1 / 5

gan Des Quinn a Martin Williams

Yr eiddoch yn gywir Bert. gan Des Quinn a Martin Williams. Yn anffodus wyddon ni ddim pwy oedd Bert. Roedd yn un o’r miloedd o ddynion ifanc a aeth o Gymru i ymladd ym meysydd Ffrainc a Fflandrys.

Download Presentation

gan Des Quinn a Martin Williams

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Yr eiddoch yn gywir Bert gan Des Quinn a Martin Williams

  2. Yn anffodus wyddon ni ddim pwy oedd Bert. Roedd yn un o’r miloedd o ddynion ifanc a aeth o Gymru i ymladd ym meysydd Ffrainc a Fflandrys. Mae’r bathodyn ar ei gap yn dweud ei fod yn aelod o’r Gatrawd Gymreig ac roedd rhan bwysig gan fataliynau o Gymru ym Mrwydr Mametz Wood ym mis Gorffennaf 1916. Gallai Bert fod yn un o’r milwyr hynny. Ffotograff trwy garedigrwydd M. Williams Byddai gan Bert stôr o wybodaeth am hanes y milwyr o Gymru ar y Ffrynt Gorllewinol a’r amodau erchyll a brofodd y milwyr hynny wrth fyw ac ymladd yn y ffosydd.

  3. Os y byddai Bert wedi bod ym Mametz Wood, meddyliwch beth fyddai ganddo i’w ddweud ar fore 12 Gorffennaf pan gafodd y goedwig ei chlirio o’r diwedd gan filwyr o’r 21ain Adran. Roedd y milwyr o Gymru wedi bod yn ymladd yn erbyn yr Almaenwyr o fewn y goedwig er 7 Gorffennaf. Ar 7 Gorffennaf yn unig collodd y 38ain Adran (Gymreig) 400 o filwyr wrth i ynnau mawr a gynnau peiriant yr Almaenwyr eu torri i lawr wrth iddynt symud ymlaen. Collodd tri theulu ddau frawd yr un yn ystod yr ymosodiad ar y goedwig y diwrnod hwnnw. Ar 10 Gorffennaf gwnaed ymosodiad uniongyrchol arall yn erbyn y goedwig, a thrachefn collwyd llawer o filwyr, wedi’u saethu gan ynnau peiriant a thaniadau ‘cyfeillgar’ o ynnau mawr Prydain a gwympodd ymysg y milwyr wrth iddynt symud ymlaen i gyfeiriad y coed.

  4. Ar 11 Gorffennaf, bu ymosodiadau eraill, ar ymylon gogleddol a dwyreiniol y goedwig y tro hwn. A hwythau wedi ymlâdd yn hollol, rhaid oedd tynnu llawer bataliwn allan o’r frwydr a rhoi rhai o’r milwyr wrth gefn yn eu lle. Fel y digwyddodd ar 10fed, dechreuodd gynnau mawr Prydain danio a bu raid i’r milwyr o Gymru gysgodi mewn tyllau siel am oriau cyn mynd ymlaen â’u hymosodiad, a hynny yn erbyn gwrthwynebiad ffyrnig o du’r Almaenwyr. Colledion y 38ain Adran ym Mametz Wood: Swyddogion Milwyr Eraill Lladdwyd 46 556 Clwyfwyd 138 2,668 Ar goll 6 579 Cyfanswm 190 3,803 Pam y gwnaeth milwyr y 38ain Adran barhau i ymosod ar goedwig Mametz er iddynt ddioddef colledion enfawr?

  5. Dychmygwch beth fyddai gan Bert i’w ddweud am yr ymosodiad ar Mametz Wood, sut y byddai’n teimlo a sut y byddai’n disgrifio ei brofiadau. Oherwydd sensoriaeth ni fyddai’n gallu ysgrifennu llawer am yr hyn a ddigwyddodd, ond beth os y byddai wedi ysgrifennu llythyr manwl gartref, neu dudalen o ddyddiadur, nad oedd bwriad ganddo i’w postio. Byddai llawer o gardiau a llythyrau’n cael eu cadw heb eu postio, a’u rhoi i aelodau o’r teulu ac anwyliaid gan ffrindiau pan fyddent yn mynd adref ar wyliau. Chi yw Bert. Ysgrifennwch lythyr, neu gyfres o nodiadau o ddyddiadur, yn disgrifio’r paratoadau ar gyfer yr ymosodiad ar Mametz Wood, a’r ymosodiad ei hun. * Sut y gwnaeth eich bataliwn baratoi ar gyfer y frwydr? Beth roeddech chi’n ei ddisgwyl?* Sut roeddech chi’n teimlo cyn y frwydr a phan welsoch y milwyr cyntaf yn mynd ymlaen?* Beth ddigwyddodd yn ystod y frwydr? Pa ddigwyddiadau sy’n sefyll yn y cof?* Sut roeddech chi’n teimlo ar 12 Gorffennaf pan ddaeth y frwydr i ben?

More Related