120 likes | 290 Views
EIN BRWYDR YN ERBYN BACTERIA… Stori gwrthfiotigau. ‘Gwyddom fod rhai bacteria yn gallu eich gwneud yn sâl, a bod rhai meddyginaethau yn gallu eich gwella – ond rydym eisiau gwybod mwy!’. ‘Rydym yn mynd i geisio canfod gymaint ag a allwn am facteria a meddyginaethau sydd yn ein gwneud yn well.’.
E N D
EIN BRWYDR YN ERBYN BACTERIA…Stori gwrthfiotigau ‘Gwyddom fod rhai bacteria yn gallu eich gwneud yn sâl, a bod rhai meddyginaethau yn gallu eich gwella – ond rydym eisiau gwybod mwy!’ ‘Rydym yn mynd i geisio canfod gymaint ag a allwn am facteria a meddyginaethau sydd yn ein gwneud yn well.’
Microbau – da a drwg! Edrychwch o’ch cwmpas. Mae bacteria ym mhob man – ond allwch chi ddim eu gweld. Pethau byw bychan iawn yw bacteria, mor fach nes y byddai biliynnau ohonynt yn ffitio ar lwy de!
Ni all y rhan fwyaf o facteria wneud unrhyw niwed i ni, ac mae rhai bacteria yn ddefnyddiol iawn. Maent yn ein helpu i wneud meddyginaethau. Rydym yn eu defnyddio i wneud bwydydd fel caws a iogwrt. Maent hefyd yn helpu i wneud bwyd gwartheg (silwair) allan o wair.
Mae bacteria yn helpu i drin carthion (y gwastraff o’n toiledau), sydd yn waith pwysig iawn. Maent hefyd yn rhan o’r broses lle bydd pethau’n pydru – dail marw, anifeiliaid a phlanhigion.
Gall rhai bacteria eich gwneud yn sâl. ‘Dydi afiechydon fel tonsilitis ddim yn rhy ddifrifol ond mae miliynau o bobl ar draws y byd wedi marw o afiechydon fel difftheria, tiwberciwlosis a niwmonia - sydd i gyd yn cael eu hachosi gan facteria. Gall bacteria fod yn gyfrifol am heintiau ar ôl i fam eni babi, ar ôl i berson gael briw, neu hyd yn oed ar ôl cael llawdriniaeth.
Mae afiechydon wedi eu hachosi gan facteria yn heintus - mae hyn yn golygu y gallant gael eu trosglwyddo gan un person i’r llall. Mae bacteria sydd yn achosi heintiau yn gallu cael eu trosglwyddo o’r naill berson i’r llall yn yr aer y byddwn yn ei anadlu, trwy’r pethau y byddwn yn eu cyffwrdd, a hyd yn oed yn y dwr y byddwn yn ei yfed a’r bwyd y byddwn yn ei fwyta.
Mae bacteria yn rhan o grŵp o organebau bychain a elwir yn ficro-organebau neu ficrobau. Mae micro-organebau yn cynnwys ffwng, fel y llwydni ar yr oren yma. Er bod rhai ffwng yn achosi salwch megis tarwden y traed (athlete’s foot), mae rhai cwbl ddiniwed hefyd. Mae rhai ffwng yn arbennig o ddefnyddiol – rydym yn bwyta madarch ac yn defnyddio burum, ffwng arall, i wneud bara, gwin a chwrw.
Mae firysau yn fathau gwahanol o ficrobau. Maent oll yn achosi afiechydon.
Am filoedd o flynyddoedd roedd pobl yn methu gwarchod eu hunain rhag afiechydon a achoswyd gan facteria a microbau eraill. Os oedd pobl yn mynd yn sâl, rhaid oedd gofalu amdanynt tan iddynt wella neu farw. Gobeithio am y gorau yr oedd pawb.
Tua chan mlynedd yn ôl dechreuodd y sefyllfa wella. Erbyn hyn mae gennym rai meddyginiaethau da iawn i’n gwarchod rhag afiechydon - cemegau arbennig y byddwn yn eu galw’n wrthfiotigau. Mae’r rhain yn lladd bacteria a’n gwneud yn well.
EIN BRWYDR YN ERBYN BACTERIA… Stori gwrthfiotigau ‘Edrychwch ar y storïau canlynol. Rydym wedi canfod bod llawer o feddyginaethau yn gwella afiechydon a achoswyd gan facteria - ond rydym yn dal eisiau gwybod mwy!’ • Brwydro yn erbyn afiechydon trwy’r oesoedd • Cemegau i ladd bacteria • Penisilin – stori un feddyginaeth • Meddyginaethau ar gyfer y dyfodol - chwilio am wrthfiotigau newydd