40 likes | 189 Views
TGAU ECONOMEG Y CARTREF. TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc.
E N D
TGAU ECONOMEG Y CARTREF TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc • Mae’r cwrs hwn yn angenrheidiol i unrhyw un sy’n gwybod y byddent yn hoffi gweithio gyda phlant neu i’r rheiny sydd eisiau dysgu am deuluoedd, beichiogrwydd a sut mae plentyn yn datblygu – yn gorfforol, yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn ddeallusol hyd at 5 mlwydd oed. • Mae 6 prif faes astudio: • Adran 1 – Y Teulu a’r Plentyn • Adran 2 – Bwyd a Iechyd • Adran 3 – Beichiogrwydd • Adran 4 – Datblygiad Corfforol • Adran 5 – Datblygiad Deallusol • Adran 6 – Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol • Mae cysylltiad â phlant ifanc yn hanfodol
TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc CRYNODEB O’R ASESIAD
TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc Gellir cael y wybodaeth ofynnol trwy gwblhau llyfrynnau gwaith, Gweithgareddau chwarae rôl e.e. trafod gyda ffrind peryglon ysmygu yn ystod beichiogrwydd; Gemau e.e. bingo, dominos, datganiadau cywir neu anghywir; Gwylio fideos e.e. Teenage Mums a Gwaith Ymarferol e.e. paratoi prydau bwyd addas ar gyfer gwraig feichiog. Gellir hefyd defnyddio siaradwyr gwadd i gyflwyno materion sensitif megis Moesoldeb, Cynllunio Teulu ac Erthyliad. LLWYBR AWGRYMEDIG TRWY’R FANYLEB BLWYDDYN 10 – Tymor 1 (tua 30/35 gwers) Awgrymir cymryd gwaith o feysydd astudio craidd 3 a 4 gan mwyaf. Ar ddiwedd y tymor, cyflwyniad sylfaenol i’r datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol, h.y. meysydd craidd 4, 5 a 6. Mae hwn i baratoi ar gyfer cychwyn ar Uned 2, yr asesiad dan reolaeth ym mis Ionawr. Blwyddyn 10 – Tymor 2 (tua 30 gwers) Dylid cymryd gwaith y tymor hwn o feysydd astudio 4, 5 a 6 gan bydd y rhain yn cefnogi Uned 2, y dasg dan reolaeth. Bydd angen cydblethu’r addysgu â rhywfaint o’r 15 awr dan reolaeth sydd yn rhaid eu treulio ar Uned 2 y dasg dan reolaeth. Bydd angen amser ar yr ymgeiswyr rhwng y sesiynau dan oruchwyliaeth fel y bod modd iddynt gasglu gwybodaeth a chwblhau arsylwadau o’u hastudiaeth.
TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc Blwyddyn 10 – Tymor 3 (tua 28 gwers) Bydd gwaith y tymor hwn yn canolbwyntio ar faes astudio 2 – Bywd a Iechyd a’r gweddill yn oriau tasg dan reolaeth Uned 2. Blwyddyn 11 – Tymor 1 (tua 30/35 gwers) Bydd gwaith y tymor hwn yn canolbwyntio ar y maes astudio cyntaf – Y Teulu a’r Plentyn. Bydd angen cyflwyno Uned 3 a dylid rhoi arweiniad i ymgeiswyr o ran y dull cwblhau ym mis Ionawr. Blwyddyn 11 – Tymor 2 (tua 30 gwers) Bydd gwaith y tymor hwn yn cwblhau testunau o faes astudio 1 a bydd yr ymgeiswyr yn cwblhau asesiad dan reolaeth Uned 3, 15 awr. Bydd gweddill y gwersi y tymor hwn ar gyfer cwblhau testunau, adolygu a chwblhau papurau arholiad enghreifftiol. Llwybrau dilyniant i Astudio Pellach: UG/U2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol U/UG Seicoleg / Cymdeithaseg BTEC Cyrsiau gofalu Llwybrau dilyniant i Yrfa a Chyflogaeth: Nyrs Feithrin, Arweinydd Cylch Chwarae, Nani, Athro/Athrawes, Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu, Nyrs Paediatreg. Cyfuniadau pwnc: Gwyddoniaeth – elfen fiolegol, TG ar gyfer cynhyrchu gwaith cwrs, Technoleg (tecstilau neu ddefnyddiau gwrthiannol), Lletygarwch ac Arlwyo – ar gyfer sgiliau ymarferol, asesiad dan reolaeth a Maeth.