230 likes | 428 Views
Datblygiad Cynaliadwy yn yr Amason. Beth yw cynaliadwyedd?. Datblygiad Cynaliadwy. Ystyr datblygiad cynaliadwy yw bod dyn yn gallu elwa o gynhyrchion y goedwg law heb ei dinistrio yn y broses.
E N D
Datblygiad Cynaliadwy yn yr Amason Beth yw cynaliadwyedd?
Datblygiad Cynaliadwy Ystyr datblygiad cynaliadwy yw bod dyn yn gallu elwa o gynhyrchion y goedwg law heb ei dinistrio yn y broses.
“Mae’n amhosibl i ni adael yr Amason fel y mae hi. Mae gennym boblogaeth o 25 miliwn sy’n byw yn y goedwig ac sydd angen cefnogaeth. Pe byddem ni’n penderfynu rhwystro unrhyw fath o ddatblygiad, fe fyddai pobl yn darganfod ffyrdd anghyfreithlon i ddefnyddio’r goedwig law ac fe fyddai datgoedwigo yn cynyddu. Mae’n rhaid parhau i ddefnyddio’r goedwig law ond mae’n rhaid ei defnyddio mewn ffyrdd cynaliadwy.” • Llywodraeth Brasil
Dyma enghreifftiau o ffyrdd anghynaliadwy o ddatblygu’r goedwig law. Logio coed Ransio Gwartheg Ffermio Torri a Llosgi Mwyngloddio Cynhyrchu Trydan-dwr
Pam mae angen cynaliadwyedd? .
Plannu Coed • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr.
Plannu Coed • Mae torri coed yn weithgaredd anghynaliadwy o fewn y goedwig law ond pe bai pawb yn plannu coed yn eu lle ar ôl eu torri nhw, fe fyddai’r goedwig law yn byw yn hirach. • Er mwyn bwydo eu hunain a’u teuluoedd, bydd ffermwyr yn plannu cnydau sy’n tyfu’n gyflym ar ddarn o dir sydd wedi ei ddatgoedwigo. • Bydd coed sy’n tyfu’n arafach yn cael eu plannu mewn rhesi rhwng y cnydau. Mewn rhai blynyddoedd, fe fydd ffermwyr yn gallu gwneud bywoliaeth o ffrwythau’r coed. • Yna, bydd coed sy’n cymryd blynyddoedd i dyfu a sy’n werthfawr iawn er enghraifft mahogani yn cael eu plannu yma ac acw. • Drwy wneud hyn, mae’r goedwig law yn cael ei ail-phlannu ond mae pobl yn gallu ei defnyddio o hyd.
Tapio Rwber • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr
Tapio Rwber • Mae hinsawdd y goedwig law yn berffaith ar gyfer tyfu coed rwber. Gall tapwyr rwber gasglu latecs o’r coed heb dorri’r goeden i lawr. Gellir allforio’r latecs yma i wledydd mwy datblygedig ac fe fydd hyn yn helpu i ddileu dyled y wlad. • Mae tapio rwber yn weithgaredd traddodiadol yn y goedwig, mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd. • Mae rwber synthetig sydd wedi ei wneud o olew yn cael ei gynhyrchu yn ddiweddar ac felly mae’r galw am latecs wedi disgyn.
Tapio Rwber • Meddyliwch am nwyddau a ddefnyddiwch chi bob dydd sydd wedi eu cynhyrchu o rwber. • Beth yw manteision defnyddio latecs dros rwber synthetig?
Rheoli Datgoedwigo • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr
Rheoli Datgoedwigo • Mae’r llywodraeth bellach yn ceisio rheoli yn union faint o goed gaiff eu torri yn yr Amason. Mae torri coed wedi ei wahardd yn gyfan gwbl o rai ardaloedd. Mewn ardaloedd eraill gellir torri rhai o’r coed ond dim pob un. • OND, mae’n rhaid plannu coed newydd yn eu lle bob tro.
Eco Dwristiaeth • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr
Eco Dwristiaeth • Mae gan nifer o bobl o amgylch y byd ddiddordeb yn y goedwig law ond tan yn ddiweddar, mae wedi bod yn anodd iddynt ymweld â’r lle. • Mae cwmniau eco dwristiaeth wedi dod yn boblogaidd yn ddiweddar gan eu bod yn sicrhau nad yw eu gwyliau yn effeithio ar yr amgylchedd o gwbl. • Mae nifer o ffyrdd o wneud hyn e.e. defnyddio cynnyrch lleol, mynd â grwpiau bychain o bobl, cyflogi pobl lleol a sicrhau eu bod yn cael y cyflogau maent yn eu haeddu. • Mae gwyliau cwmnïau eco-dwristiaeth yn costio ychydig mwy na gwyliau arferol, ond mae’r rhan helaeth o bobl yn fodlon talu’r gost ychwanegol os yw’n golygu bod yr amgylchedd yn cael ei warchod.
Eco-Dwristiaeth • A hoffech chi fynd ar eich gwyliau i’r Amason? Pam? • Fyddech chi’n fodlon talu côst ychwanegol er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod? • Ydych chi’n cytuno bod twristiaeth yn ffordd dda o ddod ag arian i bobl y goedwig law neu ydych chi’n meddwl y dylai pobl gael swyddi mwy traddodiadol?
Prosesu Nwyddau • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr
Prosesu Nwyddau • Gall trigolion y goedwig law wneud arian drwy werthu’r nwyddau crai maen nhw’n eu tyfu. Ond, gallant wneud mwy o arian drwy brosesu’r nwyddau yma cyn eu gwerthu. • Er enghraifft, gallant gael mwy o arian am gypyrddau sydd yn barod i’w gwerthu na allant gael am goeden sydd angen ei thrin. • Mae nifer o bobl bellach wedi sefydlu ffatrïoedd bychain sydd yn prosesu nwyddau cyn eu allforio yn y gobaith y gallen nhw wneud mwy o arian.
Prosesu Nwyddau • Beth yw anfantais y cynllun yma i wledydd eraill? • Ydych chi’n cytuno bod trigolion y goedwig law yn haeddu cael mwy o arian am y nwyddau maent yn eu cynhyrchu?
Paneli Solar • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr
Paneli Solar • Wedi astudio hinsawdd y goedwig law yn barod, rydych yn deall bod y goedwig yn derbyn llawer o haul bob dydd. • Mae llawer o dir yn cael ei golli er mwyn cynhyrchu trydan-dŵr. Mae wedi ei brofi bod torri coed a boddi’r tir ar gyfer cynhyrchu trydan-dŵr yn gwaethygu cynhesu byd-eang drwy ryddhau llawer o garbon deuocsid. • Mae cynhyrchu trydan drwy ddefnyddio paneli solar yn mynd i gynhyrchu llawer o drydan dibynadwy a hynny heb wneud cymaint o ddifrod i’r amgylchedd.
Paneli Solar • Ydych chi’n meddwl ei bod yn bosibl i baneli solar gael eu dosbarthu i bob rhan o’r goedwig law? • Beth yw’r ffordd orau o gynhyrchu trydan yn y goedwig law yn eich barn chi?
Mwyaf Lleiaf Pa ddulliau fydd fwyaf llwyddiannus yn eich barn chi? Rhowch glic chwith i ddewis label, yna’i lusgo. Clic chwith eto i ollwng. Eco dwristiaeth Prosesu Nwyddau Rheoli datgoedwigo Paneli Solar Plannu coed Tapio rwber
Tasg Estynedig • YDY CYNALIADWYEDD YN BOSIBL O FEWN Y GOEDWIG LAW? • Rhowch gyflwyniad i’r goedwig law. Pam maen nhw mor bwysig? • Beth yw’r rhesymau dros ddatgoedwigo? • Yn eich barn chi ydy cynaliadwyedd yn bosibl? Pam ydych chi’n • meddwl hyn? • Cyflwynwch y 4 syniad gorau am gynaliadwyedd yn eich barn chi.