40 likes | 204 Views
CYDUNWN OLL I GANU NAWR, 'Cariad yw Duw!' Daw s ŵ n y mawl o nef a llawr - 'Cariad yw Duw!' O purer ninnau fel trwy d â n, A seinied pawb y felys g â n, Yn ber er mwyn yr Iesu gl â n, 'Cariad yw Duw!'. O aed y geiriau led y byd, 'Cariad yw Duw!' Yng Nghrist fe gafwyd Prynwr drud,
E N D
CYDUNWN OLL I GANU NAWR, 'Cariad yw Duw!' Daw sŵn y mawl o nef a llawr - 'Cariad yw Duw!' O purer ninnau fel trwy dân, A seinied pawb y felys gân, Yn ber er mwyn yr Iesu glân, 'Cariad yw Duw!'
O aed y geiriau led y byd, 'Cariad yw Duw!' Yng Nghrist fe gafwyd Prynwr drud, 'Cariad yw Duw!' Ei waed sy'n golchi'n beiau mawr; Ei Ysbryd Ef dry'r nos yn wawr, A llon y d’wed eneidiau'r llawr, 'Cariad yw Duw!'
Mor ddedwydd yma yw ein stâd: 'Cariad yw Duw!' Ei addewidion sy'n fwynhad: 'Cariad yw Duw!' Efe yw'n Haul a'n Tarian gref, Yn oriau'r nos ein Craig yw Ef, Daw gyda ni ymhell o dref: 'Cariad yw Duw!'
Yn Seion canwn eto gân, 'Cariad yw Duw!' Hon fydd y gainc yn ddiwahân, 'Cariad yw Duw!' Ar hyd yr oesau maith di-ri' Yng nghôr y saint fe'i seinir hi, Hon fydd ein cân felysaf ni, 'Cariad yw Duw!' Howard Kingsbury cyf. Syr T.H.Parry-Williams