150 likes | 479 Views
DAMEG YR HEUWR . Aeth heuwr allan i hau; . Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr. Daeth adar a'i fwyta. .
E N D
Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr. Daeth adar a'i fwyta.
Syrthiodd peth ar fannau caregog, lle nad oedd llawer o bridd. Tyfodd yn syth, am nad oedd dyfnder daear yno. Wedi i'r haul godi, fe'i llosgwyd; ac am nad oedd gwreiddiau iddo, fe wywodd.
Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain; A thyfodd y drain, a'u tagu.
Ond syrthiodd eraill ar dir da, a ffrwytho. Peth ganwaith cymaint, a pheth chwe deg gwaith cymaint, a pheth tri deg gwaith cymaint.
Mae'r hedyn a syrthiodd ar y llwybr caled fel gair Duw ar galonnau caled a chlustiau sy'n gwrthod gwrando. Mae gelyn Duw, fel yr adar, yn cipio'r hedyn ymaith.
Mae'r pridd bas ar y graig fel pobl sy'n derbyn y newyddion da am Iesu, ond nid yw'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Mae problemau yn eu rhwystro, a phan ddaw problemau yn eu bywydau, maent yn ildio. Does dim nerth ganddynt i ddyfalbarhau.
Mae'r tir dreiniog fel pobl sy'n clywed ac yn derbyn y newyddion da, ond sy'n meddwl gymaint am broblemau bywyd, a cheisio cyfoeth, fel bod meddyliau am Dduw yn cael eu mygu. Nid ydynt yn byw bywydau ffrwythlon iawn yn y diwedd.
Ond mae'r tir da fel calonnau pobl sy'n clywed neges Duw am gariad Iesu. Mae gair Duw yn gwreiddio yn eu bywydau fel eu bod yn gallu deall a dilyn ffordd Duw, ac yn dwyn ffrwyth yn nheyrnas Duw.