwyddau, yn neilltuol, yn cynnwys ffibrau hir trwchus a llawer o feinwe cysylltiol.
Adnabod darnau o gig Yn gyffredinol: • mae hanner ôl carcas (y chwarthor ôl) yn cynnwys llai o gyhyrau (am bob darn o gig), maent wedi gwneud llai o waith ac maent yn cynnwys llai o feinwe cysylltiol, ac felly dyma lle y ceir y darnau cig mwyaf tyner. Darnau cig o gyhyrau’r lwyn a’r rwmp (y pen ôl) sydd wedi gwneud lleiaf o waith ac mae ffibrau’r cyhyrau’n fyrrach ac yn feinach. Mae yno lai o feinwe cysylltiol a dyma’r darnau tyner gorau.
Darnau o gig eidion Asen Flaen Stêc Balfais Stribedi Tro-ffrio Stêcs Ffiled Stêc o Ochr Orau’r Forddwyd Stêcs Llygad yr Asen Byrgyrs Darn o Ochr Orau’r Forddwyd Briwgig Brisged wedi Rholio Ciwbiau o Stecen Balfais Cylchoedd o’r Goes Las Stêcs Ffolen Darn o’r Ystlys Las Stêcs Sylwyn Chwiliwch am y darnau cig sy’n addas i gael eu coginio’n araf.
Darnau cig oen Stêcs Ffolant Rhagiau Golwython Lwyn Stêcs Coes heb Asgwrn Ciwbiau Ffolen heb Asgwrn Cytledau Cnepynnau Siancen Ffiledau’r Gwddf Briwgig Stêc Ffolen Cebabau Hanner Coes Stêc Ysgwydd Ysgwydd wedi Rholio Stribedi Tro-ffrio Pa ddarnau fyddai’n cynnwys fwyaf o feinwe cysylltiol?
Darnau porc Stêcs Lwyn Rhag Rhost Darn o’r Ysgwydd wedi’i Rolio Stêcs Ffolant Stêcs Ffolen Golwython ar yr Asgwrn Golwython yr Asen Canol Lwyn Stêcs Gwddf Osso Bucco Stribedi Bola Stêcs Coes Asennau Bras Coes heb Asgwrn Coesgyn Stibedi Tro-ffrio Ciwbiau Pa ddarnau sy’n debygol o fod fwyaf tyner?
Dewis ac amrywiaeth Er mwyn ychwanegu dewis ac amrywiaeth, gellir halltu porc a’i drin â mwg. Cig moch/bacwn Caiff bacwn ei wneud trwy halltu porc â halen neu mewn dŵr hallt. Ar ôl aeddfedu, mae’n cael ei werthu fel cig moch di-fwg. Gellir trin y cig moch â mwg. Mae hyn yn tywyllu’r cig ac yn rhoi blas arbennig iddo. Gamon Coes gyfan mochyn wedi’i halltu yw gamon. Yn aml, caiff ei dorri’n dafelli sy’n hawdd eu coginio. Caiff y rhain eu bwyta’n boeth fel stêcs gamon. Mae hefyd yn cael ei werthu wedi’i goginio ac yn cael ei fwyta’n oer fel ham. Weithiau, gellir halltu ham a’i goginio mewn ffordd arbennig i roi blas neilltuol iddo – fel ‘ham mêl-rost’.
Dewis ac amrywiaeth I fod yn fanwl gywir, nid yw offal yn ddarn o gig. Offal yw’r gair a ddefnyddir i ddisgrifio’r darnau o wartheg, moch a defaid sy’n cael eu torri oddi ar y carcas (off-falls) pan fydd y cig yn cael ei baratoi i’w werthu. Mathau o offal • y tu mewn i’r carcas – mae’r rhain yn cynnwys afu/iau, ’arennau, y galon, y dafod, cefndedyn/golwyth melys/sweetbread a treip. Mae gwaed yn fath o offal hefyd ac fe’i defnyddir i wneud pwdin gwaed. • rhannau allanol y carcas – e.e. traed moch, cern eidion a chynffon ych.
Cig a choginio Bydd y ffordd o goginio darn neilltuol o gig yn dibynnu ar: • y math o ffibrau sydd yn y cyhyrau; • faint o feinwe cysylltiol sydd ynddo. Bydd darnau o gig sy’n dod o gyhyrau sy’n gweithio’n galed yn cymryd mwy o amser i goginio yn araf e.e. cawl/lobsgows, caserol. Bydd darnau o gig sy’n dod o gyhyrau nad ydynt yn gweithio mor galed pan fydd yr anifail yn fyw yn gallu cael eu coginio’n gyflymach o lawer e.e. grilio, tro-ffrïo. Mae angen amser hir ar offal fel calon neu gynffon ych i goginio yn araf e.e. brwysio neu eu rhoi mewn caserol. Does dim angen llawer o amser coginio ar afu/iau neu ’arennau (kidneys). Gellir coginio afu a’i finsio i wneud pâté.
Technegau coginio Barbeciwio Coginio bwyd (yn yr awyr agored fel rheol) at drybed (trivet) neu gril, dros dân coed neu gols neu fflam mwy. Ffrïo Bas: coginio bwyd mewn ychydig iawn o saim mewn padell ffrïo fas. Tro-ffrïo: coginio bwyd yn gyflym, gydag ychydig o fraster neu hebddo, dros wres uchel. Dwfn: coginio bwyd mewn llawer o saim wedi’i gynhesu ymlaen llaw. Grilio Coginio neu frownio bwyd yn gyflym o dan wres mawr elfen drydan neu fflam nwy. Dim ond ar gyfer darnau tyner o gig, dim mwy na 5cm o drwch, y mae hyn yn addas.
Technegau coginio Rhostio Coginio bwyd ar dymheredd uchel, sych, mewn ffwrn/popty. Mae’r gwres sych yn carameleiddio wyneb y cig. Caserolio/Brwysio/Stiwio Cognio darnau mwy gwydn o gig yn araf, mewn digon o hylif, gyda’r caead yn dynn arno. Mae cig wedi’i frwysio yn eistedd ar wely trwchus o lysiau gyda stoc cryf. Fel rheol mae’r cig wedi’i dorri’n sgwariau neu’n stêcs. Pot-rostio Coginio darn o gig, sydd wedi’i frownio eisoes, ar ben llysiau, gydag ychydig iawn o hylif, mewn potyn â’r caead yn dynn arno.
Technegau coginio: Cig eidion Barbeciwio Ffrïo Grilio Byrgyrs sbeis Asia Pitsa eidion a parmesan Cobiau cyri Stêcsyrlwyn Stêcrwmpeidion – ynstribedi Briwgig eidion
Technegau coginio: Cig eidion Caserolio/brwysio/ stiwio Rhostio Pot-rostio Eidion rhost gyda mwstard caws ac ham parma Gwlash eidion Pot rhost siarp Coes las Darn brisgcd Darn ochr orau’r Forddwy
Technegau coginio: cig oen Barbeciwio Ffrïo Grilio Gwddf wedi grilio gyda Gorbwmpen Ffŷn cig oen gyda phaprica Cig oen teriyaki Briwgig oen Stribedi cig oen Darnau gwddf oen
Technegau coginio: cig oen Caserolio/brwysio/ stiwio Rhostio Pot-rostio Cytledi cig oen gyda relish yr hydref Ysgwydd wedii rostio mewn potyn Sianc blas Tai Cytledi cig oen Siancen oen Darn or ysgwndd diasgrrn ac wedii’ rowlio
Technegau coginio: Porc Barbeciwio Ffrïo Grilio Salad bacwn pys a pherlysiau Ffŷn porc a ffrwythau Risoto porc Stribedi canol lwyn Stêcs lwyn Bacwn
Technegau coginio: Porc Caserolio/brwysio/ stiwio Rhostio Pot-rostio Golwythion gyda ffa a chorizo Bola wedi’i goginio gyda seidr a sbeis Porc y caribi Ysgwydd porc wedi’i giwbio Colwythion porc Bola porc
Crynodeb • Mae cig ar gael i’w brynu wedi’i dorri’n ddarnau bach neu fawr neu fel mins. Mae rhai cigoedd yn cael eu paratoi ymlaen llaw hefyd e.e. selsig, ham, byrgers. • Mae’r mathau hyn o gig yn ei gwneud yn hawdd i’r defnyddiwr – maent yn rhoi dewis ac maent yn hwylus i’w paratoi, yn hawdd eu storio ac yn syml i’w coginio. • Ma gan wahanol ddarnau o gig wahanol nodweddion e.e. ynni a maetholion, cyfansoddiad, pwysau, maint ac ymddangosiad. • Mae angen coginio gwahanol ddarnau mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu o ble yn yr anifail y maent wedi dod e.e. yn araf (caserol), yn gyflymach (tro-ffrïo). • Er mwyn rhoi mwy o ddewis ac amrywiaeth, mae porc yn cael ei halltu. Mae modd bwyta offal mewn nifer o brydau poblogaidd hefyd e.e. iau a chig moch.
Os hoffech ragor o wybodaeth a chymorth, ewch i: www.meatandeducation.com www.hccmpw.org.uk www.eatwelshlamb.org.uk