100 likes | 306 Views
Gweithgareddau Cymeriadu. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Tasg 1. Dwi’n dy garu d i del, ond dwi’n methu gwenu. Sefwch mewn cylch.
E N D
Gweithgareddau Cymeriadu At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1
Tasg 1 Dwi’ndy garu di del, ond dwi’n methu gwenu. • Sefwch mewn cylch. • Bydd y dysgwr ar law chwith yr athro/athrawes yn dechrau drwy ddweud, wrth y person nesaf ar y chwith, ‘Dwi’n dy garu di del, ond dwi’n methu gwenu’. • Ewch ymlaen o gwmpas y cylch a phob dysgwr yn ailadrodd yr ymadrodd wrth y sawl sydd nesaf ar y chwith. • Rhaid ichi geisio dweud yr ymadrodd gydag wyneb syth a heb chwerthin.
Tasg 2 • Bydd pob grŵp perfformio yn ei dro yn actio fel gwesteion ar Sioe Jeremy Kyle. Eich athro/ athrawes fydd yn actio Jeremy Kyle, a gweddill y dosbarth fydd y gynulleidfa. • Gosodwch yr ystafell ddosbarth ar ffurf stiwdio Sioe Jeremy Kyle. • Yna, bydd yr athro/athrawes yn cyflwyno’r grŵp cyntaf, a ddaw i mewn ac eistedd ar y llwyfan, mewn cymeriad. • Bydd eich athro/athrawes yn cyflwyno’r cymeriadau i’r gynulleidfa ac yn rhoi gwybodaeth gryno. • Gwahoddir aelodau’r gynulleidfa i ofyn cwestiynau. Sioe Jeremy Kyle
Tasg 3 Beth petai...? • Eisteddwch ar lawr a’ch llygaid ynghau. • Pan gewch chi dap ar eu hysgwydd rhaid ichi ateb cwestiwn gan yr athro/athrawes, ar sail beth fyddai eich cymeriad yn ei wneud petai... • Er enghraifft, ‘Beth fyddet ti’n wneud petai gen ti • ddim ond diwrnod i fyw?’.
Tasg 4 Canfod yr is-destun • Ysgrifennwch ar eich sgript beth mae eich cymeriad yn ei feddwl mewn gwirionedd drwy gydol yr olygfa. • Ar ôl gwneud hyn, ymarferwch yr olygfa, ond gan siarad meddyliau eich cymeriad yn unig. • Perfformiwch y golygfeydd hyn o flaen y dosbarth. • Nawr, ewch yn ôl at yr olygfa wreiddiol – gan gadw’r is-destun yn eich meddwl – ac ymarfer yr olygfa eto, ond gan ganolbwyntio ar sut gallwch gyfleu’r is-destun drwy ddefnyddio ystumiau, iaith gorfforol, goslef ac ati.
Tasg 5 Ffurfio Cymeriad • Ymrannwch yn barau ac enwch eich hunain • yn A a B. • Partner A: dychmygwch mai talp o glai ydych chi sy’n mynd i gael ei fowldio yn ffurf eich cymeriad gan eich partner. • Partner B: chi fydd y cerflunydd. • Bydd gennych funud i’r cerflunio ddigwydd. • Dangoswch y cerflun i’r dosbarth. Bydd eich athro/athrawes yn gwahodd sylwadau gan y dysgwyr eraill. • Gwnewch yr ymarferiad eto, gydag A yn gerflunydd y tro yma.
Tasg 6 Byrfyfyrio ar y testun • Yn eich grwpiau, dewiswch olygfa sy’n dangos y mwyaf am y cymeriadau. • Ymarferwch yr olygfa yn eich geiriau eu hunain a sylwi sut mae eich cymeriad yn ymddwyn. • Ysgrifennwch eich syniadau i lawr. • Wedyn ailchwaraewch yr olygfa gan ddefnyddio’r testun go iawn.
Tasg 7 Dyma 3 ymarfer i ddangos y berthynas rhwng cymeriadau: Ffurfiwch bâr ag aelod arall o’u grŵp, a chreu golygfa fyrfyfyr fer lle mae’r cymeriadau’n sownd mewn lifft. Crëwch olygfa fyrfyfyr sy’n dangos cyfarfyddiad cyntaf y cymeriadau ac sy’n edrych ar yr hanes rhwng y ddau gymeriad. Edrychwch ar ddechrau’r ddrama a byrfyfyriwch beth sy’n digwydd bum munud cyn yr olygfa gan orffen ar y pwynt lle mae’r ddrama’n dechrau. Gall hyn helpu gyda dyfodiad neu leoliad eich cymeriad ar y llwyfan ac egluro’i bwrpas yn yr olygfa. Byrfyfyrio oddi ar y testun
Tasg 8 • Mae angen ichi ymateb i’r rôl y mae’r athro/athrawes yn ei chwarae. • Cyn gynted ag y sylweddolwch pwy yw’r athro/athrawes, mabwysiadwch osgo ac agwedd y cymeriad. • Holwch y cymeriad a’i helpu gyda phenderfyniadau. • Mae angen ichi arddel y rôl a chredu yn y sefyllfa. • Dylech siarad â dysgwyr eraill mewn cymeriad a’u trin yn y ffordd rydych chi’n meddwl fyddai’n briodol i’w cymeriad. Cred