60 likes | 193 Views
Mathau o Gyflogaeth. Gwaith Llawn Amser. Fel rheol mae gweithiwr llawn amser yn gweithio pum diwrnod yr wythnos. Yn aml mae’r swydd yn barhaol.
E N D
Gwaith Llawn Amser • Fel rheol mae gweithiwr llawn amser yn gweithio pum diwrnod yr wythnos. • Yn aml mae’r swydd yn barhaol. • Mae nifer yr oriau a weithir gan y gweithiwr llawn amser cyfartalog wedi gostwng o tua 42 awr yr wythnos 30 mlynedd yn ôl i 37 awr yr wythnos nawr – gan roi mwy o amser hamdden. • Mae'r llywodraeth yn ystyried unrhyw un sy'n gweithio mwy na35 awr yr wythnos yn llawn amser.
Gwaith Rhan-Amser • Yn syml, mae gweithio rhan-amser yn golygu gweithio llai o oriau na llawn amser, efallai dim ond ychydig o oriau yr wythnos, efallai 20 awr neu fwy. • Os yw pethau'n dawel yn y busnes, yn aml mae oriau gweithwyr rhan-amser yn cael eu torri, ond ar y llaw arall, yn ystod cyfnodau prysur mae'r oriau gwaith yn cynyddu. • Mae llawer o weithwyr yn fodlon ar weithio'n rhan-amser gan y gall yr oriau gydweddu â galwadau teuluol e.e. gweithio yn ystod oriau ysgol yn unig. • Mae llawer o weithwyr rhan-amser yn chwilio am swyddi llawn amser
Rhannu Swydd • Mae rhannu swydd yn golygu bod dau berson yn rhannu'r un swydd, efallai ar sail hanner a hanner. • Yn aml mae rhannu swydd yn caniatáu i weithwyr proffesiynol barhau i weithio, pan fyddai'n rhaid iddynt gymryd toriad gyrfa fel arall. • Mae'r enghraifft orau o hyn yn digwydd gyda mamau newydd, a all gyfuno gwaith a magu baban drwy rannu swydd. • Gall rhannu swydd bara am nifer o flynyddoedd.
Gwaith Dros Dro • Cyflogir gweithwyr dros dro am gyfnod penodol, er enghraifft 6 mis i gwmpasu absenoldeb mamolaeth. • Gellir estyn y cyfnod hwn, ac o bosib ei wneud yn barhaol. • Trefnir peth gwaith dros dro drwy Asiantaethau Cyflogi. Mae asiantaethau cyflogi yn darparu gweithwyr i gyflogwyr, ac yn aml mae gan y gweithwyr hyn sgiliau penodol, fel gweithwyr ysgrifenyddol, gyrwyr, labrwyr ac ati.
Mathau eraill o gyflogaeth • Gwaith Contract • Gwaith Tymhorol • Gwaith Portffolio • Gwaith Gwirfoddol