480 likes | 688 Views
Hyfforddiant Rheoli Perfformiad i Lywodraethwyr. Amcanion y Sesiwn. Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol Deall rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol
E N D
Amcanion y Sesiwn • Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol • Deall rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol • Deall sut y mae rheoli perfformiad yn rhan o gyd-destun ehangach proses gwella'r ysgol • Deall gweithredu proses rheoli perfformiad y pennaeth gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau’r rheini sy’n rhan o’r broses
Diben Rheoli Perfformiad 'Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac arweinwyr timau ysgolion. Mae'n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr i gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a'u hadolygu yng nghyd-destun cynllun gwella'r ysgol. Mae'n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.' Canllawiau Llywodraeth Cymru Mai 2012
Y Broses Rheoli Perfformiad Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy: • ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles disgyblion; • gwerthfawrogi'r rôl hanfodol sydd gan athrawon; • ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • annog rhannu arfer da; • integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol.
Rôl Rheoli Perfformiad yn y Broses Gwella Ysgolion Mae Rheoli Perfformiad yn cefnogi:- • ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau • athrawon i ddiwallu anghenion plant a gwella safonau Mae Rheoli Perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i:- • ddatblygu'r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd • lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol
Y Cylch Gwerthuso • Cynllunio • Hunanddadansoddi • Dadansoddiad • Gosodamcanionstrategol Adolygu Hunanfyfyrio Cyfarfodadolygu Datganiadgwerthuso Gwerthuswr a Gwerthusai Monitro Adolygiadanffurfiolynystod y flwyddyn Arsylwiaddysgu Fynonellaucytunedigeraill o dystiolaethsy’nbriodolirôl yr athro Consortiwm De Orllewin a Chanolbarth Cymru
Y Polisi Rheoli Perfformiad ‘Dylai'r polisi osod fframwaith er mwyn i'r holl staff gytuno ac adolygu blaenoriaethau ac amcanion o fewn cyd-destun cynllun datblygu'r ysgol a'u hanghenion datblygu eu hunain. Bydd yn eu helpu gyda'r nod o ddatblygu'r holl staff a helpu, lle y bo'n addas, i godi safonau cyrhaeddiad i ddisgyblion.’ Rheoli Perfformiad i Athrawon LlC 073/2012
Y Polisi Rheoli Perfformiad Rhaid bod y polisi rheoli perfformiad yn glir ynghylch: • rhoi ar waith • disgwyliadau • blaenoriaethau • monitro ac asesu • adolygu
Elfennau Allweddol Polisi Rheoli Perfformiad Cyflwyniad: yr hyn y mae'r polisi'n ceisio'i gyflawni Rolau a chyfrifoldebau Amserlen ar gyfer adolygiadau Y Cylch Rheoli Perfformiad Y Weithdrefn Apelio Cyfrinachedd Mynediad i ddeilliannau
Rolau a Chyfrifoldebau yn y Broses Rheoli Perfformiad Aelodau Allweddol Y corff llywodraethu/y corff priodol Y Pennaeth Gwerthuswr/ Gwerthuswyr Gwerthusai / Gwerthuseion Yr Awdurdod Lleol Llywodraeth Cymru
Cyfrifoldebau'rCorffLlywodraethu / CorffPriodol Rhaid i'r corff llywodraethu/cyrff perthnasol: adolygu a chytuno ar y polisi rheoli perfformiad yn flynyddol monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli perfformiad adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso rhoi unrhyw broses apelio ar waith cadw copi o ddatganiadau'r pennaeth am o leiaf 3 blynedd anfon copi o ddatganiad y pennaeth at y Prif Swyddog Addysg (PSA)
Cyfrifoldebau'rPennaeth o fewn y broses RheoliPerfformiad Dylai penaethiaid: adolygu a chytuno ar bolisi RhP gyda'r Corff Llywodraethu a'r ALl pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro yn yr ysgol a sicrhau bod gwerthuswyr yn cynnal eu cyfrifoldebau sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu sicrhau bod gan athrawon gynlluniau unigol a datblygiad proffesiynol a dargedir sy'n cefnogi gwella'r ysgol gyfan adrodd am effeithiolrwydd gweithdrefnau RhP yr ysgol yn flynyddol i'r corff llywodraethu cadw copi o'r holl ddatganiadau arfarnu dros y 3 blynedd ddiwethaf llunio adroddiad ysgrifenedig i'r corff llywodraethu ynghylch y broses RhP yn yr ysgol o leiaf unwaith y flwyddyn
RôlyrGwerthuswr/Gwerthuswyr(Athro, Pennaeth, Llywodraethwr, EnwebaiALl) Rhaid i Werthuswyr: Gytuno a chofnodi amcanion gyda'r gwerthusai Monitro ac adolygu perfformiad y gwerthusai trwy gydol y cyfnod Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol y gwerthuseion Paratoi'r datganiad gwerthuso blynyddol Gwneud argymhellion ysgrifenedig lle mae‘r gwerthusai’n gymwys am gynnydd tâl yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPCD), lle y bo'n addas.
Cyfrifoldebau'rGwerthuswr / Gwerthuswyr Maent yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy:- • gynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai • gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol • trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol • parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol) • cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai / gwerthuseion (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) • gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad • trefnu bod datganiad gwerthuso llawn neu ychwanegiad i'r datganiad gwerthuso ar gael i'r personél priodol
Rôl y Gwerthuseion(AthroneuBennaeth) Dylai'r gwerthuseion: drafod, cynllunio a gosod amcanion gyda'r gwerthuswr cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol
Cyfrifoldebau'r Gwerthuseion Rhaid i'r gwerthuseion: drafod a gosod amcanion gyda'r gwerthuswr / gwerthuswyr, cymryd sylw o gyd-destun yr ysgol, disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad cymryd rhan mewn trefniadau monitro cynnal a chadw cofnod datblygu ymarfer ac adolygu diweddar cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol
Yr Awdurdod Lleol Rhaid i'r Awdurdod Lleol: gymeradwyo polisi RhP yr ysgol enwebu un neu ddau o werthuswyr yr ALl i wasanaethu ar banel gwerthuso'r pennaeth ymgynghori â'r pennaeth ar enwebai/enwebeion yr ALl darparu enwebeion ar gyfer y broses apeliadau derbyn a chadw datganiad gwerthuso'r pennaeth wedi'i lofnodi a'i ddyddio am dair blynedd sicrhau bod gweithdrefnau gwerthuso yn eu lle i athrawon digyswllt
Cyfrifoldebau’r Corff Llywodraeth o ran Rheoli Perfformiad y Pennaeth Mae’n rhaid i’r corff llywodraethu / corff perthnasol: • Benodi Panel Gwerthuso i • adolygu rheoli perfformiad y pennaeth trwy banel gwerthuso • cytuno ar amcanion i’r pennaeth • cytuno ar ddatganiad gwerthuso blynyddol • monitro perfformiad y pennaeth yn rheolaidd • Cynnwys unigolyn/unigolion a enwebwyd o’r Awdurdod Lleol ym mhanel gwerthuso’r pennaeth ac yn y broses rheoli perfformiad • Sicrhau y cynhelir proses rheoli perfformiad y pennaeth yn unol â’r gofynion statudol
Rôl y Pennaeth yn ei Broses Rheoli Perfformiad ei hun • Trafod a gosod amcanion â’r gwerthuswyr • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu gan gynnwys:- • adolygu’i berfformiad ei hun trwy ddefnyddio’r safonau arwain • cynnal ei Gofnod Ymarfer, Adolygu a Datblygu • mynd i gyfarfodydd adolygu perfformiad o fewn y flwyddyn anffurfiol â’r panel gwerthuso • Awgrymu amcanion ar gyfer y cylch nesaf • Ystyried y datganiad gwerthuso • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol
Cyfrifoldebau’rPennaeth • Trafod gosod amcanion â’r panel gwerthuso yng nghyd-destun yr ysgol, y swydd-ddisgrifiad a’r safonau proffesiynol addas • Hwyluso’r broses trwy nodi a darparu data a thystiolaeth berthnasol o berfformiad • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu wedi’i ddiweddaru • Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol
Rôl y Panel Gwerthuso Mae’n rhaid i’r panel gwerthuso: gytuno ar amcanion â’r pennaeth a’u cofnodi monitro ac adolygu perfformiad trwy’r cylch trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol y pennaeth paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol rhoi copi o’r datganiad gwerthuso i’r Pennaeth, Cadeirydd y Corff Llywodraethu a’r Prif Swyddog Addysg rhoi copi o ddatganiad o amcanion y pennaeth i Estyn ar gais
Penodi’r Panel Gwerthuso Y corff llywodraethu i benodi o leiaf dau lywodraethwr Yr Awdurdod Lleol i benodi un neu ddau Yn ogystal, os mai pennaeth ysgol a chanddi gymeriad crefyddol sy’n cael ei werthuso, gallai’r Awdurdod Esgobaethol benodi gwerthuswr Lle bo’r amser y mae’r pennaeth yn ei dreulio yn addysgu’n rhan sylweddol o’i rôl, yna dylid ystyried cynnwys gwerthuswr a chanddo StatwsAthroCymwysedig(SAC) Ni ellir penodi yr un llywodraethwr yn werthuswr i’r pennaeth os yw’n athro neu’n aelod arall o staff yr ysgol
Enwebai/EnwebeionyrAwdurdodLleol Bydd yr Awdurdod Lleol yn: enwebu un neu ddau gynrychiolydd y byddai ganddynt fel arfer wybodaeth am yr ysgol, rôl y pennaeth ac am flaenoriaethau perthnasol yr Awdurdod Lleol lle bo’n briodol, rhoi ystyriaeth benodol i gynnwys gwerthuswr a chanddo Statws Athro Cymwysedig (SAC) ymgynghori â’r pennaeth ynghylch pwy fydd yn cael ei benodi’n werthuswr/gwerthuswyr
Trefniadau Rhanbarthol ar gyfer Penodi Enwebeion yr Awdurdod Lleol Bydd Prif Swyddog Addysg yr Awdurdod Lleol yn enwebu un gwerthuswr, ac mae’n cadw’r hawl i enwebu ail werthuswr: pan fo ysgol mewn amgylchiadau heriol pan fo ysgol mewn categori monitro Estyn ar gais y pennaeth trwy gytundeb â’r Prif Swyddog Addysg ar gais y Corff Llywodraethu trwy gytundeb â’r Prif Swyddog Addysg
Enwebai/EnwebeionyrAwdurdodLleol • Enwebai cyntaf yr Awdurdod Lleol fydd swyddog gwella ysgolion y consortiwm sy’n cyflawni’r monitro craidd a’r rôl her ar ran yr Awdurdod Lleol • Yr ail fydd gwerthuswr hyfforddedig sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellwyd yn y canllaw, a bydd yn un o’r canlynol: • swyddog yr Awdurdod Lleol o Awdurdod Lleol yr ysgol • swyddog Awdurdod Lleol o Gonsortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru • pennaeth cymheiriaid o Gonsortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru • Bydd Prif Swyddog Addysg yr Awdurdod Lleol yn sicrhau bod gan bob enwebai ddealltwriaeth gadarn o’r: • ysgol a’i chyd-destun • data perfformiad yr ysgol a gwybodaeth am yr ysgol • Safonau Arwain
Y CyfarfodGwerthusoBlynyddol • Mae’n rhaid i’r gwerthuswyr a’r pennaeth gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol er mwyn: • asesu’r graddau y mae’r • pennaeth wedi cyflawni’r amcanion ar gyfer y cylch • pennu a bu perfformiad llwyddiannus ar y cyfan o ran cadarnhau a yw’r pennaeth wedi cyflawni safonau’r penaethiaid – y safonau arwain • nodi’r angen am gymorth hyfforddiant a datblygiad ychwanegol • Dylid ystyried Ymarfer, Adolygu a Datblygu’r pennaeth wrth adolygu perfformiad
Dogfennaeth i’w hystyried yn ystod y Cyfarfod Gwerthuso Blynyddol Unrhyw ddata perfformiad a gwybodaeth berthnasol Cynllun Gwella Ysgolion Cofnod hunanwerthuso’r ysgol Cynllun yn dilyn arolygiad Estyn Y Safonau Arwain yn y Safonau Proffesiynol Diwygiedig ar gyfer Ymarferwyr Addysg yng Nghymru Deunydd perthnasol o adolygiadau’r awdurdod lleol gan gynnwys y matrics categoreiddio cenedlaethol
Dylidhefydystyried: Adolygu, trafod a chadarnhau tasgau, amcanion a safonau hanfodol y pennaeth Cydnabod cryfderau a chyflawniadau ac ystyried ffactorau y tu hwnt i’w reolaeth Cadarnhau’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn ystod adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Nodi meysydd i’w datblygu a sut y gwneir hyn Cydnabod anghenion datblygu proffesiynol Cytuno ar amcanion clir a chwblhau cynllun unigol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod
Gwneuddyfarniadau Mae’n rhaid i’r panel gwerthuso a’r pennaeth asesu: y graddau y cyflawnwyd yr amcanion a fu’r perfformiad ar y cyfan yn llwyddiannus ai peidio a yw’r pennaeth yn parhau i gyflawni safonau proffesiynol y pennaeth ar gyfer penaethiaid yr angen am hyfforddiant cymorth a datblygiad
ParatoiargyferyrAdolygiadPerfformiadBlynyddol Rhoi digon o amser ar gyfer yr adolygiad Mae’n rhaid rhoi gwybod i’r pennaeth yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 diwrnod ysgol ymlaen llaw Dylid anfon y Cofnod Ymarfer, Adolygu a Datblygu at y gwerthuswyr o leiaf 5 diwrnod cyn y cyfarfod adolygu
ParatoiargyferyrAdolygiadPerfformiadBlynyddol • Nodi cadeirydd ar gyfer y Panel Gwerthuso • Pennu sut y cedwir cofnodion a sut yr ysgrifennir y datganiad gwerthuso • Nodi data a thystiolaeth addas i’w defnyddio sydd yn cyd-fynd â’r rheoliadau • Penderfynu sut yr ystyrir yr amcanion o’r cylch blaenorol • Dylai’r pennaeth hunanfyfyrio cyn y cyfarfod • Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu
GosodyrAmcanion • Byddai tri amcan fel arfer yn ddigon • Dylai amcanion y pennaeth: • gyfrannu at wella cynnydd disgyblion yn yr ysgol • ystyried tystiolaeth berthnasol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol • canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu y gellir gwneud dyfarniadau yn seiliedig ar dystiolaeth arnynt
Mae’nrhaidi’ramcanionymwneudag:- arwain a rheoli’r ysgol swydd ddisgrifiad y pennaeth unrhyw feini prawf datblygiad cyflog perthnasol unrhyw amcanion sy’n berthnasol i’r ysgol gyfan neu dîm a nodwyd yn y cynllun gwella ysgol y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer penaethiaid fel y penodwyd gan Weinidogion Cymru unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol o ran gwella ysgolion a nodwyd gan Weinidogion Cymru
Dylai’ramcanionfodyn:- • Glir: ni ddylent achosi dim amwysedd na dryswch o ran y deilliant a fwriedir. • Cryno: defnyddio cyn lleied o eiriau â phosibl i gyfleu’r bwriad. • Mesuradwy: eu mynegi mewn ffordd lle bod modd cytuno ar y meini prawf a fydd yn dangos a yw’r amcan wedi’i gyflawni ai peidio. • Heriol: yn ddigon heriol, gan ystyried amgylchiadau’r ysgol, er mwyn sicrhau gwelliant sylweddol. • Datblygol: cefnogi gwelliant yr ysgol a’r gwerthusai
NodiDatblygiadProffesiynol Dylai’r cyfleoedd datblygu proffesiynol a nodwyd: gefnogi datblygiad gwybodaeth, sgiliau a galluoedd y pennaeth cefnogi amcanion y cytunwyd arnynt datblygu cryfderau mynd i’r afael â meysydd ar gyfer datblygu proffesiynol neu dwf proffesiynol
Y DatganiadGwerthuso Mae’n rhaid darparu datganiadau ysgrifenedig cyn pen 10 diwrnod ysgol Mae’n rhaid darparu anghenion hyfforddi a datblygu mewn atodiad Gall athro ychwanegu sylwadau at y datganiad cyn pen 10 diwrnod Bydd hyn yn ffurfio rhan o’r datganiad Mae’r datganiad Gwerthuso’n bersonol ac yn gyfrinachol
MonitroPerfformiad • Dylai gweithdrefnau monitro: • gael eu trafod a’u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio • cynnwys amrywiaeth o ddulliau • Dylai cynnydd gael ei fonitro drwy’r flwyddyn • Dylid casglu tystiolaeth addas ddigonol i sicrhau y llunnir barn gadarn • Mae’n rhaid i’r pennaeth gadw Cofnod Ymarfer, Adolygu a Datblygu wedi’i ddiweddaru
ArsylwiAddysguiBenaethiaid At ddiben rheoli perfformiad, mae’n rhaid i arsylwyr feddu ar Statws Athro Cymwysedig Dylid arsylwi yn ystod gwersi a gweithgareddau a drefnwyd ymlaen llaw Mae’n rhaid cael o leiaf 5 diwrnod ysgol o rybudd Mae’n rhaid arsylwi o leiaf unwaith y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad – gellir caniatáu mwy trwy gytundeb Rhoddir adborth cyn gynted â phosibl (fel arfer cyn pen 5 diwrnod ysgol) Dylid cofnodi canlyniad yr arsylwi, gan gynnwys adborth Dylid rhoi’r cyfle i’r pennaeth ychwanegu sylwadau
RheoliTanberfformiad Nid yw’r cyfarfod adolygu na’r datganiad gwerthuso’n ffurfio unrhyw ran o unrhyw gymhwysedd disgyblu neu weithdrefnau gallu Bydd rheoli llinell effeithiol â disgwyliadau clir a chymorth addas yn cynorthwyo i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw wendidau mewn perfformiad Gellir ystyried datganiadau gwerthuso gan y rheini sy’n gyfrifol am wneud penderfyniad o ran materion perfformio, cyflog, dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu
AmgylchiadauEithriadol Lle gwneir y penderfyniad i ymrwymo i gamau gweithredu cymhwyster neu allu ffurfiol, yna mae’r camau gweithredu hynny’n disodli’r trefniadau rheoli perfformiad Mae modd gohirio’r broses rheoli perfformiad ar unrhyw adeg
MonitroGweithgarwch Dylai fod amrywiaeth o weithgarwch monitro sy’n casglu tystiolaeth addas ddigonol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Mae modd casglu’r dystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys: • Cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y panel gwerthuso a’r pennaeth • Cofnod Ymarfer, Adolygu a Datblygu’r pennaeth • Cynllun Gwella Ysgol • Data a gwybodaeth am berfformiad yr ysgol • Proses barhaus hunanwerthuso’r ysgol • Arsylwi addysgu (lle bo’n addas)