60 likes | 218 Views
DARLLENWCH YR HANES. Arth Sbectolog yn Dychwelyd i Warchodfa yn Ecwador…. Beth ydych chi'n credu eich bod yn gwybod am eirth?. Sut effeithiwyd ar eu cynefin, yn eich barn chi?. Rwyf yn byw yn Ne America yn unig. A ydych chi'n gwybod ble mae hynny?.
E N D
DARLLENWCH YR HANES Arth Sbectolog yn Dychwelyd i Warchodfa yn Ecwador….
Beth ydych chi'n credu eich bod yn gwybod am eirth? Sut effeithiwyd ar eu cynefin, yn eich barn chi?
Rwyf yn byw yn Ne America yn unig. A ydych chi'n gwybod ble mae hynny? Nid wyf yn gwisgo sbectol – Oherwydd y ffwr gwyn o gwmpas fy llygaid mae'n edrych fel pe bawn yn gwneud! A OEDDECH CHI'N GWYBOD? Gallai arth fenyw roi genedigaeth i 1 neu 2 genau. Rwyf yn llai nag eirth eraill. Rwyf yn dal i fod mewn perygl! Rwyf yn dda iawn am ddringo coed a bwyta cnau, ffrwythau a dail.
Y STORI FAWR Arth Sbectolog yn Dychwelyd i Warchodfa yn Ecwador…. ‘Mae Maquipucuna yn golygu 'llaw dyner’ ac mae hyn yn bendant yn disgrifio agwedd y bobl tuag at eu coedwig law. Agorwyd y caban ym 1998 i helpu i warchod y goedwig Maent yn tyfu cnydau ac yn addysgu pobl ar sut i edrych ar ôl y goedwig law. Mae'r ardal o gwmpas y caban yn dynfa bwysig i fywyd gwyllt, yn un o ddwy yn unig yn Ecwador ac o bymtheg ar hugain yn yr holl Fyd. Gwelwyd teulu o Eirth Sbectolog yn agos at gaban Maquipucuna, a leolir yn un o'r gwarchodfeydd mwyaf yn Ecwador. Dyma'r tro cyntaf ers bron wyth blynyddoedd i eirth gael eu gweld yn yr ardal. Roedd y bobl leol wedi cynhyrfu'n fawr gan hyn. Buont yn tynnu lluniau hyd yn oed a gwneud crysau T i'w gwisgo!
Camau ar gyfer arbed cynefin... • Mae pawb yn y caban yn ailgylchu. • Mae'r arian a enillir yn cael ei roi yn ôl i'r bobl leol. • Mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu'u sgiliau. • Adeiladwyd y caban gan ddefnyddio pren a defnyddiau naturiol eraill yn unig. • Mae'r offer glanhau a ddefnyddir yn y caban yn fioddiraddadwy. • Mae ysgolion yn Quito (prif ddinas Ecwador) yn ymweld â'r caban i ddysgu am gynaladwyedd a rôl y goedwig.
A ydych CHI yn dinistrio cynefin?... Mae’r niferoedd o ddraenogod yng Nghymru yn syrthio. Mae rhai pobl yn dweud y byddant wedi diflannu erbyn 2025! Beth allwch CHI ei wneud? Meddyliwch am weithredoedd y bobl yng nghaban Maquipucuna. A allech chi wneud gweithredoedd tebyg? Helpwch eich athro/athrawes i ddatblygu ardal natur. Sut allwch chi fod yn fwy cyfeillgar i'ch amgylchedd? Dysgwch fwy am blanhigion ac anifeiliaid yn eich ardal chi! ‘Looking after Hawthorn Hedgehog’ – adnodd NGfL Cymru www.bbc.co.uk/breathingplaces/schools