350 likes | 528 Views
TGAU Hamdden a Thwristiaeth. Cyflwyniad i Hamdden a Thwristiaeth Uned 3. DALIER SYLW: Mae angen i osodiad diogelwch macro eich rhaglen PowerPoint fod ar ‘canolig’ er mwyn gallu cael y gweithgareddau Llusgo a Gollwng i weithio. Cliciwch flwch i ddewis gweithgaredd
E N D
TGAU Hamdden a Thwristiaeth Cyflwyniad i Hamdden a Thwristiaeth Uned 3 DALIER SYLW: Mae angen i osodiad diogelwch macro eich rhaglen PowerPoint fod ar ‘canolig’ er mwyn gallu cael y gweithgareddau Llusgo a Gollwng i weithio.
Cliciwch flwch i ddewis gweithgaredd (Mae ymyl coch i’r blwch yn dangos fod y gweithgaredd yn un rhyngweithiol). Gweithgareddau 13 1 7 19 25 2 20 8 26 14 3 21 15 9 27 16 10 4 22 28 5 11 23 17 29 6 12 18 24
Gweithgaredd 1 Defnyddiwch y wybodaeth ar dudalennau 123 i 126 o’r E-lyfr ar gyfer Uned 1 i gwblhau’r ymarferiad isod drwy lusgo’r gair neu’r ymadrodd cywir o’r bocs i’r tabl. Cliciwch a llusgwch yr atebion yma i’r blychau priodol ar y graff uchod buddran sector gwirfoddol sector cyhoeddus y gymuned elw ffioedd aelodaeth rhoddion sefydliadau masnachol Loteri Genedlaethol amcan
Gweithgaredd 2 Mae’n bwysig eich bod chi’n deall sut mae sefydliadau hamdden a thwristiaeth yn eich ardal chi yn gweithredu fel busnes. Efallai y gallwch chi ymweld â nifer o sefydliadau hamdden a thwristiaeth neu wneud ymchwil desg gan ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddysgu sut maen nhw'n gweithredu. Ar gyfer amrywiaeth o fusnesau hamdden a thwristiaeth yn eich ardal, chwiliwch: • Ym mha sector o’r diwydiant maen nhw’n gweithredu - cyhoeddus, preifat neu wirfoddol? • Beth yw amcanion y sefydliad? • Beth yw’r strwythur cyflogaeth - faint o reolwyr a gweithwyr cyflogedig eraill sydd yno? Beth yw teitl swydd y person sydd â’r prif gyfrifoldeb? • Sut mae’r sefydliad yn cael ei ariannu? Gall fod yn haws cael y wybodaeth hon am fusnes lleol yn hytrach na busnesau cenedlaethol neu ryngwladol hyd yn oed. Fel arfer, gwnewch restr o’r ffynonellaugwybodaeth rydych chi wedi’u defnyddio.
Gweithgaredd 3 • Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn enghraifft dda o sefydliad sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion. • Ewch i’r wefan www.nationaltrust.org.uk Defnyddiwch y ddolen ‘about us’ ar yr hafan i ddysgu am amcanion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ewch ati i grynhoi’r amcanion hyn neu baratoi cyflwyniad am waith yr ymddiriedolaeth. • 2. Cliciwch ar y ddolen ‘shop’ i weld pa gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Crynhowch yr amrywiaeth o gynhyrchion sydd ar gael. • Y ‘Cwestiwn Mawr’ yw: • Pam ei bod hi’n bwysig i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynyddu’r incwm drwy werthu cynhyrchion i ymwelwyr?
Gweithgaredd 4 • Meddyliwch am y sefydliadau hamdden a thwristiaeth yn yr ardal lle rydych chi’n byw. Nodwch bump sy’n gweithredu’n bennaf ar lefel leol, pump sy’n gweithredu’n bennaf ar lefel genedlaethol a phump sy’n gweithredu ar lefel ryngwladol. • Nodwch pam a sut y gall pob sefydliad weithredu ar raddfeydd gwahanol. • Gweithiwch gyda phartner i nodi pum peth rydych chi wedi’u dysgu am sut mae sefydliadau hamdden a thwristiaeth gwahanol yn gweithredu ar raddfeydd gwahanol. (Ymarferiad meddwl, paru a rhannu.)
Gweithgaredd 5 Trwy glicio’r bocsys gwyrdd ar ochr dde y tabl, dangoswch a yw’r datganiadau canlynol ynglŷn â gwaith a swyddogaethau adrannau gwahanol yn gywir neu’n anghywir. CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR
Gweithgaredd 6 Mae system fodern Canolfan Mileniwm Cymru yn golygu bod cwsmeriaid yn gallu archebu a thalu am docynnau ar-lein. Ewch i www.wmc.org.uk Dewiswch gynhyrchiad sy’n cael ei gynnal yn y dyfodol agos ac ewch drwy’r broses o archebu un sedd neu ddwy ar gyfer y digwyddiad. Eglurwch y broses archebu i’ch partner.
Gweithgaredd 7 Hyfforddwr tîm pêl-droed i fechgyn Hyfforddwr nofio sy’n gweithio gyda’r nos Nodwch ym mha flwch yn y tabl isod mae’r swyddi yn perthyn. Gyrrwr trên Trefnwr teithiau sy’n gweithio tri diwrnod yr wythnos Rheolwr teithio i grŵp roc Hyfforddwr personol sy’n ymweld â chwsmeriaid Gweinydd mewn tŷ bwyta Hyfforddwr saethyddiaeth a gyflogir ar gyfer rhaglen gweithgarwch yr haf Peilot awyren Rhywun sy’n helpu yn un o adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rheolwr gwesty Cynrychiolydd sy’n gweithio mewn canolfan sgïo
Gweithgaredd 8 Mae yna fanteision ac anfanteision wrth weithio gyda’r nos neu ar benwythnos. Hefyd, mae’n well gan rai pobl weithio shifftiau ac mae eraill yn hapus i dreulio amser oddi cartref fel rhan o’u gwaith. Nodwch y pethau da (manteision) a’r pethau drwg (anfanteision) am swyddi nad ydynt yn rhai ‘9 tan 5’. PETHAU DA PETHAU DRWG
Gweithgaredd 9 Darllenwch y darn isod a llenwch y bylchau gan ddefnyddio’r geiriau yn y bocs ar waelod y dudalen. Buan iawn y sylweddolodd Jill fod strwythur y canolfannau hamdden mawr ble roedd hi newydd ddechrau gweithio yn gymhleth iawn. Roedd y Rheolwr Cyffredinol yn cyfarfod â phedwar uwch-reolwr arall i wneud penderfyniadau strategol . Hwn oedd y tîm uwch-reoli . Roedd y rheolwr cyffredinol yn gyfrifol am bron i 100 o bobl a oedd yn gweithio yn y ganolfan. Dyma oedd ei rychwant rheoli ef. Roedd gan yr uwch-reolwyr yr awdurdod i wneud y penderfyniadau pwysicaf. Ei rheolwr uniongyrchol/ rheolwr llinell oedd Matthew. Roedd e’n gyfrifol am wasanaeth i gwsmeriaid yn y ganolfan hamdden. Roedd yr adran hon neu’r maes swyddogaethol hwn yn bwysig iawn. Eglurodd Matthew i Jill fod ganddi’r hawl i wneud llawer o benderfyniadau ei hun. Eglurodd fod rhoi grym (empowerment) i staff yn bwysig iawn i’r ganolfan. Dywedodd Matthew ei fod yn hapus i drosglwyddo penderfyniadau, neu ddirprwyo cyfrifoldeb iddi hi. awdurdod rhychwant rheoli maes swyddogaethol rheolwr llinell strategol tîm uwch-reoli rhoi grym dirprwyo
Gweithgaredd 10 Meddyliwch am sefydliad hamdden neu dwristiaeth rydych wedi’i astudio, a llenwch y tabl isod gan enwi 6 swydd, rhoi disgrifiad cryno o’r swydd a nodi os mai rheolwr, goruchwyliwr neu weithredwr sy’n gwneud y swydd. Enw’r sefydliad
Gweithgaredd 11 Ar gyfer pob un o’r sefyllfaoedd isod, nodwch y sgil mwyaf priodol a llusgwch y gair i’r bocs cywir. sgiliau cyfathrebu sgiliau technegol hyblygrwydd a gallu i addasu sgiliau rhyngbersonnol arwain a rheoli gwaith tîm sensitifrwydd amlddiwylliannol sgiliau dadansoddi datrys problemau cynllunio a threfnu
Gonestrwydd a bod yn Ddidwyll Y Gallu i Addasu a Hyblygrwydd Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.
Ymroddiad a Gwaith Caled Dibynadwy Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.
Teyrngarwch Agwedd a Chymhelliant Cadarnhaol Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.
Proffesiynoldeb Hunanhyder Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.
Parodrwydd i ddysgu Hunan-gymhelliant Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.
Dangos/ cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 13 Ysgrifennwch lythyr yn egluro pam eich bod yn ymgeisydaddas ar gyfer y swydd hon, gan gyfeirio at y sgiliau a’r rhinweddau ar y daflen wybodaeth.
Gweithgaredd 14 Mae parciau thema yn enghraifft amlwg o sefydliadau hamdden a thwristiaeth mawr sy’n darparu amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau. Defnyddiwch y wefan www.legoland.co.uk i nodi a disgrifio pob un o’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau yn y lluniau isod.
Gweithgaredd 15 Defnyddiwch wefannau a ffynonellau gwybodaeth eraill i lunio crynodeb o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a ddarperir gan brif atyniad neu gyfleuster hamdden yn eich ardal chi. Enw’r atyniad:
Gweithgaredd 16 Meddyliwch am dair eitem a ddefnyddiwch ar gyfer hamdden yn y cartref. Nodwch beth ydynt a sut rydych chi’n eu defnyddio. Eitem 1: Eitem 2: Eitem 3:
Gweithgaredd 17 Llusgwch y term cywir i’r bocs sy’n cyfateb i’r disgrifiad/eglurhad. Arolygon ffôn Segmentu ar sail oedran Arolygon Datblygu cynhyrchion Marchnata Cynhyrchion anghyffyrddadwy Hysbysu cwsmeriaid Segmentu daearyddol Grŵp ethnig Ffordd o fyw Casglu a dadansoddi data
Gweithgaredd 18 Ar gyfer pob un o’r datganiadau isod, ysgrifennwch ddwy frawddeg arall am y pwnc. Mae arolygon yn ddull cyffredin o gasglu gwybodaeth ar gyfer ymchwil marchnata. Mae’n bosibl segmentu marchnad mewn sawl ffordd. Mae marchnata yn broses eang sy’n cynnwys sawl cam. Mae marchnata yn ymwneud â pherswadio cwsmeriaid i brynu cynnyrch.
Gweithgaredd 19 Defnyddiwch wefannau sefydliadau hamdden a thwristiaeth mawr i fewnforio delweddau neu logos i’r bocsys isod.
Gweithgaredd 20 Ymchwiliwch i bedwar sefydliad hamdden a thwristiaeth gwahanol sy’n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion. Llenwch y tabl isod drwy ddangos y prisiau a godir gan y sefydliadau ar gyfer pedwar cynnyrch gwahanol.
1 6 2 7 3 8 4 9 5 10 Gweithgaredd 21 Meddyliwch am 10 ffaith rydych chi wedi’u dysgu am y Cymysgedd Marchnata yn yr adran hon ac ysgrifennwch frawddeg fer am bob un.
Gweithgaredd 22 Casglwch amrywiaeth o hysbysebion ar gyfer cynhyrchion hamdden a thwristiaeth sy’n cael eu defnyddio i hyrwyddo gwerthiant. Awgrymwch pam y byddant yn llwyddo i helpu i werthu’r cynnyrch.
Gweithgaredd 23 Casglwch bedair enghraifft o ddeunydd hyrwyddo o sefydliadau hamdden a thwristiaeth gwahanol, gan gynnwys un wefan. Defnyddiwch AIDA i nodi pam y mae pob un yn effeithiol. Os yw’n bosibl, awgrymwch sut y gellid gwella pob un o’r deunyddiau.
Gweithgaredd 24 Cynlluniwch daflen ar gyfer digwyddiad mewn atyniad yn eich ardal chi. Eglurwch pam y bydd y deunydd hyrwyddo yn effeithiol yn eich barn chi. Gallwch werthuso’ch deunydd drwy ddefnyddio AIDA.
Gweithgaredd 25 Defnyddiwch y tabl isod i lunio dadansoddiad SWOT ar gyfer sefydliad hamdden a thwristiaeth sy’n gyfarwydd i chi. Enw’r sefydliad:
Gweithgaredd 26 Rhowch saith cam y broses werthu yn y drefn gywir. Gwybodaeth dda am y cynnyrch Iaith gorfforol dda Gwasanaeth ôl-werthu Meithrin perthynas Derbyn a phrosesu’r taliad Cyfarchiad dymunol Taro bargen
Gweithgaredd 27 Ar gyfer sefydliad hamdden a thwristiaeth rydych wedi’i astudio, llenwch y tabl isod ag enghreifftiau o sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid a allai godi. Enw’r sefydliad:
Gweithgaredd 28 Gweithiwch gyda phartner. Meddyliwch am ddwy sefyllfa lle rydych chi, neu’ch teulu, wedi derbyn gwasanaeth i gwsmeriaid da neu wael. Dywedwch wrth eich partner am eich dwy enghraifft a gwrandewch ar enghreifftiau’ch partner. Dewiswch yr enghraifft orau o’r pedair a’i rhannu gyda gweddill eich dosbarth.
Gweithgaredd 29 Llusgwch y termau cywir i’r rhannau cywir o’r tabl. Deddfau a Rheoliadau Deddf Diogelwch Meysydd Chwarae Perygl Risg Dyletswydd gofal Codau Ymarfer Terasau Mesurau Iechyd a Diogelwch Deddf Trwyddedu Gweithgareddau Antur Symud pobl o le peryglus i le diogel