220 likes | 455 Views
Mantolenni ar gyfer Busnes TGAU CBAC. Topic Outcomes:. Mae Mantolen yn crynhoi: Ble mae’r HOLL arian wedi cael ei WARIO (yn hanner uchaf y fantolen) a hefyd O BLE y daeth yr HOLL arian a FUDDSODDWYD yn y cwmni (yn hanner isaf y fantolen). Mantolen yw ….
E N D
Mae Mantolen yn crynhoi: Ble mae’r HOLL arian wedi cael ei WARIO (yn hanner uchaf y fantolen) a hefyd O BLE y daeth yr HOLL arian a FUDDSODDWYD yn y cwmni (yn hanner isaf y fantolen) Mantolen yw … Bydd dau hanner y fantolen BOB AMSER â’r un ffigur ar y gwaelod, hynny yw yn mantoli (balance) – dyna pam y defnyddir yr enw ‘mantolen’!
Cyfoeth yw asedau, arian, elw MINWS unrhyw beth sy’n ddyledus gan y busnes. Mantolen yw … Mae Mantolen yn dweud wrth randdeiliaid mewn cwmni pa mor gyfoethog yw’r cwmni ar GYFNOD PENODOL.
ASEDAU NET (Pethau maen nhw’nberchenarnynt minws unrhyw beth mae angen iddyn nhw ei ad-dalu o fewn blwyddyn) CYFALAF A DDEFNYFDDIWYD (O ble y daeth yr arian i helpu i dalu am eu hasedau/ heiddo) Nodwch y termau allweddol hyn! Mantolen Minty Cyf ar gyfer 31ain o Ragfyr 2010
Edrych ar Minty Cyf gyda’n gilydd, Cwblhau’r gweithgareddau : Pinky Cyf a Genie Cyf., Ysgrifennu’r diffiniadau yn y blychau a’r bylchau sydd wedi’u darparu, Yna byddwn yn barod i edrych yn fwy manwl ar y manylion yn y mantolenni…. Tasgau Gan ddefnyddio’r taflenni sydd wedi’u darparu, rydyn ni’n mynd i ddysgu am STRWYTHUR y fantolen a sut mae’n cael ei gosod yn syml. (Minty – Dogfen Word â’r teitl Cardiau Gweithgareddau Mantolen CBAC 2011 Gadewch i ni…
Asedau Sefydlog - Eitemau mae’r busnes yn berchen arnynt a fydd yn para am FWY na blwyddyn – fel adeiladau neu gyfrifiaduron. Asedau Cyfredol– Eitemau mae’r busnes yn BERCHEN arnynt neu sy’n DDYLEDUS iddo a fydd yn cael eu troi’n ARIAN a ddefnyddir o fewn blwyddyn e.e. stoc; dyledwyr; arian yn y cyfrif cyfredol yn y banc. Nodiadau: Termau allweddol…
Rhwymedigaethau Cyfredol – Eitemau sy’n DDYLEDUS gan y busnes y bydd yn rhaid iddo eu HAD-DALU o fewn LLAI na blwyddyn – fel ei GREDYDWYR MASNACH. Cyfalaf Gweithio – Asedau Cyfredol MINWS Rhwymedigaethau Cyfredol – hynny yw yr arian sydd gan y busnes yn gweithio iddo yn y TYMOR BYR o ddydd i ddydd. Nodiadau: Termau allweddol…
Asedau Net - Cyfanswm o SUT mae’r holl gyfalaf yn y busnes yn cael ei ddefnyddio. I’w gael mae angen adio CYFALAF GWEITHIO at ASEDAU SEFYDLOG. Asedau Net yw cyfanswm HANNER UCHAF y Fantolen! Termau Allweddol…
Rhwymedigaethau Tymor Hir - Eitemau sy’n DDYLEDUS gan y busnes y bydd yn rhaid iddo eu HAD-DALU ymhen MWY na blwyddyn – fel ei forgais neu fenthyciad banc tymor hir. Cyfalaf Cyfranddaliadau neu Gyfalaf Berchenogion – Yr arian a fuddsoddwyd yn y busnes gan ei berchenogion. Nodiadau: Termau allweddol…
Elw Cadw - Elw mae’r cwmni wedi dewis ei GADW yn y busnes ar gyfer buddsoddi neu ehangu yn y dyfodol yn hytrach na’i dalu allan fel buddrannau. Cyfalaf a Ddefnyddiwyd – Cyfanswm yr holl arian a fuddsoddwyd yn y busnes – hanner isaf y fantolen. Nodiadau: Termau allweddol…
Nesaf – Edrychwn ar wahanol adrannau’r mantolen yn fwy manwl …. Edrychwn ar Genie Cyf gyda’n gilydd Yna gallwch chi brofi eich hunain drwy gyfrifo’r blychau ar gyfer Jelly Bean Cyf a Piggy Cyf.
Dyledwyr Masnach - lle mae arian yn ddyledus i chi gan bobl/ gwsmeriaid am fod eich busnes wedi gwerthu nwyddau iddyn nhw ar gredyd (fel arfer mewn busnes, os byddwch yn gwerthu nwyddau i fusnes arall, byddwch yn rhoi 30 diwrnod iddyn nhw dalu) Credydwyr Masnach – pan fyddwch CHI/ EICH busnes CHI yn PRYNU ei GYFLENWADAU ar GREDYD MASNACH (eto fel arfer 30 diwrnod i dalu). Nodiadau : Termau allweddol eraill…
Stoc - gwerth nwyddau sydd gan y busnes yn weddill yn ei adeilad pan mae’r fantolen yn cael ei hysgrifennu. Mae’n amcangyfrif gorau o werth nwyddau mewn siop neu ffatri pe bydden nhw’n cael eu gwerthu yn y 12 mis nesaf. Mwy o Asedau Cyfredol….
Nawr – Profi ein dealltwriaeth o’r fantolen yn fwy manwl…. Nawr gallwch chi brofi eich hunain drwy gyfrifo’r bylchau ar gyfer Jelly Bean Cyf a Piggy Cyf.
Yn y flwyddyn ganlynol, dychmygwch fod Genie Cyf wedi cael blwyddyn wael iawn a bod ei werthiant a’i elw yn gostwng £2,000 felly yr elw yw £3,000 Pa eitemau allai newid £2,000 ar ochr arall y fantolen? (fel yr ydym yn gwybod mae’n rhaid i’r fantolen fantoli bob amser) Cwestiwn herio - Dychmygwch ….
Pe bai rhywun yn ystyried buddsoddi mewn busnes, PAM y gallen nhw fod â diddordeb mewn gweld y fantolen? A oes unrhyw bethau PENODOL y bydden nhw’n edrych arnyn nhw yn y fantolen yn eich barn chi? Eglurwch pam rydych chi’n credu hynny…. Cwestiwn MAWR!
(* wrth arian, rydyn ni’n golygu gweddillion cyfrifon banc a sieciau hefyd) Liquidity Ystyr hylifedd yw PA MOR GYFLYM mae gan fusnes fodd i gael at ARIAN* er mwyn gallu gweithredu o ddydd i ddydd.
Os mai chi yw’r perchennog neu os ydych yn ystyried buddsoddi ynddo, mae gan fusnes DA hylifedd DA – sy’n golygu ei fod yn gallu TALU ei filiau bob amser! Mae’n bwysig gwybod hylifedd cwmni oherwydd ….?