200 likes | 361 Views
Moeseg America a gweithgareddau awyr agored. Mae 3 barn foesol ynglŷn â chwaraeon America:. Egwyddor Lombardi- Ennill ar bob cyfle. Dull sydd wedi cael ei fabwysiadu gan chwaraewyr proffesiynol. Syniadau sydd yn hollol i’r gwrthwyneb o syniadau sbortsmonaeth. Egwyddor Ryddfydol (radical)-
E N D
Mae 3 barn foesol ynglŷn â chwaraeon America: • Egwyddor Lombardi- • Ennill ar bob cyfle. • Dull sydd wedi cael ei fabwysiadu gan chwaraewyr proffesiynol. • Syniadau sydd ynhollol i’r gwrthwyneb o syniadau sbortsmonaeth
Egwyddor Ryddfydol (radical)- • Nodi fod ennill yn bwysig ond nid ar bob cyfri. • Mae gwerth yn y ffordd mae unigolyn yn ennill. • Hefyd mae gwedd ar ddatblygiad yr unigolyn.
Egwyddor croes ddiwylliant: • Cymeryd rhan sydd yn bwysig. • Y broses o ymdrech ddasydd yn bwysig nid ennill • Mae’r nodwedd o her yn dderbyniol. • Eco-sport
Hamddena a chwaraeon torfol. • Nid yw chwaraeon America wedi datblygu system clybiau chwaraeon fel a welir yn Ewrop. • Mae chwaraeon wedi eu hanelu at ysgolion, colegau a’r system broffesiynol. • Oherwydd hyn ychydig iawn o gyfleoedd sydd gan bobl America i gymeryd rhan mewn chwaraeon y tu alln i’r cylchoedd yma. • Mae parciau yn daparu cyfle i chwarae pêl feddal, jogio, llafnrolio (rolerblade) ond ychydig iawn yw’r ddarpariaeth gan y sector gyhoeddus.
Un eithriad o hyn yw chwaraeon ‘Little League’ • Cynghreiriau yw’r rhain sydd wedi eu hanelu at blant o dan 10, sy’n darparu cyfle i chwarae mewn nifer o chwaraeon. • Pêl droedPop Warner, Pêl fasPee Wee, Pêl fasged Biddy Basket yw rhai enghreifftiau o’r campau. • Mae’r timau yn cael eu rhedeg gan rieni, ac maent yn dilyn yr un strwythur â gemau proffesiynol, gyda chynghreiriau a ‘superbowls’
Eto mae pwyslais mawr ar ennill, mae hyn wedi codi nifer o gwestiynau. • Ond cred y rhan fwyaf o Americanwyr ei fod yn syniad da gan ei fod yn atgyfnerthu’r ffordd Americanaidd o fyw.
Tasg • Beth yw nodweddion rhaglen chwaraeon sydd wedi cael ei chynllunio gan oedolion? • A pha broblemau sydd yn cael eu cysylltu â hyn?
Mae moeseg America wedi newid o chwaraeon i bawb gan bwysau cynyddol o du’r cyfryngau. • Ar ôl gadael ysgol/coleg, nid yw unigolion yn parhau gyda chwaraeon, ar wahân i tenis a golff. • Er hyn, mae’r rhain wedi eu cyfyngu i glybiau gwlad- aelodaeth ddrud!!! • Mae cynydd wedi bod mewn iechyd a ffitrwydd, ond eto mae’r costau yn uchel.
Mae Americanwyryn cytuno gyda’r farn y dylai chwaraeon fod yn gydol oes. • Mewn nifer o ardaloedd mae chwaraeon yn cael eu trefnu i nifer o wahanol oedrannau e.e ‘golden olympics’.
Mae Cyffindiroedd (frontiers) wedi bod yn rhan amlwg o fywyd Americanaidd. • e.e- dofi‘r ‘Gorllewin Gwyllt’, croesi’r Rockies a byw mewn amgylcheddau anodd • Mae ‘ysbryd cyffindiroedd’ y mewnfudwyr cynnar wedi datblygu i’r maes chwarae drwy iglybiau gael eu galw yn ‘Redskins’
Mae gan faint a phrydferthwch America ddylanwad mawr ar eidiwylliant. • Cafodd y parciau gwledig cyntaf eu creu yn America. • Maent yn cymryd balchder yn yr ‘ehangder mawr tu allan’ (great outdoors) ac mae hyn yn adlewyrchiad o’r gorffennol. • Mae hanes America wedi ei glymu yn agos wrth yr hen ddyddiau, gyda nifer o bobl y wlad yn ysu am gael mynd yn ôl at eu ’gwreiddiau’ • Gwelwyd cynnydd mewn Dude ranches a ‘city slicker cowboys’
Yn dilyn rheolaeth ddatganoledig chwaraeon daeth parciau cenedlaethol a thaleithiol yn bwysig. • Ond gan fod yr ardal mor eang mae ychydig o reolaeth ganolog er mwynamddiffyn y cyhoedd rhag ymosodiadau gan eirth. • Mae’r rheolaeth o’r ardaloedd yma wedi arwain at gynnydd mewn syniad a elwir yn ‘eco sports’ • gweithgareddau gyda ffocws ar natur. • Mae gwersylla, helaa physgotayn athroniaeth a welir gan nifer o’r dosbarth canol- er mwyn datblygu’r berthynas tad a mab.
Gwersylloedd Haf • Un nodwedd unigryw i America yw ei gwersylloedd haf, sydd yn cael eu mynychu gan blant o 6-16 oed yn flynyddol. • Mae’n draddodiad yn America i blant fynd i wersyll lle’r aeth y rhieni, y taid a’rnain. • Er bod nifer o wahanol fathau o wersylloedd, mae nifer o bethau sydd yn debyg:
Maent yn wersylloedd preswyl ac yn bell i ffwrdd o drefi a dinasoedd. • Mae adnoddau chwaraeon a hamdden ardderchog yno. • Maent dros gyfnod o 6-8 wythnos, gyda chynghorwyr yn edrych ar eu holau. • Mae’r diwrnod yn cael ei dreulio yn gwneud gweithgareddau cystadleuol, ac yn derbyn hyfforddiant.
Uchafbwynt y gwersyll yw cystadleuaeth ryng-wersyllol o’r enw ‘Colour War’ • Mae’r gwersyll yn cael ei rannu yn 2, a cheir cystadleuaeth am 7 diwrnod.
Er bod pob gwersyll yn dilyn yr un drefn â’r uchod, mae rhai yn arbenigol • e.e pêl-droed • Chwaraeon- sydd yn aml yn cael eu hariannu gan gwmnïau chwaraeon mawr. • Cyfrifiadurol • Drama • ‘Fat camp’ • ‘Band camp’
Tasg • Beth yw’r gwahanol fathau o wersylloedd Haf sydd yna yn yr UDA?