140 likes | 1.06k Views
Beth ydych yn ei wybod am Iesu Grist?. Roedd Iesu Grist yn berson real oedd yn byw tua 2000 o flynyddoedd yn ol. . Roedd Iesu Grist yn byw mewn lle o’r enw Israel heddiw. Mae Mwslemiaid yn adnabod Iesu Grist, neu Isa, fel mae’n cael ei alw yn y Qu’ran, fel proffwyd neu athro.
E N D
Roedd Iesu Grist yn berson real oedd yn byw tua 2000 o flynyddoedd yn ol.
Mae Mwslemiaid yn adnabod Iesu Grist, neu Isa, fel mae’n cael ei alw yn y Qu’ran, fel proffwyd neu athro.
Mae’r calendar Cristnogol yn dechrau gyda genedigaeth Iesu Grist.
Mae’r blynyddoedd cyn geni Iesu Grist yn cael ei adnabod fel ‘CC’, sydd yn golygu Cyn Crist.
Mae’r blynyddoedd ar ol geni Iesu Grist yn cael ei adnabod fel OC, sydd yn golygu Ol Crist. Yn yr iaith Lladin, golyga ‘i’r Arglwydd’.
Does neb yn gwybod beth oedd Iesu Grist yn edrych fel.Does dim lluniau ohono yn ystod ei oes nag hyd yn oed am 150 o flynyddoedd wedyn.
Yn ystod yr amser Cristnogol cyntaf, doedd neb yn cael gwneud llun o Iesu Grist,gan fod pobl yn credu bod hyn yr un peth a gwneud llun o Dduw ei hun. Weithiau byddai pobl yn defnyddio symbol o oen i gynrychioli Iesu Grist yn lle.
Yna, dywedodd pobl oedd yn ben ar yr Eglwys ddweud y dylai Iesu Grist gael ei ddangos fel dyn, nid fel symbol.Roedd hyn i fod o gymorth i bobl ddeall gogoniant Duw ac i deimlo fod Iesu wedi dioddef, fel byddai unrhyw berson.
Mae artistiaid gyda gwahanol syniadau am sut roedd Iesu yn edrych.
Ysgrifenodd pobl oedd yn adnabod Iesu Grist am y pethau a wnaeth. Mae’r straeon yma wedi eu casglu gyda’u gilydd mewn llyfr o’r enw Y Beibl.