40 likes | 294 Views
TGAU ECONOMEG Y CARTREF. Mae’r cwrs hwn yn angenrheidiol i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ymarferol a datblygu dealltwriaeth bellach o faeth, nwyddau bwyd, paratoi bwyd, diogelwch bwyd a storio bwyd. Mae’n opsiwn hanfodol i fyfyrwyr sy’n dymuno gweithio yn y diwydiant bwyd.
E N D
TGAU ECONOMEG Y CARTREF Mae’r cwrs hwn yn angenrheidiol i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ymarferol a datblygu dealltwriaeth bellach o faeth, nwyddau bwyd, paratoi bwyd, diogelwch bwyd a storio bwyd. Mae’n opsiwn hanfodol i fyfyrwyr sy’n dymuno gweithio yn y diwydiant bwyd. Mae pedair uned i’r cwrs: • Uned 1: Maeth, Deiet ac Iechyd Trwy Gydol Oes • Uned 2: Ffactorau'n Effeithio ar Ddewis y Defnyddiwr • Uned 3: Priodweddau Maethol, Ffisegol, Cemegol a Synhwyraidd Bwydydd wrth Storio, Paratoi a Choginio • Uned 4: Hylendid a Diogelwch Bwyd Bwyd a Maeth
Bwyd a Maeth Bydd ymgeiswyr yn datblygu eu sgiliau paratoi a thrin bwyd trwy gymryd rhan reolaidd mewn sesiynau ymarferol a fydd yn ymwneud â chynhyrchu prydau bwyd, gwaith arbrofol, profi bwyd ac addasu ryseitiau. Gellir cael gwybodaeth a dealltwriaeth o’r meysydd pwnc trwy nodiadau dosbarth, cwblhau llyfrynnau gwaith, gwylio fideos, ymchwil grŵp neu unigol, a gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein. Llwybr awgrymedig trwy’r fanyleb Blwyddyn 10 Sesiynau ymarferol wythnosol, sesiynau theori i gael gwybodaeth Tasg 1 – Asesiad dan Reolaeth – 20% o’r marc terfynol Bydd angen i ymgeiswyr gynhyrchu ffolio ymchwiliadol sy’n eu dangos yn ennill sgiliau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r dasg a ddewiswyd
Bwyd a Maeth Blwyddyn 11 Sesiynau ymarferol wythnosol, sesiynau theori i gael gwybodaeth, cwblhau’r sampl / papurau enghreifftiol, adolygu ar gyfer yr arholiad. Tasg 2 – Asesiad dan Reolaeth – 40% o’r marc terfynol. Llwybrau dilyniant i astudio pellach Cyrsiau Technoleg Bwyd, Arlwyo NVQ, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Safon Uwch, Bioleg Ddynol Safon Uwch. Llwybrau dilyniant i Yrfa a Chyflogaeth: Technolegydd Bwyd,Y Diwydiant Arlwyo, Dietegydd.