270 likes | 442 Views
Modiwl 4. Metawybyddiaeth, sgiliau meddwl a gwelliant ysgol gyfan. Nod y modiwl. Deall cysyniad datblygu dull ysgol gyfan o ddefnyddio metawybyddiaeth a sgiliau meddwl yn addysgeg effeithiol er mwyn gwella ysgol gyfan. Amcanion y modiwl. Trafod pwysigrwydd addysgeg effeithiol.
E N D
Modiwl 4 Metawybyddiaeth, sgiliau meddwl a gwelliant ysgol gyfan
Nod y modiwl • Deall cysyniad datblygu dull ysgol gyfan o ddefnyddio metawybyddiaeth a sgiliau meddwl yn addysgeg effeithiol er mwyn gwella ysgol gyfan.
Amcanion y modiwl • Trafod pwysigrwydd addysgeg effeithiol. • Atgyfnerthu gwybodaeth o ran metawybyddiaeth a sgiliau meddwl. • Archwilio syniadau ynglŷn ag ymarfer sydd â’r potensial i gyfrannu i ddatblygu a gweithredu dull ysgol gyfan o ddefnyddio metawybyddiaeth a sgiliau meddwl.
Dwyn i gof • Metawybyddiaeth yw . . . • Sgiliau meddwl yw . . . Corporate slide master With guidelines for corporate presentations
Metawybyddiaeth yw . . . Meddwl am eich meddwl chi eich hunan. • Myfyrio – gwerthfawrogi beth rydym yn ei wybod/ gwybodaeth flaenorol. • Hunan-reoleiddio – rheoli’r dysgu a defnyddio gwybodaeth flaenorol/profiad mewn sefyllfa ddysgu newydd.
Sgiliau meddwl yw . . . • Gwneud cysylltiadau o fewn ac ar draws testunau, o fewn ac ar draws themâu, ac ar draws ystod o brofiadau personol. • Dwysáu dealltwriaeth a gwneud penderfyniadau ar sail rheswm er mwyn cyflawni dysgu gwell.
Sgiliau meddwl yng nghyd-destun PISA Corporate slide master With guidelines for corporate presentations
Addysgeg ar sail gwybodaeth • Sut mae ein dealltwriaeth o fetawybyddiaeth a sgiliau meddwl yn goleuo addysgeg?
Tasg1: Addysgeg effeithiol Corporate slide master With guidelines for corporate presentations
Addysgeg effeithiol • Yn eich grwpiau, meddyliwch am gynifer o eiriau ag y gallwch i ddiffinio’r term ‘addysgeg effeithiol’.
Galluoedd Gwybodaeth Bugeiliol Safonau Sgiliau addysgu Sgiliau Academaidd Ymrwymiad Datblygiad personol a chymdeithasol dysgwyr Heriol Creu’r amgylchedd dysgu Dulliau addysgu Tueddiadau dysgu Gwybodaeth grefftus
Addysgeg ar sail gwybodaeth • Beth yw’r cysylltiadau rhwng metawybyddiaeth, sgiliau meddwl ac addysgeg effeithiol? • Beth yw dull ysgol gyfan?
Dull ysgol gyfan . . . dull sefydliadol a’i nod yw integreiddio metawybyddiaeth a sgiliau meddwl o fewn ethos, diwylliant, bywyd arferol bob dydd a busnes craidd yr ysgol. National Children’s Bureau, 2006
Mae dull ysgol gyfan yn cynnwys: • arweinyddiaeth, rheolaeth a rheoli newid • datblygu polisïau • dysgu ac addysgu, adnoddu a chynllunio cwricwlwm • diwylliant ac amgylchedd yr ysgol • rhoi llais i blant a phobl ifanc • darparu gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc • iechyd a lles, anghenion datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), y staff • partneriaethau â rhieni/gofalwyr a chymunedau lleol • asesu, cofnodi ac adrodd cyrhaeddiadau plant a phobl ifanc.
Tasg2: Dull ysgol gyfan Corporate slide master With guidelines for corporate presentations
Dull ysgol gyfan Edrychwch ar y clip fideo lle mae athrawon yn trafod eu profiad o ddatblygu dull ysgol gyfan o ddefnyddio metawybyddiaeth a sgiliau meddwl. • Nodwch 3 agwedd allweddol sy’n bwysig i chi er mwyn symud dull ysgol gyfan yn ei flaen.
http://www.youtube.com/watch?v=sGtXoClwfv8&feature=youtu.be http://www.youtube.com/watch?v=1nPQGfPMzmc&feature=youtu.be
Myfyrio ar yr ymarfer presennol • Beth rydych yn ei wneud eisoes? • Beth sydd angen ei wneud yn wahanol? • Beth yw’r heriau?
Cymunedau dysgu proffesiynol (CDPau) Mae Cymuned Ddysgu Broffesiynol yn grŵp o ymarferwyr sy’n cydweithio gan ddefnyddio proses strwythuredig o ymholi i ganolbwyntio ar faes penodol o’u haddysgu er mwyn gwella deilliannau dysgwyr ac felly codi safonau ysgolion. Llywodraeth Cymru, 2011 (tudalen 5)
CDPau • Adeiladu gallu’r ysgol i gyfrannu i welliant parhaus. • Cefnogi Llywodraeth Cymru i: • godi safonau llythrennedd • codi safonau rhifedd • lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad academaidd. Llywodraeth Cymru, 2011
Dull ysgol gyfan ar gyfer gwella • Amgylchedd dysgu ysgol gyfan. • Mae metawybyddiaeth a meddwl yn bethau penodol. • Yr un iaith/strategaethau dysgu sydd ar gyfer metawybyddiaeth a meddwl. • Dull dealladwysydd wedi’i gynllunio’n dda. • Yn cael ei ddefnyddio ar draws yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Kestral Education, 2013
Tasg 3: Archwiliad SWOT Corporate slide master With guidelines for corporate presentations
DadansoddiadSWOT: archwiliad o’r ddarpariaeth bresennol • Ystyriwch ble rydych nawr… • Beth rydych yn ei wneud o ran metawybyddiaeth • Sut rydych yn datblygu sgiliau meddwl?
Tasg 4: Symud ymlaen Corporate slide master With guidelines for corporate presentations
Y ffordd ymlaen . . . • Cynllunio camau gweithredu. • Pa gamau gweithredu sydd eisiau bod yn eu lle? • Pwy ddylai fod yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn? • Sut gellir darparu adnoddau ar gyfer y camau gweithredu hyn?
Cyfeiriadau • Kestral Education (2013), Creating a Thinking School. [Ar-lein] www.thinkingschool.co.uk/ • National Children’s Bureau (2006), A whole-school approach to Personal, Social and Health Education and Citizenship. Llundain: NCB. • Llywodraeth Cymru (2011), Cymunedau Dysgu Proffesiynol. [Ar-lein] http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/120109plccy.pdf
Darllen pellach • DCELLS (2008), Fframwaith ar gyfer dysgu plant 3 i 7 oed yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru. • OECD (2009), PISA Take the Test: Sample Questions from the OECD’s PISA Assessments. [Ar-lein] www.oecd.org/pisa/pisaproducts/pisa2000/41943106.pdf • OECD (2010), PISA 2009 at a Glance. [Ar-lein] www.oecd.org/pisa/pisaproducts/pisa2006/41943106.pdf • OECD (2012), Canllaw i ddefnyddio PISA fel cyd-destun dysgu. [Ar-lein] http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/pisaguide/?skip=1&lang=cy