100 likes | 237 Views
SGILIAU SYRCAS : SGILIAU AR Y LLAWR. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC. GÊM UN. Gêm ystwytho corfforol. Titrwm , Tatrwm Sefwch mewn llinell yng nghanol y gofod gydag o leiaf droedfedd o fwlch rhwng pob un. Enw un ochr i’r gofod yw Titrwm ac enw’r ochr arall yw Tatrwm .
E N D
SGILIAU SYRCAS: SGILIAU AR Y LLAWR At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC
GÊM UN Gêm ystwytho corfforol Titrwm, Tatrwm • Sefwch mewn llinell yng nghanol y gofod gydag o leiaf droedfedd o fwlch rhwng pob un. • Enw un ochr i’r gofod yw Titrwm ac enw’r ochr arall yw Tatrwm. • Rhedwch i ba bynnag ochr o’r ystafell a elwir allan. Efallai bydd yr athro’n pwyntio i ochr wahanol i’r un a fydd yn ei galw allan. • Wedyn bydd eich athro’n galw dau gyfeiriad ar y tro, e.e. Titrwmtitrwm(chwaraewyr i redeg i Titrwm ac yn ôl i’r canol wedyn i Titrwm eto ac yn ôl i’r canol cyn sefyll).
GÊM DAU Gêm Cydsymud Pwyntio at y Gwningen • Codwch eich llaw dde i uchder ysgwydd, cau’r llaw yn ddwrn ond gadael eich dau fys cyntaf yn pwyntio i fyny’n syth. • Â’ch llaw chwith, pwyntiwch â’ch bys blaen at eich llaw dde. • Symudwch y ddwy law drosodd i’r dde, gyda’r llaw â’r ddau fys i fyny yn arwain y llaw sy’n pwyntio. • Wedyn newidiwch ddwylo fel bod y llaw dde bellach yn pwyntio at eich llaw chwith, a dau fys cyntaf y llaw honno bellach yn pwyntio i fyny. • Ailadroddwch y symudiad gan gyflymu’n raddol.
GÊM TRI Gêm Canolbwyntio Syrcas, Poi, Pêl Gerdded • Sefwch mewn cylch. Mae un person yn cychwyn drwy ddweud “syrcas” a chlapio unwaith wrth y person ar y chwith. Ar ôl i bawb ddweud “syrcas” a chlapio unwaith o amgylch y cylch a’ch bod yn ôl gyda’r person cyntaf, wedyn gellir defnyddio “poi”. • Pan fydd rhywun yn anfon y clap atoch, gallwch ei anfon yn ôl i’r cyfeiriad y daeth drwy groesi’ch breichiau ar eich brest a dweud “poi”. Wedyn rhaid i’r sawl a gafodd y “poi” naill ai anfon y clap yn ôl y ffordd arall neu roi “pêl gerdded” i rywun. • Gallwch anfon “pêl gerdded” at rywun yn y cylch, ar wahân i’r ddau berson sydd nesaf atoch chi ar y naill ochr a’r llall, drwy chwifio’ch breichiau’n syth allan o’ch blaen at y sawl rydych yn ei hanfon ato. • Wedyn gall y sawl sy’n derbyn y bêl gerdded naill ai anfon “pêl gerdded” at rywun arall neu anfon clap “syrcas” i’r chwith neu i’r dde. • Allwch chi ddim ateb pêl gerdded â “poi”.
SGÌL UN Troelli Platiau • Ffon Syth – canolbwyntiwch ar gadw’r ffyn yn fertigol bob amser. • Dwy law – dylid ymarfer â’r ddwy law. • Symudiad cylchol – ymarferwch symudiad cylchol da o’r arddwrn a blaen y fraich. • Troellwch y platiau’n gyflymach a chyflymach nes taro’r pwynt canol.
SGÌL DAU Rhubanau • Arbrofi – chwyrlïwch y rhuban o gwmpas i weld sut mae’n teimlo a sut mae’n ymateb i’ch symudiadau. • Lefelau – ceisiwch chwyrlïo ar wahanol uchderau/planau i gael mwy o effaith weledol. • Ymarfer â dwy law – newidiwch ddwylo wrth roi cynnig ar driciau newydd er mwyn gallu defnyddio’r ddwy ar yr un pryd.
SGÌL TRI Blychau Sigâr • Ymarfer ailafael – ymarferwch afael yn y blychau sigâr mewn gwahanol safleoedd. • Taflu a dal – ymarferwch daflu a dal y blychau sigâr i’r ddau gyfeiriad. • Troelli – ymarferwch droi’r blychau i’r ddau gyfeiriad.
Sgiliau uwch a dilyniant • Ar ôl treulio ychydig o amser yn mynd trwy’r sgiliau sylfaenol, bydd eich athro/athrawes yn siarad â chi i weld pa driciau newydd yr hoffech eu dysgu ac yn cynnig cyngor ynghylch pa dechnegau sydd orau i’w hymarfer. • Wrth ganolbwyntio ar un tric newydd am sesiwn, byddwch yn aml yn gallu ei ddysgu erbyn diwedd y wers, a byddwch yn teimlo ichi gyflawni rhywbeth.
Creu trefniant sylfaenol • Mae creu trefniant yn rhan hanfodol o berfformio syrcas, felly syniad da iawn yw dysgu’r sgiliau sylfaenol nawr. • Perfformiwch y triciau y rydych chi’n gyfforddus â nhw yn gyntaf, cyn gorffen gyda’r tric newydd y buoch chi’n ei ymarfer yn y sesiwn honno.
Dangos yr hyn a ddysgwyd • Mae perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfa’n hanfodol hefyd wrth ddysgu syrcas. • Cynhaliwch sioe fach ar ddiwedd pob sesiwn lle gall pob un berfformio yn ei dro, yn unigol, fesul dau neu mewn grwpiau. • Bydd hyn yn gwella eich presenoldeb llwyfan yn aruthrol ac yn helpu lleihau nerfau yn y dyfodol. • Mae’n bwysig eich bod yn gefnogol iawn i’ch cyd-berfformwyr yn y rhan hon o’r sesiwn.