260 likes | 451 Views
Hyfforddiant mewn cydraddoldeb rhywedd. Arfon Rhys Cymdeithas y Cymod www.cymdeithasycymod.org.uk. Gofalon . Larwm tân Allanfa dân ac ymarferiadau tân Tai bach a’i lleoliad Trefniadau coffi a cinio Dim ysmygu Parthau ysmygu. Cyflwyniadau. Cyfwelwch eich gilydd mewn parau i ddarganfod:
E N D
Hyfforddiant mewn cydraddoldeb rhywedd Arfon Rhys Cymdeithas y Cymod www.cymdeithasycymod.org.uk
Gofalon • Larwm tân • Allanfa dân ac ymarferiadau tân • Tai bach a’i lleoliad • Trefniadau coffi a cinio • Dim ysmygu • Parthau ysmygu
Cyflwyniadau Cyfwelwch eich gilydd mewn parau i ddarganfod: • Pam mae eich partner wedi dod heddiw • Beth yr hoffent ddysgu heddiw • Unrhyw ofnau neu ofalon ynglŷn â’r cwrs • Beth fyddai yn eich helpu i deimlo’n gyffyrddus ar y cwrs heddiw? • 10 munud
Nod ac amcanion Erbyn diwedd y cwrs byddwn yn :- • Deall y cysyniad o rywedd yn gymdeithasol • Gallu disgrifio y perthynas rhwng rhywedd a grym • Gewrthfawrogi yr angen am gydraddoldeb rhywedd • Adnabod anghenion ar gyfer cydraddoldeb rhywedd • Gwneud cynllun gweithredu ar gyfer cydraddoldeb rhywedd
Amserlen • Gwahaniaeth rhwng rhyw corfforol a rhywedd cymdeithasol • 11.15 Coffi - 15munud • Cydraddodeb rhywedd (15munud) • Trais a materion rhywedd (30munud) • Strategaeth (30munud) • 12.30 Cinio – 45munud • Dadansoddiad SWOT (30munud) • Prif-ffrydio rhywedd (40munud) • 3.00 Te – 15munud • Dadansoddiad SMART (30munud) • Dadansoddi grymoedd (30munud) • 4.00 Gwerthuso a Diwedd
Rheolau’r sesiwn • Oes yna rheolau ychwanegol i rhain ? • Diffodd ffôn symudol • Parchu amser- dechrau a diwedd prydlon • Parchu eich gilydd a’r hwylusydd • Siarad yn ddigon uchel i bawb glywed • Siarad un ar y tro • Cadw cyfrinachedd eich gilydd
Rhywedd = Gender Er mwyn gwahaniaethu’r cysyniad cymdeithasol o beth yw dynion a merched oddi wrth ryw biolegol bathwyd y gair “gender” yn Saesneg. Yn ystod y cwrs yma byddwn yn defnyddio • “rhywedd” am “gender” • “rhyw” am “sex”.
Beth yw rhywedd? Cysyniad cymdeithasol yw rhywedd, yn wahanol i ryw, sy’n ffaith biolegol. Rhywedd yw’r strwythur sy’n cyfyngu ar rym dynion a merched i wneud dewisiadau rhydd. Rydym i gyd yn ddynion a merched yn cynorthwyo i gynnal y system yma gydol ein hoes drwy ein gweithgareddau.
Pa un o’r datganiadau yma sydd ar sail “rhyw” a pha un ar sail “rhywedd”? 1. Merched sy’n roi genedigaeth nid dynion. 2. Mae merched yn addfwyn a bechgyn yn galed. 3. Gall merched fwydo o’r fron. 4. Dynion yw y rhan fwyaf o weithwyr adeiladu. 5. Mae llais dynion yn torri ond nid yw llais merch yn gallu newid. 6. Dywed y CU mai merched sy’n gwneud 67% o waith y byd ac eto nid ydynt yn ennill ond 10% o incwm y byd.
Dau agwedd ar rywedd 1. Gwahanu Mae y farchnad lafur wedi ei wahanu i swyddi merched megis maes gofal a swyddi technolegol yn bennaf ar gyfer dynion. 2. Hierarchaeth Mae dynion yn cael cyflogau uwch ar gyfartaledd a ceir llai o ferched yn y swyddi uchaf mewn sefydliadau.
Sbectol rhywedd Mae ‘sbectol rhywedd’ yn enw ar y cysyniad o edrych drwy sbectol ar gymdeithas. • Drwy un llygad y sbectol gwelwn anghenion, cyfranogiad a realaeth merched a drwy’r llygad arall cyfranogiad, anghenion a realaeth dynion. • Rydych yn gallu gweld y darlun cyfan drwy’r ddwy lygad gyda’i gilydd. • Mae angen partneriaeth cyfartal rhwng dynion a merched.
Cydraddoldeb rhywedd Rhaid i ferched a dynion gael yr un grym i newid cymdeithas a’i bywydau ei hunain. Hynny yw:- 1. Cydraddoldeb grym a dylanwad. 2. Cydraddoldeb economaidd rhwng dynion a merched. 3. Dylai gwaith tŷ a gofal di-dâl gael eu rhannu’n gyfartal fel bod dynion a merched yn cael yr un cyfle i roi a derbyn gofal. 4. Rhaid i ddynion atal trais yn erbyn merched.
Mathau o drais • Gadael merched allan o’r sgwrs • Sylwadau sy’n bychanu merched • Dweud jôc rhywiol • Arddangos lluniau merched noeth yn y gweithle • Cyffwrdd neu dalu sylw di alw amdano • Gosod pwysau megis aflonyddu neu bwlio • Trais corfforol • Treisio
Sefyllfa o gydraddoldeb rhywedd Sef sefyllfa pan mae adnoddau a gwasanaethau ar gael i bawb yn gyfartal ac o’r un ansawdd i ddynion a merched. Gydag adnoddau a gwasanaethau wedi eu haddasu ar gyfer anghenion a phatrwm byw dynion a merched.
Cwestiynau i’w gofyn Oes yna rywbeth sy’n gwahanu’r ddau rywedd? Oes yna rywbeth sy’n gosod mwy o werth ar un rhywedd na’r llall? Ydi un rhywedd arbennig yn fwy cyffredin? Beth yw cynrychiolaeth y ddau rhywedd? Ydi adnoddau wedi eu dosbarthu yn gyfartal i’r ddau rhywedd?
SEGUR Gwneud dim. ---------------------------------------- RHAGWEITHIOL Creu cynllun gweithredu sy’n ceisio rhagweld digwyddiad allanol. Os nad yw’r digwyddiad hwnnw yn digwydd yna dydy’r cynllun ddim yn gweithio. ADWEITHIOL Creu cynllun gweithredu yn dilyn digwyddiad sy’n gorfodi adwaith.------------------------------------- GWEITHREDOL Creu cynllun gweithredu wedi ei seilio ar anghenion a blaenoriaethau’r sefydliad ei hun ar gyfer y dyfodol. Pedwar agwedd tuag at strategaeth
6 cam at brif lifo cydraddoldeb rhywedd Cam 1 - Datblygu dealltwriaeth o gydraddoldeb rhywedd Cam 2 - Canolbwyntio ar yr amodau ar gyfer prif lifo cydraddoldeb rhywedd Cam 3 – Cynllunio a threfnu gwaith datblygu cydraddoldeb rhywedd Cam 4 – Dadansoddi’r sefyllfa a chreu nodau o safbwynt cydraddoldeb rhywedd Cam 5 - Gweithredu’r cynllun Cam 6 - Gwerthuso canlyniadau’r newid o safbwynt cydraddoldeb rhywedd
Cylch Strategaeth 1.Deall cydraddoldeb rhywedd 7.Adolygu
Dadansoddiad SWOT • Cryfderau Beth sy’n cael ei wneud yn dda o ran cydraddoldeb rhywedd? • Gwendidau Beth sydd ddim mor dda? • Cyfleoedd Sut allwn ni fod yn gyfartal? • Bygythiadau Oes yna risg anghydraddoldeb rhywedd?
Risg Anghydraddoldeb rhywedd Medr hyn ddigwydd os ydym yn:- 1. Ceisio bod yn niwtral o ran rhywedd ac felly yn arwain at ddallineb rhywedd. 2. Dechrau o safbwynt un o’r rhyweddau ac felly addasu yn ôl anghenion y rhywedd yna yn unig. 3. Cael disgwyliadau gwahanol o ferched a dynion ac felly gosod cyfrifoldebau gwahanol yn ôl ein rhagfarn ni o sut dylai dynion a merched fod yn ymddwyn.
Symud ymlaen Mynd o A i B Rydym yn symud oddi yma i sefyllfa newydd dros amser Gadewch i ni feddwl beth hoffen ni weld yn newid
Cynllunio prif lifo rhywedd Cynllun Gweithredu • AMCANION • PERSON CYFRIFOL AM WEITHRED • DYDDIAD DECHRAU • DYDDIAD TARGED • ADNODDAU ANGENRHEIDIOL
Penodol: rhaid diffinio ein hamcanion yn glir Mesuradwy: rhaid gosod targed rhifyddol Cyraeddadwy: sicrhau adnoddau i’w wneud yn bosib Perthnasol: rhaid i’r amcan ychwanegu gwerth i’r cynllun Amser: gosod dyddiad targed
Dadansoddi grymoedd Mae pob newid yn boen a bydd pobl yn gwrthwynebu os ydynt yn gweld bygythiad. Felly beth yw’r grymoedd sydd o’n plaid a beth yw’r grymoedd negyddol yn ein herbyn. Dros newid Yn erbyn newid
Ydym ni wedi cyrraedd y nod? Erbyn diwedd y cwrs byddwn yn :- • Deall y cysyniad o rywedd yn gymdeithasol • Gallu disgrifio y perthynas rhwng rhywedd a grym • Gewrthfawrogi yr angen am gydraddoldeb rhywedd • Adnabod anghenion ar gyfer cydraddoldeb rhywedd • Gwneud cynllun gweithredu ar gyfer cydraddoldeb rhywedd
Unrhyw gwestiwn? Diolch!