1 / 21

Modiwl 10: Menter

Modiwl 10: Menter. Syniadau codi arian/menter.

xenon
Download Presentation

Modiwl 10: Menter

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 10: Menter

  2. Syniadau codi arian/menter • Bydd nifer o ysgolion yn cynnal digwyddiadau codi arian. Maen nhw’n ddelfrydol i ddysgwyr brofi gweithgareddau ‘go iawn’ sy’n cwmpasu’r datganiadau yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh). • Gall y deilliannau dysgu canlynol (mewn teip trwm) gael eu troi’n ddigwyddiad codi arian wedi’i gynllunio’n dda.

  3. Ar Drywydd Dysgu yn y FfLlRh Os yw’n gymwys i’ch dysgwyr chi, oes cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau uchod? Ychwanegwch eich syniadau at y Cynllunydd rheoli arian.

  4. Deilliannau dysgu FfLlRh Rheoli arian

  5. Syniadau Mawr Cymru Beth yw Syniadau Mawr Cymru? Syniadau Mawr Cymru yw ymgyrch i geisio annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd a helpu'r rhai a hoffai ddechrau busnes. Mae'r ymgyrch yn cael ei reoli gan y Tîm Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn Llywodraeth Cymru. Mae'r sleidiau canlynol yn awgrymu sut y gallai'r ymgyrch ddatblygu entrepreneuriaeth gyda dysgwyr yn y sector cynradd ac uwchradd. I gael rhagor o fanylion ac adnoddau ewch i http://ms.fs4b.wales.gov.uk/sub_sites/big_ideas_wales.aspx?lang=cy-gb

  6. Mae’r sleidiau canlynol yn rhannu rhai syniadau codi arian a menter a gafodd eu treialu gan athrawon mewn ysgolion yng Nghymru.

  7. Syniadau codi arian/menter • Mae'r pennaeth yn rhoi £10/£20/£50 i bob dosbarth yn y gwasanaeth. Mae pob dosbarth yn cynnal digwyddiad codi arian. Mewn gwasanaeth dilynol maen nhw'n dychwelyd y £10 ynghyd ag unrhyw elw y maen nhw wedi'i wneud. • 'Tyfu £1' – Mae pob plentyn yn cael £1 ac mae'n rhaid iddyn nhw gael hyd i ffyrdd o'i dyfu, e.e. gwneud a gwerthu eitemau, cynnig gwasanaeth, cronni eu harian i ddechrau busnes gyda dysgwyr eraill. • Mae'r dysgwyr yn cynnig am swm penodol o arian er mwyn dechrau menter arbennig, e.e. cynnig am ddigon o arian i hurio castell neidio neu brynu'r eitemau sydd eu hangen i redeg busnes golchi ceir. Ar ôl y digwyddiad, maen nhw'n dychwelyd yr arian ynghyd â'r elw. • Cystadleuaeth i weld pa grŵp/dosbarth all godi'r arian mwyaf. • Tyfu hadau – mae pob plentyn yn cael pecyn o hadau; allan nhw wneud arian drwy eu tyfu a gwerthu'r cynnyrch?

  8. Syniadau ‘Gwneud i arian dyfu’ (argymhellwyd gan athrawon) Cynnig gwasanaeth neu gynnal sioe/digwyddiad/cystadleuaeth • Golchi ceir. • Cystadleuaeth chwaraeon a chodi tâl ar ddysgwyr i gystadlu, e.e. tennis, tennis bwrdd, cic o'r smotyn, ras hwyl. • Gwneud gwaith tŷ gartref/yn yr ysgol. • Digwyddiadau noddedig. • Cynnal sioe neu sioe dalent. • Dawns te prynhawn. • Disgo. • Bar ewinedd. • Paentio wynebau. • Diwrnod dillad eich hunan – dysgwyr yn talu i wisgo eu dillad eu hunain. • Cwis. • Ffair/gemau'r ffair, e.e. taflu sbwng at y pennaeth, map trysor.

  9. Syniadau ‘Gwneud i arian dyfu’ (argymhellwyd gan athrawon) Syniadau gwneud/gwerthu • Gwerthu byrbrydau/smwthis/nwyddau diangen/eitemau Masnach Deg/cacennau/ac ati. • Siop ffrwythau'r ysgol – grwpiau o ddysgwyr yn cynllunio ac yn rhedeg y siop eu hunain am wythnos, e.e. dewis o ffrwythau, cebab ffrwythau, smwthis, salad ffrwythau. Pa grŵp sy'n gwneud yr elw mwyaf? • Arwerthiant/addewidion – cynigion ysgrifenedig ar gyfer eitemau sydd ar werth, y cynnig gorau yn ennill yr eitem. • Llenwi cwpan de/jar jam ag eitemau a'u gwerthu, e.e. blodau, melysion, pennau, goleuadau te. • Eisteddfod – gwerthu cynnyrch Cymreig • Eitemau wedi'u personoli – ffotograffau, tywelion te, mygiau, magnetau, cylch allweddi, calendrau a bagiau. • Cardiau pen-blwydd neu Nadolig, e.e. o waith llaw, cyhoeddedig, wedi'u personoli. • Un bêl-droed yw'r wobr a dylai'r dysgwyr benderfynu sut y gallan nhw wneud yr arian mwyaf ohono, e.e. cic o'r smotyn, raffl, hysbysebu, y tîm lleol yn arwyddo'r bêl a chynnal arwerthiant. • Tyfu pecyn o hadau a gwerthu'r cynnyrch.

  10. Syniadau ‘Gwneud i arian dyfu’ (argymhellwyd gan athrawon) Syniadau gwneud/gwerthu • Agor ‘siop dros dro’ yn gwerthu eitemau i’r cyhoedd. • Gwneud a gwerthu llyfrau, e.e. hoff ryseitiau athrawon, jôcs, cerddi, straeon. • CD neu DVD o gyngerdd/caneuon ysgol. • Oriel gelf ac arwerthiant. • Gemwaith. • Eitemau brecwast/bore goffi/te prynhawn/barbeciw. • Marchnad/arwerthiant cist car ar iard yr ysgol. • Modelau yn seiliedig ar brosiect Eden. • Hufenau a hylifau/eitemau pampro. • Gardd yr ysgol – tyfu a gwerthu cynnyrch. • Gwneud eitemau i’w gwerthu o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, e.e. addurniadau Nadolig.

  11. Syniadau ar gyfer defnyddio’r arian a godwyd • Defnyddio’r arian i ‘wella’r’ ysgol, defnyddio’r syniadau a awgrymwyd gan y dysgwyr, e.e. i brynu offer dosbarth/ysgol, gemau amser chwarae gwlyb, amser chwarae awyr agored/offer chwaraeon, adnoddau TGCh, eitemau ar gyfer gardd yr ysgol. • Taith dosbarth diwedd tymor/trît/parti/prom. • Rhoi'r arian i elusen, e.e. offer ar gyfer ysgol efeillio, pwmp dŵr. • Prynu darn o fforest law/enwi seren. • Rhannu’r elw – 50% at elusen, 50% i'r dosbarth/ysgol.

  12. Cofnodi, cynllunio ac olrhain yr arian a wariwyd ac a gynilwyd • Syniadau: • Gosod swm targed i’r dysgwyr ei godi, e.e. £200 ar gyfer offer chwarae awyr agored. • Gall dysgwyr gynllunio sut i godi’r arian. • Cofnodi’r arian a gynilwyd/wariwyd neu elw a cholled, e.e. mae’r dysgwyr yn cynllunio eu ffyrdd eu hunain o gofnodi, defnyddio mantolenni, taenlenni. • Gofyn y cwestiwn i’r dysgwyr neu arddangos y cwestiwn yn y neuadd ‘Faint yn rhagor sy’n rhaid i ni gynilo i gyrraedd y targed?’.

  13. Holiadur • Syniadau: • Gallech chi ofyn i’r dysgwyr gynllunio a chwblhau holiadur cyn y digwyddiad i gael yr wybodaeth ganlynol. • Beth hoffech chi ei weld/ei wneud yn y digwyddiad? • Beth fyddech chi’n dewis gwario eich arian arno yn y digwyddiad? • Faint fyddech chi’n barod i’w dalu?

  14. Cynghorion di-ffael ar gyfer digwyddiadau llwyddiannus • Hysbysebu'n dda. • Cymryd archebion ymlaen llaw os oes modd i leihau gwastraff. • Annog dysgwyr i gymharu prisiau ar gyfer defnyddiau. Maen nhw'n sylweddoli'n fuan drwy ddewis y pris gorau gallan nhw wneud yr elw mwyaf posibl. • Rhoi cyfle i ddysgwyr gael diwrnod heb wisg ysgol i ddod ag eitemau i'w gwerthu yn y ffair. • Rhannu dysgwyr Blwyddyn 5/6 yn grwpiau bach i fod yn 'gyfrifwyr/rheolwyr' ar gyfer y dosbarthiadau eraill yn yr ysgol. Mae hyn yn rhoi profiad go iawn iddyn nhw o weithio ar lefel briodol ac mae hefyd yn helpu athrawon dosbarth dysgwyr iau. • Ymarfer stondin/digwyddiad cyn y diwrnod ei hun drwy chwarae rôl.

  15. Chwarae rôl • Gall roi cynnig ar stondin/digwyddiad drwy chwarae rôl helpu’r dysgwyr i sylweddoli a datrys heriau posibl. Dylai hyn helpu’r digwyddiad i redeg yn ddiffwdan. • Enghreifftiau: • Angen prisio a rhoi newid, e.e. os yw’r prisiau yn 25c, bydd angen llawer o 5c i roi newid; os yw’r eitemau yn 99c, bydd angen llawer o 1c; neu benderfynu newid y pris i £1. • Ydy’r prisiau yn hawdd i’r cwsmeriaid eu darllen? • Ydych chi am hysbysebu cynigion arbennig? • Oes angen system giwio? • Faint o werthwyr/tiliau sydd eu hangen? Ble ddylech chi roi’r tiliau? • Beth yw pris 2, 3, 4, 5 eitem? Fyddai rhestr o’r rhain yn ddefnyddiol (e.e. gwerthu calendrau am £1.25 yr un)? • Oes angen bagiau cludo arnoch chi? • Fyddai archebu eitemau ymlaen llaw yn helpu (e.e. cebab ffrwythau, eitemau wedi’u personoli)?

  16. Cysylltiadau llwyddiannus • Mae ysgolion wedi cynnal digwyddiadau codi arian llwyddiannus mewn cydweithrediad ag: • Ysgolion Iach (bwyd iach/siop fwyd ffrwythau/digwyddiadau chwaraeon) • Masnach Deg • codi arian ar gyfer ysgol efeillio/plentyn wedi’i fabwysiadu mewn gwlad arall • grŵp menter eu hysgol uwchradd leol • busnesau lleol, e.e. siopau lleol ar gyfer nwyddau, argraffwyr/cyhoeddwyr ar gyfer hysbysebu neu argraffu cardiau/calendrau • cystadlaethau/mentrau menter ieuenctid • diwrnod cydweithredu Ewropeaidd.

  17. Gwefannau ac adnoddau • Syniadau Mawr CymruYmgyrch i geisio annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuriaeth a helpu'r rhai a hoffai ddechrau busnes.http://ms.fs4b.wales.gov.uk/sub_sites/big_ideas_wales.aspx?lang=cy-gb • Enterprise troopershttp://ycriwmentrus.com/home-2/ • Adnoddau Dynamo http://ms.fs4b.wales.gov.uk/sub_sites/yes/content/dynamo/curriculum_materials/dynamo_1.aspx?lang=cy-gb • pfeg Amryw o adnoddau menter ac astudiaethau achos yn addas ar gyfer ymarferwyr cynradd ac uwchradd.www.pfeg.orgGweler ‘Enterprise’, Learning about money in the primary classroom. • Trade Your Way www.bbc.co.uk/schools/teachers/tradeyourway • Values, Money and Me – Entrepreneur Challengewww.valuesmoneyandme.co.uk/calculators/challenge.html

More Related