50 likes | 201 Views
Mathau o weithredu diwydiannol. Gweithredu Diwydiannol. Gweithredu diwydiannol yw unrhyw weithred, fel streic neu weithio i reol, a wneir gan weithwyr mewn diwydiant i brotestio yn erbyn cyflogwr sy'n ceisio newid amodau gwaith.
E N D
Gweithredu Diwydiannol • Gweithredu diwydiannol yw unrhyw weithred, fel streic neu weithio i reol, a wneir gan weithwyr mewn diwydiant i brotestio yn erbyn cyflogwr sy'n ceisio newid amodau gwaith. • Gweithredir yn ddiwydiannol er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau cyflogwr am gyflog, oriau gwaith, colli gwaith ac ati.
Gwaharddiad ar oramser • Mae'r gweithwyrddim ond yn gweithio oriau sylfaenol, ac yn gwrthod gwneud unrhyw waith ychwanegol. • Mae hon yn dacteg ddefnyddiol os oes llawer o waith ar fynd gan y cyflogwr ac mae'n ceisio bodloni lefelau uchel o alw.
Gweithio i reol – mynd yn araf • Gyda gweithio i reol mae'r gweithwyr yn cadw'n llwyr at bob rheol yn y gweithle, yn enwedig rheolau iechyd a diogelwch. • Mae hyn yn arafu'r cynhyrchiant, gan leihau cynhyrchedd ac allbwn.
Streiciau • Mae streiciau yn golygu tynnu llafur yn nôl. • Gelwir am streic pawb allan ddim ond pan ddaw hi i’r pen pan fod trafodaethau wedi methu. • Mae gan y ddwy ochr llawer i'w golli - mae'r gweithwyr yn colli incwm wrth streicio, mae'r cyflogwyr yn colli elw ac yn ennill cwsmeriaid anhapus.