200 likes | 468 Views
Philip Proger. 1585 - 1644. Gweithgaredd Ysgrifennu Creadigol. Fy stori. Gweithgaredd Celf. Archwilio'r llun. Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol. Yr Ysgol Brydeinig neu Eidalaidd 17eg Ganrif. Cysylltau eraill. Manylion eraill. Fy Stori.
E N D
Philip Proger 1585 - 1644 Gweithgaredd Ysgrifennu Creadigol Fy stori Gweithgaredd Celf Archwilio'r llun Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol Yr Ysgol Brydeinig neu Eidalaidd 17eg Ganrif Cysylltau eraill Manylion eraill.
Fy Stori Fy enw yw PHILIP PROGER. Cefais fy ngeni ym 1585 ac rwy’n fab i WILLIAM PROGER, Aelod Seneddol dros Sir Fynwy yn Llywodraeth 1588. Mae gennyf un brawd, a’i enw yw DAVID PROGER. Mae fy nheulu yn bobl bwysig yn Sir Fynwy. Pabyddion yw rhai aelodau o’m teulu tra bod eraill yn parhau’n Anglicaniaid. Mae gan fy nheulu ddau gartref – Gwern-vale ger Crughywel a Wern-ddu. Enw fy ngwraig yw MARY BRIGHTMER o Caistor St Edmund, Norfolk. Mae gennym bedwar o feibion - HENRY, VALENTINE, JAMES ac EDWARD. Mae pob un ohonynt yn Frenhinwyr ac yn Babyddion pybyr. Bûm yn wastrawd i Iago 1. Roedd hyn yn golygu fy mod yn was personol i’r Brenin ac roeddwn hefyd yn gyfrifol am arolygu’r ceffylau oedd yn eiddo i deulu brenhinol. Ers hynny, cefais fy mhenodi yn wastrawd y Siambr Gyfrin. Rwy’n falch iawn o’m treftadaeth Gymreig. Bu farw Philip ym 1644. Roedd yn Rhydychen yn cefnogi’r Brenhinwyr.
Philip Proger (1585-1644) Dyma bortread sy’n dangos golwg hyd ¾.
Philip Proger (1585-1644) Dyma bortread sy’n dangos golwg hyd ¾. Sut mae Philip yn teimlo, dybiwch chi? Sut hwyl sydd arno? Sut ydych chi’n gallu dweud?
Philip Proger (1585-1644) Dyma bortread sy’n dangos golwg hyd ¾. Sut mae Philip yn sefyll? A yw ei osgo yn dweud unrhyw beth amdano? Sut mae Philip yn teimlo, dybiwch chi? Sut hwyl sydd arno? Sut ydych chi’n gallu dweud?
Philip Proger (1585-1644) Dyma bortread sy’n dangos golwg ¾ hyd. Sut mae Philip yn sefyll? A yw ei osgo yn dweud unrhyw beth amdano? Sut hoffai Philip gael ei bortreadu, dybiwch chi? Sut mae Philip yn teimlo, dybiwch chi? Sut hwyl sydd arno? Sut ydych chi’n gallu dweud?
Sut gefndir sydd i’r llun a pham y dewiswyd hwn, yn eich barn chi?
Ei wyneb. Sut fyddech chi’n disgrifio mynegiant ei wyneb?
Ei wyneb. Sut fyddech chi’n disgrifio mynegiant ei wyneb? Am beth mae e’n meddwl, dybiwch chi?
Ei wyneb. Sut fyddech chi’n disgrifio mynegiant ei wyneb? Am beth mae e’n meddwl, dybiwch chi? Sut fyddech chi’n disgrifio ei groen?
Ei wyneb. Sut fyddech chi’n disgrifio mynegiant ei wyneb? Am beth mae e’n meddwl, dybiwch chi? Sut fyddech chi’n disgrifio ei groen? Pa gliwiau mae ei groen yn eu rhoi i ni am y gwaith roedd e’n ei wneud?
Pam, gredwch chi, fod Philip yn dal cenhinen? Y Genhinen.
Pam, gredwch chi, fod Philip yn dal cenhinen? Y Genhinen. Y llun hwn yw’r portread cynharaf y gwyddom amdano o Gymro yn dal cenhinen. Yn llysoedd y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, byddai’r Brenin a gwŷr y llys yn gwisgo cennin ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Dyma ddywedodd Iago am yr arfer hwn: ‘mae arfer y Cymry o wisgo cennin ar Ddydd Gŵyl Ddewi yn beth da a chlodwiw … mae’r Cymry yn gwisgo cennin fel eu baner ddewisol i gofio am frwydr fawr Tywysog Du Cymru’.
Fel gwastrawd i Iago I, fy ngwaith i oedd bod yn was personol i’r Brenin. Roeddwn i hefyd yn gyfrifol am arolygu’r ceffylau oedd yn eiddo i deulu brenhinol. Dychmygwch sut fywyd oedd gennyf ac ysgrifennwch adroddiad yn disgrifio diwrnod arferol yn fy hanes. Cofiwch fy mod yn aelod o’r brenhindy ac fy mod yn dod o deulu digon cyfoethog. Rwyf hefyd yn falch iawn o’m treftadaeth Gymreig. Gweithgaredd Ysgrifennu Creadigol I gael gwybod mwy am y bobl oedd yn gweithio gyda’r Teulu Brenhinol, cliciwch y cyswllt hwn – Brenhindy’r Tuduriaid a’r Stiwartiaid
Gweithgaredd Celf Paentiwch neu lluniadwch bortread o ffrind. Gofynnwch iddyn nhw eistedd/sefyll mewn osgo sy’n gwneud iddyn nhw edrych yn bwysig. Meddyliwch hefyd am y dillad y dylai testun eich llun eu gwisgo ac unrhyw eitemau y dylent eu dal. I gael gwybod mwy am sut i greu paentiad portreadol, cliciwch y cysylltau isod. Dyfrlliw Tiwtorial Portread
Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol Ydych chi’n gallu cofio sut lun yn union yw’r portread ohonof? Agorwch ffeil Proger Ar Chwâl (progermuddle.xbk) a cheisiwch ailosod y llun drwy ddewis y darnau cywir o blith y detholiad sydd ar gael a’u gosod yn y mannau cywir. Mae darnau o bortreadau eraill yn yr amgueddfa wedi eu cynnwys yma hefyd. Tynnwch lun o’m portread yn eich meddwl cyn i chi ddechrau. Pob Hwyl! Proger Ar Chwâl
Cysylltau eraill Gwefan Amgueddfa Genedlaethol Cymru Y Teulu Proger
Manylion Eraill Am y llun – Cyfrwng: olew ar gynfas Maint: 104.5 x 83.7 cm Cafwyd yn: 1988; Prynwyd. Y llun hwn yw’r portread cynharaf y gwyddom amdano o Gymro yn dal cenhinen. Ni wyddom pwy yw’r arlunydd ond mae ystum corff Philip Proger yn awgrymu arlunydd Eingl-Iseldiraidd.
Y Diwedd