60 likes | 216 Views
Ni fydd byth yn dweud y cyfan a guddia yn ei rychau. Ni fydd byth yn datgelu’r holl frwydrau a’r ymdrechion a gynrychiola, ar y dadrithiad a’r sarhad ar urddas Mae wedi’i lwytho â holl bwysau llafur dynol sy’n gwneud ei werth. Cynigiodd rosod gwynion i’r dyweddi ddisglair.
E N D
Ni fydd byth yn dweud y cyfan a guddia yn ei rychau. Ni fydd byth yn datgelu’r holl frwydrau a’r ymdrechion a gynrychiola, ar y dadrithiad a’r sarhad ar urddas Mae wedi’i lwytho â holl bwysau llafur dynol sy’n gwneud ei werth. Cynigiodd rosod gwynion i’r dyweddi ddisglair. Mae wedi talu am y parti bedydd, ac wedi bwydo’r baban sy’n tyfu. Mae wedi rhoi bara menyn ar fwrdd y teulu. O’r herwydd roedd yna chwerthin ymhlith yr ifanc, a llawenydd ymhlith yr oedolion. Mae wedi talu am ymweliad achub y meddyg. Mae wedi prynu’r llyfr a addysgodd yr un ifanc. Mae wedi rhoi dillad am y ferch ifanc.
Ond mae wedi anfon y llythyr yn torri’r dyweddïad. Mae wedi talu am farwolaeth plentyn yng nghroth ei fam. Mae wedi talu am y gwirod a greodd y meddwyn. Mae wedi cynhyrchu’r ffilm anaddas i blant. Ac wedi recordio’r gân anweddus. Mae wedi torri moesau’r person ifanc ac wedi gwneud lleidr o’r oedolyn. Mae wedi prynu corff dynes am rai oriau. Mae wedi talu am arfau’r drosedd ac ar gyfer pren yr arch. Mae gan y nodyn hwn ddirgelion llawen a dirgelion trist. Symbol ydyw o holl lafur dynion, a fydd yn cael ei newid i fywyd tragwyddol fory.